Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Drysorlys y Deyrnas Unedig i ddod â’r anghyfiawnder sy’n wynebu gyrwyr ceir mewn ardaloedd gwledig i ben.

Ar hyn o bryd, mae cynllun mewn grym mewn 17 ardal yn Lloegr a’r Alban sy’n caniatáu i fanwerthwyr hawlio rhyddhad treth ar betrol a disel a throsglwyddo arbedion i gwsmeriaid.

Mae Plaid Cymru’n awyddus i ymestyn y cynllun, sy’n weithredol mewn ardaloedd fel Dyfnaint a Gogledd Swydd Efrog, i Wynedd.

Nid oes unrhyw ardal o Gymru yn gymwys ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd.

Daw galwad Liz Saville Roberts wrth i’r llywodraeth lansio cynllun lle bydd gyrwyr yn gallu chwilio am brisiau tanwydd rhatach, gyda’r bwriad o atal manwerthwyr rhag codi gormod arnyn nhw wrth y pwmp.

Mae Plaid Cymru’n ymgyrchu ers tro i’r cynllun treth tanwydd gwledig gael ei ymestyn i Gymru, sef y wlad sy’n dibynnu fwyaf ar geir yn y Deyrnas Unedig.

Dim dewis ond defnyddio ceir

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae trafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy yn cyfrannu at gostau uchel i aelwydydd gwledig gan nad oes gan lawer o bobol ddewis ond defnyddio’u ceir ar gyfer teithiau hanfodol.

“Er gwaethaf hyn, nid yw’r cynllun Rhyddhad Treth ar Danwydd Gwledig yn berthnasol i un ardal o Gymru.

“A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i bwyso ar y Trysorlys i ddiwygio’r cynllun i ystyried mynediad at rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus leol yn ogystal â rhoi gwarant o gynhwysiant ar gyfer ardaloedd Cymru.”

Angen cymorth wedi’i deilwra

Ychwanegodd Liz Saville Roberts: “Wedi’i amddifadu o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, Cymru yw’r wlad sydd fwyaf dibynnol ar geir yn y Deyrnas Unedig.

“Felly mae prisiau uwch yn effeithio’n anghymesur arnom.

“Mae ardaloedd gwledig yr Alban a Lloegr sydd â lefelau uchel o ddibyniaeth ar geir yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth tanwydd gwledig. Ac eto nid yw Cymru.

“Mae angen cymorth wedi’i deilwra arnom i ddarparu rhyddhad rhag cynnydd mewn biliau ynni a phrisiau tanwydd oddi ar y grid.

“Mae costau tanwydd yn achosi problemau difrifol i weithwyr mewn ardaloedd gwledig sy’n ddibynnol ar geir fel Dwyfor Meirionnydd.

“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd pob cam posibl i liniaru’r effaith ar y rhai sydd fwyaf bregus i brisiau uchel.”