Mae cyfraddau llog morgeisi wedi bod yn cynyddu’n sydyn dros y chwe mis diwethaf ar ôl blynyddoedd o fod yn isel iawn.

Gyda chyfraddau uwch yn golygu taliadau morgeisi uwch, mae arbenigwyr yn dweud bod peryg i fwy a mwy o bobol fynd i ddyled neu golli eu cartrefi.

Gall arwain at gynnydd mewn prisiau rhent hefyd, wrth i landlordiaid gynyddu costau er mwyn talu morgeisi.

Ond, beth mae hyn yn oll yn ei olygu a sut mae’r newidiadau’n effeithio ar bobol â gwahanol fathau o forgeisi?

Beth yw cyfradd sefydlog?

Gyda morgais cyfradd sefydlog, bydd y gyfradd llog rydych yn ei thalu yn aros yr un fath trwy gydol y cytundeb, waeth beth sy’n digwydd i gyfraddau llog yn y farchnad.

Pan ddaw’r cyfnod hwn i ben, byddwch yn symud ymlaen i gyfradd amrywiol safonol (SVR), oni bai eich bod yn ailforgeisio. Mae’r SVR yn debygol o fod yn sylweddol uwch na’ch cyfradd sefydlog, a all arwain at gynnydd mawr yn eich ad-daliadau misol.

Beth yw cyfradd amrywiol safonol (SVR)

Un ffurf o gyfraddau amrywiol yw cyfradd amrywiol safonol (SVR). Dyma’r gyfradd llog y mae benthyciwr morgais yn ei defnyddio ar gyfer ei forgais safonol ac yn aml mae’n dilyn symudiadau cyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn fras.

Os ydych ar SVR eich benthyciwr morgais, byddwch yn aros ar y gyfradd hon cyhyd â bod eich morgais yn para neu nes i chi gael cynnig morgais arall.

Oherwydd bod SVR benthyciwr yn aml yn dilyn cyfradd Banc Lloegr, gallai’ch cyfradd godi neu ostwng ar ôl newid yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr.

Pam fod y cyfraddau llog yn cynyddu?

Ar Ddydd Iau (Mehefin 22, 2023), codwyd cyfradd llog (Cyfradd Banc) Banc Lloegr o 0.5 pwynt canran i 5%.

Mae eu cyfradd llog yn dylanwadu ar lawer o gyfraddau eraill yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyfraddau benthyciadau, morgeisi neu gyfrifon cynilo. Mae’r Gyfradd Banc hefyd yn cael ei hadnabod yn eang fel ‘y gyfradd sylfaenol’ neu ‘y gyfradd llog’.

Mae Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog oherwydd bod chwyddiant yn rhy uchel. Mae ychydig o dan 9% nawr a’u targed yw 2%.

Os oes gennych forgais neu fenthyciad, mae hynny’n golygu y gallai eich taliadau godi. Os oes gennych chi gynilion, mae hynny’n golygu y gallech gael enillion uwch.

Yn ôl Banc Lloegr, os nad ydyn nhw’n codi cyfraddau nawr, gallai chwyddiant uchel barhau am hirach. Maen nhw’n credu mai codi cyfraddau llog yw’r ffordd orau o gael chwyddiant yn ôl i lawr i’r targed o 2%, ac maen nhw’n disgwyl i chwyddiant ostwng yn sylweddol flwyddyn yma.