Dyma’r degfed mis i’r twf mewn prisiau tai arafu, ac mae’r premiwm treth cyngor ail gartrefi yn helpu’r sefyllfa yng Nghymru, yn ôl un dadansoddiad.

Yn flynyddol, cododd pris cyfartalog cartrefi sy’n cael eu gwerthu yng Nghymru a Lloegr tua £4,500 neu 1.2% ym mis Mehefin 2023, ac mae bellach yn £371,204.

Dyma’r gyfradd isaf o gynnydd blynyddol ers mis Mai 2020.

Ers Ebrill 2023, gall awdurdodau lleol benderfynu codi premiwm treth cyngor o hyd at 300% ar berchnogion ail gartrefi a’r rheiny gydag eiddo gwag.

Gostyngodd prisiau 16 o’r 22 Awdurdod Lleol yn ystod mis Mai, gyda’r gostyngiad mwyaf ym Mro Morgannwg (-4.6%), ac yna Powys (-4.5%) a Sir Ddinbych (-4.2%).

Mae Bro Morgannwg yn codi premiwm o 100%, mae Powys yn codi premiwm o 75% a Sir Ddinbych yn codi premiwm o 50% ar eiddo o’r fath.

Mae’n ymddangos bod rhai perchnogion ail gartrefi wedi penderfynu bod y taliadau hyn yn rhy uchel, ac yn gwerthu, yn ôl dadansoddiad y syrfewyr tai, e.surv.

Gostyngiad cymharol fach

Fodd bynnag, dros Gymru a Lloegr dydy pris mygedol gwirionedd tŷ ond £7,700 yn is nawr, na phan oedd prisiau ar eu huchaf ym mis Hydref 2022.

Mae’r gostyngiad hwnnw’n weddol fach, yn enwedig o gymharu â’r cynnydd cronnol o £39,500 ers mis Awst 2021.

Mae prisiau tai cyfartalog wedi codi tua £56,000, neu 18%, ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020.

Fodd bynnag, dros yr un cyfnod mae’r Mynegai CPIH, sy’n mesur chwyddiant ar y cyd â phrisiau bod yn berchen, cadw a byw yn eich tŷ eich hun, wedi codi tua 19% – felly mewn termau real mae pris tŷ cyfartalog wedi gostwng 1% ers mis Mawrth 2020.

Pwysau’n parhau wrth i Fanc Lloegr frwydro yn erbyn chwyddiant

Dywedodd Richard Sexton, Cyfarwyddwr y syrfewyr siartredig, e.surv: “O ystyried y twf mewn prisiau tai dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ein data, sy’n cynnwys pryniannau arian parod, yn dangos darlun gwydn.

“Yn flynyddol, cododd pris gwerthu cyfartalog cartrefi a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2023 tua £4,500, neu 1.2%, ac mae bellach yn £371,204.

“Dyma’r gyfradd isaf o gynnydd blynyddol ers mis Mai 2020, a dyma’r degfed mis yn olynol i gyfradd flynyddol chwyddiant prisiau ostwng.

“Mae pryniannau arian parod yn bwysig pan fo costau benthyca’n codi ar gyfradd o’r fath.

“Does yna dal ddim digon o’r math iawn o eiddo ac ni fydd y gostyngiad yn y ffigurau adeiladu tai disgwyliedig dros y misoedd nesaf yn gwneud dim i leddfu’r diffyg cyflenwad sy’n parhau i gynnal prisiau.”

Daw’r sylwadau wrth gyfraddau morgeisi gynyddu i’w lefel uchaf ers pymtheg mlynedd heddiw (Gorffennaf 11).

Erbyn hyn, mae’r gyfradd gyfartalog ar gyfer cytundeb sefydlog dwy flynedd wedi codi i 6.66%, lefel sydd heb ei gweld ers mis Awst 2008 a’r argyfwng ariannol.

Mae costau morgeisi wedi bod yn cynyddu’n ddiweddar wrth i fenthycwyr geisio delio â chwyddiant ac ansicrwydd dros gyfraddau llog sy’n cael eu gosod gan Fanc Lloegr.

Ychwanega Richard Sexton nad yw’n synnu bod costau morgeisi drytach yn effeithio ar brisiau i ryw raddau, a’i fod yn disgwyl y bydd pwysau’n parhau wrth i Fanc Lloegr barhau i frwydro yn erbyn chwyddiant.

Cyfraddau llog: Beth mae’r cynnydd yn ei olygu i forgeisi?

Elin Wyn Owen

Mae cyfraddau llog morgeisi wedi bod yn cynyddu’n sydyn dros y chwe mis diwethaf ar ôl …