Mae tad bachgen tair oed, fu farw mewn tân yn Abertawe dros y penwythnos, wedi marw yn yr ysbyty, meddai’r heddlu.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod Naemat Lawa Esmael, 51 oed, wedi marw’r bore ma (dydd Llun, 3 Gorffennaf). Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys mewn cyflwr difrifol ar ôl y tân yn ardal West Cross tua 1.20 brynhawn Sadwrn, 1 Gorffennaf.
Bu farw ei fab, Muhammad Esmael, yn y tân.
Cafodd merch 13 oed a dynes 39 oed driniaeth am effeithiau anadlu mwg.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price o Heddlu De Cymru bod eu hymchwiliad yn parhau i achos y tân, gan ychwanegu bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau a’r gymuned leol yn dilyn y digwyddiad trasig.
Roedd y tân wedi ei gyfyngu i un tŷ ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng yr heddlu a’r gwasanaeth tân.
Mae ymgyrch GoFundMe wedi cael ei sefydlu ar-lein i godi arian i’r teulu.