Mae’r gyfradd morgais cyfartalog ar gyfer cytundeb sefydlog pum mlynedd wedi codi i 6.01%, yn ôl cwmni gwybodaeth ariannol.

Mae’r gyfradd morgais ar gyfer cytundeb sefydlog dwy flynedd hefyd wedi cynyddu, ond i 6.47%, yn ôl Moneyfacts.

Daw hyn wedi i Fanc Lloegr godi cyfraddau llog i’r lefel uchaf mewn 15 mlynedd i 5% fis diwethaf, wrth iddo geisio gostwng chwyddiant.

Dyma’r uchaf i gytundeb sefydlog pum mlynedd fod ers mis Tachwedd, yn dilyn cyllideb fach llywodraeth Liz Truss.

Flwyddyn yn ôl, roedd y cyfraddau hynny’n agosach at 3%.

Mae’r rhan fwyaf o bobol gyda morgeisi ar gytundebau cyfradd sefydlog a bydd dros 2.4 miliwn o gytundebau cyfradd sefydlog yn dod i ben rhwng nawr a diwedd 2024, meddai UK Finance.

Cyfraddau llog: Beth mae’r cynnydd yn ei olygu i forgeisi?

Elin Wyn Owen

Mae cyfraddau llog morgeisi wedi bod yn cynyddu’n sydyn dros y chwe mis diwethaf ar ôl …

‘Is na’r cyfartaledd hir dymor’

Yn ôl un cynghorydd morgais yn Ninbych, mae hi’n gyfnod ansicr ac mae pobol wedi colli eu hyder yn y farchnad dai.

“Dw i’n gynghorydd rŵan ers tair blynedd, felly dydw i heb ddod ar draws cyfnod fel hyn yn fy ngwaith o’r blaen, gan fy mod i’n gymharol newydd i’r proffesiwn,” meddai Sioned Sellers wrth golwg360.

“Ond fel rhywun wnaeth brynu tŷ 15 mlynedd yn ôl, dyma oedd y cyfraddau ar y pryd, neu ychydig bach yn uwch.

“Mae beth maen nhw wedi bod wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn eithriad, a dw i’n gwybod hynny oherwydd y cyfraddau ro’n i wedi talu 15 mlynedd yn ôl.

“A’r gwirionedd ydy, mae’r cyfraddau ar y funud dal ychydig yn is na’r cyfartaledd hir dymor os wyt ti’n edrych ar ystadegau sy’n mynd yn ôl degawdau.

“Felly’r drafferth dw i’n cael ydy mai cyfraddau llog isel ydy’r unig beth mae pobol sy’n eithaf newydd i’r farchnad erioed wedi cael profiad ohono.

“Felly dw i’n clywed pobol yn gofyn yn aml: ‘Pryd ydych chi’n meddwl bydd y cyfraddau llog yn dod yn ôl i lawr i be oedden nhw?’

“Y gwirionedd ydy, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithriad yn hytrach na’r norm, felly mae’n annhebygol y byddan nhw’n mynd yn ôl i lawr – ddim yn y dyfodol agos beth bynnag.

“Dw i’n trio newid meddylfryd pobol i ryw raddau achos mae yna lot yn dal i hoelio eu cynlluniau ar y cyfraddau llog yma’n dod yn ôl i lawr i 2-2.5%.

“Does neb yn gallu bod yn bendant, ond o’r sgyrsiau rydan ni wedi bod yn cael gyda phobol sy’n uchel fyny yn y banciau mawr, maen nhw’n rhagweld y bydd y cyfraddau morgeisi yn dod lawr i tua 4.5%, ond dim am tua blwyddyn.”

‘Pa mor hir wyt ti’n disgwyl?’

Mae gwahanol ffyrdd o edrych ar y sefyllfa, yn ôl Sioned, ond y cwestiwn mawr i nifer ydy pa mor hir ydych chi’n disgwyl i’r cyfraddau ddisgyn er mwyn prynu tŷ, ac a fydd o werth y cyfnod o ddisgwyl?

“Mae o fel bod pobol yn disgwyl i weld be wneith ddigwydd, felly mae’r farchnad yn marw’n syth.

“Ac wedyn mae pobol yn cael bach mwy o hyder, ac mae’r farchnad yn pigo fyny eto.

“Ac efo’r gyfradd yn codi eto diwrnod o’r blaen, mae o wedi achosi ansicrwydd eto.

“A dw i’n siŵr wneith hi aros yn ansicr am gwpl o wythnosau eto.

“Ond y cwestiwn ydy, pa mor hir wyt ti’n disgwyl?

“Yr hiraf ti’n disgwyl, y lleiaf o amser sydd gen ti i dalu dy forgais yn ôl.”

Sefyllfa pawb yn unigryw

Mae hi’n anodd rhoi cyngor i bawb ar y cyd gan fod sefyllfa pawb yn wahanol, meddai Sioned.

Ond ei phrif gyngor yw trefnu i siarad gyda chynghorydd morgais.

“Mae sefyllfa pawb yn hollol unigryw, a dyna pam mae hi’n werth cael gair efo cynghorydd.

“Mae yna gymaint o newidiadau ym mywydau pawb, felly mae hi’n anodd cyffredinoli be fyddai’r cyngor.

“Ffordd arall o edrych arni ydy, dydy prisiau tai ddim yn codi ar yr un gyfradd ag oedden nhw.

“Dydy prisiau tai yn y gogledd ddim wedi cael eu heffeithio cymaint â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ble mae prisiau tai wedi cychwyn mynd i lawr rhywfaint.

“Mae hynna’n amlwg yn fantais i rai.”