Deiseb i wella diogelwch dŵr ac atal boddi ydy Deiseb y Flwyddyn y Senedd eleni.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio llynedd gan Leeanne Bartley o Ruthun wedi i’w mab, Mark Allen, farw ar ôl neidio i ddŵr oer mewn cronfa ddŵr yn 2018.

Casglwyd dros 11,000 o lofnodion, a ysgogodd Pwyllgor Deisebau’r Senedd i gynnal ymchwiliad i ffyrdd o atal damweiniau drwy foddi yng Nghymru.

O ganlyniad i’r ymchwiliad, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i amrywiaeth o fesurau i wella diogelwch dŵr, fel penodi Gweinidog penodol i arwain y gwaith o atal boddi a datblygu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr.

Yn dilyn pleidlais gyhoeddus, cyhoeddwyd mai deiseb ‘Cyfraith Mark Allen’ oedd Deiseb y Flwyddyn, gan guro deisebau’n galw am fwy o gymorth i gleifion canser y fron metastatig, gwahardd rasio milgwn, gwella gofal endometriosis, a chymorth i rieni â phrofiad o fod mewn gofal.

‘Mwy i’w wneud’

Dywedodd Leeanne Bartley bod ennill Deiseb y Flwyddyn yn golygu gymaint iddi hithau a’r teulu.

“Roedd Mark bob amser eisiau helpu eraill, ac rydym am iddo gael ei gofio am sut yr oedd yn byw ei fywyd. Mae ein deiseb yn parhau er cof amdano – a bydd yn achub bywydau,” meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i wneud rhai newidiadau pwysig yn sgil ein hymgyrch.

“Ond mae mwy i’w wneud, a chredaf y bydd addysgu plant a phobol ifanc am ddiogelwch dŵr, fel yr ymgyrch ‘arnofio i fyw’, yn achub bywydau.

“Mae’r broses ddeisebu wedi bod yn hynod gynorthwyol, ac rydym wedi cael cefnogaeth wych gan y Pwyllgor.

“Os ydych chi’n angerddol am rywbeth, byswn yn bendant yn argymell dechrau deiseb os ydych chi am wneud gwahaniaeth. Ewch amdani!”

‘Gweithio’n ddiflino’

Dywedodd Jack Sargeant Aelod Seneddol Llafur a Chadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd: “Llongyfarchiadau i Leeanne Bartley a phawb sydd wedi cefnogi – ac yn parhau i gefnogi – eu hymgyrch dros ddiogelwch mewn dŵr agored.

“Mae Leeanne wedi gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’i hymgyrch, ac wedi dod â phobol ynghyd i sicrhau’r newid.

“Nid yw’n syndod bod pobol Cymru wedi dweud mai hon yw Deiseb y Flwyddyn.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobol yn cael eu hysbrydoli ac yn gweld y broses ddeisebu fel ffordd o ysgogi newid yng Nghymru.”

Os bydd deiseb yn cael 250 o lofnodion bydd yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau a gallan nhw gomisiynu adroddiad i ddadansoddi’r mater yn fanylach.

Mae deisebau gyda dros 10,000 o lofnodion yn cael eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

O’r 187 deiseb gafodd eu hanfon rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, fe wnaeth aelodau’r Pwyllgor Deisebau enwebu’r pump gyrhaeddodd rhestr fer Deiseb y Flwyddyn.