Mae gwaith ymchwil newydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 4), sy’n edrych ar sut y gall busnesau weithio gydag ysgolion a cholegau er budd pobol ifanc i’r dyfodol.

Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’, gan Dr Hefin David AS, yn edrych ar brofiad y gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi dysgwyr yn y cyfnod pontio o addysg i gyflogaeth yng Nghymru.

Mae rhai o argymhellion adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’ eisoes yn cael eu gweithredu.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, £500,000 ar gyfer cynllun profiad gwaith pwrpasol i ddysgwyr ifanc sy’n ymddieithrio oddi wrth addysg ac mewn perygl o fod yn NEET.

Mae Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru erbyn hyn, o 3-16 oed, gan ddod â’r maes i sylw ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd.

Argymhellion

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

  • Rhoi profiadau dilys ac ystyrlon o fyd gwaith i ddysgwyr.
  • Sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar eglurder llawn ynghylch pa opsiynau sydd ar gael iddynt yn dilyn addysg ôl-orfodol yn gynnar yn y broses.
  • Dylai’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) weithio gyda darparwyr addysg academaidd a galwedigaethol er mwyn atal y sector rhag darnio, a darparu buddion cilyddol i ddysgwyr, ysgolion ac addysg bellach.
  • Sicrhau bod cynnig o leoliad profiad gwaith ystyrlon ar gael i bob dysgwr 14-18 oed yng Nghymru.
  • Paru lleoliadau profiad gwaith mor agos â phosibl â diddordebau a sgiliau dysgwyr.

‘Cyfle i feithrin talent ifanc’

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Jeremy Miles: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir y manteision lawer i fusnesau o greu partneriaethau cryf gydag ysgolion a cholegau.

“Yn ogystal â dod â boddhad enfawr, gall hefyd fod yn gyfle i feithrin talent ifanc a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol, gan greu cronfa fwy o dalent a diogelu’r sgiliau angenrheidiol i’r dyfodol. ”

Cynllun cwmni ynni gwynt

Mae disgyblion cynradd yn Sir Benfro eisoes yn elwa ar gynllun sy’n cael ei redeg gan gwmni ynni gwynt ar y môr ger Doc Penfro, Floventis Energy.

Mae’r cwmni, ynghyd â Chanolfan Darwin, yn rhedeg gweithdai gyda disgyblion 7-11 oed.

Yn dilyn cyfres o weithdai ar strwythurau arnofiol gwynt ar y môr, newid hinsawdd, tanwydd ffosil, a manteision ynni adnewyddadwy, â ffocws ar gyfleoedd gwaith i’r dyfodol, cafodd gwaith y plant ei arddangos yn y Senedd.

Roedd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith o Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Gynradd Saundersfoot, Ysgol Portfield School, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Cleddau Reach, Ysgol Gynradd Arberth ac Ysgol Gynradd St Francis, Aberdaugleddau.

Elusen yn Sir Benfro yw Canolfan Darwin sy’n ennyn brwdfrydedd pobol ifanc a chymunedau mewn pynciau STEM drwy deithiau maes a gweithdai ymarferol, o archwilio pyllau bach mewn creigiau i ffiseg niwclear ddamcaniaethol.

Mae’n rhoi mynediad at arbenigwyr yn y diwydiant STEM ac yn tynnu sylw at y gyrfaoedd posibl sydd ar gael i bobol ifanc Sir Benfro.

Dywedodd Tess Blazey, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol Floventis: “Wrth inni barhau i gyflwyno ein rhaglen addysg ac ymgysylltu, mae’n wych gweld diddordeb plant lleol yn eu hamgylchedd, a’r cyfleoedd a ddaw i Gymru yn sgil ynni gwynt ar y môr.

“Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ysbrydoli pobol ifanc i ddatblygu eu sgiliau STEM ac ystyried gyrfaoedd mewn ynni adnewyddadwy i’r dyfodol.”