Cefnogi ei phlant yn yr ysgol oedd prif reswm mam o Ynys Manaw dros ddysgu Cymraeg, ond mae’r cerddor Daniel Lloyd wedi’i hannog i ddal ati.

Daeth Graihagh Pelissier, sy’n byw yn yr Wyddgrug, ar draws Daniel Lloyd am y tro cyntaf mewn pantomeim yn Theatr Clwyd a chael ei chyfareddu gan ei lais.

Fe wnaeth ymweliad penwythnos â Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ei hysbrydoli i barhau i ddysgu’r iaith hefyd, ynghyd â chynyddu ei diddordeb yn y diwylliant Cymraeg.

“Dw i’n cofio gwylio panto Rock ‘n Roll yn Theatr Clwyd a chael fy swyno gan lais un o’r actorion – Daniel Lloyd. Roedd ei lais mor anhygoel,” meddai Graihagh Pelissier.

“Mi wnes i ychydig o ymchwil a dod i ddeall fod ganddo fand oedd yn canu yn Gymraeg sef Daniel Lloyd a Mr Pinc.

“Fe wnes i ddechrau gwrando ar ei gerddoriaeth, ac wedyn, bandiau eraill Cymraeg, a darganfod byd a diwylliant newydd sbon trwy gyfrwng y Gymraeg.”

‘Hwb i sgwrsio’

Roedd Graihagh Pelissier yn dilyn cwrs gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, trwy ei darparwr, Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, pan ddaeth tiwtor newydd, Eilir Jones, sydd hefyd yn actor a chomedïwr adnabyddus, i’w dysgu.

“Rydyn ni’n gweithio yn galed gydag Eilir, ond hefyd, rydyn ni’n cael llawer o hwyl, a dw i’n mwynhau’r dosbarthiadau’n fawr iawn.

“Felly, pan welais hysbyseb ar gyfer penwythnos dysgwyr yng Nglan-llyn, ro’n i’n gwybod y dylwn fynd.

“Roeddwn i braidd yn nerfus, ond roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi ei wneud.”

Ers hynny, mae Graihagh Pelissier wedi ymuno â Dawnswyr Delyn a Chôr y Pentan, ac yn mwynhau dysgu mwy am yr iaith a’r diwylliant drwy ddawns a chân.

“Roeddwn i wedi bod yn meddwl am fynd i Glwb Clebran yn y dafarn Saith Seren yn Wrecsam ers tro, a phan welais fod Daniel Lloyd a Mr Pinc yn chwarae yno, rhoddodd yr hwb i mi fynd i’r grŵp sgwrsio a phrynu tocyn ar yr un pryd.

“Rŵan, dw i’n trio mynd i Glwb Clebran unwaith neu ddwywaith y mis, ac yn mynd i weld fy hoff fandiau yn fyw, mor aml â phosib.”

Taith i’r teulu

Mae ei gŵr, Chris, wedi bod yn dysgu’r iaith hefyd, ac mae’r plant yn siarad Cymraeg yn rhugl gan eu bod nhw wedi bod yn mynychu ysgolion Cymraeg Glanrafon a Maes Garmon.

“Dw i wir isio i fy mhlant ymfalchïo eu bod yn gallu siarad Cymraeg a mwynhau popeth sydd gan y diwylliant i’w gynnig iddyn nhw,” meddai Graihagh Pelissier.

“Rŵan, mae hon yn daith rydyn ni i gyd yn ei chymryd efo’n gilydd.”

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ei bod hi’n “wych” clywed sut mae hi Graihagh Pelissier wedi cael ei hysbrydoli ar hyd ei thaith i ddysgu iaith.

“Mae Graihagh wedi cofleidio’r Gymraeg ac mae dysgu’r iaith wedi arwain at brofiadau gwerthfawr – llongyfarchiadau enfawr iddi hi a’i theulu.”