Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cyfaddef nad oedd rhai o brif ddogfennau Llywodraeth Cymru ynglŷn â delio â phandemig wedi cael eu diweddaru ers 2014.
Daeth y wybodaeth i’r amlwg yn Ymchwiliad Covid y DU heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 3), wrth i Dr Frank Atherton, a chyn-brif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, wynebu cwestiynau gan gwnsler yr ymchwiliad, Hugo Keith.
Cafodd dwy ddogfen am barodrwydd Llywodraeth Cymru i ddelio gyda phandemig eu cyhoeddi yn 2014, gydag un yn darparu fframwaith i reoli argyfyngau clefydau heintus, a’r llall yn darparu arweiniad ar gyfer pandemig.
Dim proses o ddiweddaru
Yn y sesiwn holi, gofynnwyd i Dr Frank Atherton a oedd o’n gwybod os oedd un o’r ddwy ddogfen wedi cael eu diweddaru ar ôl 2014.
Dywedodd Dr Atherton: “Dydw i ddim yn eu cofio nhw’n cael eu diweddaru.
“Dw i’n meddwl pan wnaethon ni ddiweddaru’r cynllun rheoli achosion, roedd yna gwestiwn wedi codi ynghylch be oedd statws y [ddogfen] ‘Wales Framework for Managing Major Infectious Disease Emergencies’.
“Ar y pryd, doedd hi ddim wedi cael ei diweddaru.
“Felly, dydw i ddim yn meddwl fod yna broses o ddiweddaru wedi bod.”
Ymatebodd y grŵp Teuluoedd er Cyfiawnder mewn Profedigaeth Covid-19 Cymru ar Twitter, drwy ddweud ei fod yn “anghredadwy” a “brawychus”.
Fe wnaeth Dr Atherton wadu fod yna “ganolbwyntio neu sylw annigonol” ar baratoi am bandemig.
“Ar lefel swyddogol, roedd eithaf tipyn o waith yn mynd ymlaen ynghylch parodrwydd.
“Gallwch ddweud ‘a ddylai mwy wedi cael ei wneud?’ – efallai fod hynny’n gwestiwn dilys.
“Ond yn bendant ar lefel swyddogol, roedd eithaf tipyn o waith yn mynd ymlaen ynghylch parodrwydd.”
Mesurau wedi’u gwrthod
Dywedodd Dr Atherton fod mesurau i ddelio â phandemig nad oedd yn ffliw “wedi eu diystyru braidd yn gynamserol”.
“O edrych yn ôl fe allem, a dylem, fod wedi talu mwy o sylw i’r cwestiynau ‘beth os’ – ‘beth os oedd y firws mor wahanol?
“Ar y pryd, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y mesurau hynny wedi’u hystyried a’u diystyru braidd yn gynamserol.”
Cymorth
Dywedodd Dr Atherton hefyd ei fod wastad wedi rhoi ei gyngor yn “rhydd ac yn ddiduedd”.
Dywedoddd gerbron yr ymchwiliad bod gweinidogion a Llywodraeth Cymru “wastad wedi gwrando’n astud ar be roeddwn yn ei ddweud”, ond doedden nhw ddim bob tro’n dilyn ei gyngor yn “ddiwyd”, meddai.
Pan ofynnwyd iddo am staff, dywedodd yr oedd ganddo “rhywfaint o gymorth” ar ddechrau ac yn ystod y pandemig ond roedd yn “adnodd eithaf bach”.
Mae’r sefyllfa wedi newid erbyn hyn, meddai.
Yn hytrach na chymorth gweinyddol, mae ganddo “swyddfa’r Prif Swyddog Meddygol” sy’n darparu “cefnogaeth eithaf rhesymol.”
Mae’r ymchwiliad yn parhau.
‘Sefydlu ymchwiliad Covid i Gymru yw’r peth cywir i wneud’
Ymatebodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, i ganfyddiadau’r ymchwiliad heddiw drwy ddweud: “Mae’n glir o dystiolaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru bod cynllunio pandemig yng Nghymru wedi bod yn gwbl annigonol.
“Rwy’n meddwl heddiw am y teuluoedd a gollodd eu hanwyliaid.
“Tydi hi ddim rhy hwyr i Lywodraeth Cymru – sefydlu ymchwiliad Covid i Gymru yw’r peth cywir i wneud.”