Mae grŵp YesCymru Bangor wedi dweud eu bod yn gyffrous iawn i gynnal yr orymdaith yn y ddinas, yn dilyn cyhoeddiad YesCymru a mudiad Pawb Dan Un Faner (AUOBCymru) mai Bangor fydd lleoliad yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth.

Fe fydd yr orymdaith yn cael ei chynnal ar 23 Medi, gyda chefnogwyr yn ymgynnull ym Maes Parcio Glanrafon o 12pm ymlaen, gyda’r orymdaith yn dechrau’n swyddogol am 1pm.

Maen nhw’n annog pobol i ddod â baneri, chwibanau, drymiau a’u teuluoedd a ffrindiau.

Dangosodd yr arolwg barn ddiweddaraf y byddai 34% o bobol yn pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm yfory.

Yn dilyn llwyddiant yr orymdaith dros annibyniaeth yn Abertawe yn gynharach eleni, pan orymdeithiodd dros 7,000 o bobol, nod yr orymdaith yw cryfhau’r ymgyrch dros annibyniaeth ymhellach.

‘Byddwch yn siŵr i ymuno efo ni’

Dywedodd llefarydd ar ran YesBangor: “Fel grŵp YesCymru Bangor rydym yn gyffrous iawn i gynnal yr orymdaith nesaf yn ein dinas anhygoel ni.

“Pe bai chi’n gefnogwyr eisoes neu yn newydd i’r cysyniad o Annibyniaeth ac eisiau dysgu mwy am yr ymgyrch, mi fydd croeso mawr i chi gyd ym Mangor; felly byddwch yn siŵr i ymuno efo ni yn yr orymdaith dros ryddid i Gymru ar y 23 Medi.”

‘Pŵer gweithredu ar y cyd’

Wrth siarad ar ran YesCymru, mynegodd Geraint Thomas frwdfrydedd dros y digwyddiad, gan ddweud: “Mae’r orymdaith yn rhoi cyfle i gefnogwyr annibyniaeth – yn ogystal â’r rhai sydd eisiau dysgu mwy – ddod at ei gilydd, yn unedig yn ein nod cyffredin o greu Cymru well.

“Rydym wedi gweld pŵer gweithredu ar y cyd trwy orymdeithiau blaenorol, a chredwn y bydd yr orymdaith hon yn cryfhau ein lleisiau ymhellach ac yn ysbrydoli newid cadarnhaol.”

Ychwanegodd Dave Evans ar ran AUOBCymru: “Trwy gydol hanes mae llywodraethau’r Deyrnas Gyfunol o bob lliw gwleidyddol wedi esgeuluso Cymru, gan ein gweld fel ôl-ystyriaeth ar y gorau.

“Mae wedi dod yn hollol amlwg bod sefydliad gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol yn gwrthwynebu unrhyw fath o newid ystyrlon.

“Nid ymgyrchu dros annibyniaeth er ei fwyn ei hun yr ydym, ond yn hytrach oherwydd ein bod yn dymuno creu Cymru well i bawb sy’n byw yma.

“Rydym felly yn annog pawb sy’n rhannu ein gweledigaeth i ymuno â ni ym Mangor ar Fedi 23 i ymgyrchu dros ddyfodol newydd i Gymru.”