Mae mwy nag wyth o bob 10 rhiant mewn cartrefi incwm isel yng Nghymru (83%) yn torri’n ôl ar wario arnyn nhw eu hunain, gan gynnwys ar fwyd, er mwyn gallu fforddio gweithgareddau haf i’w plant.
Dyna beth mae ymchwil a gomisiynwyd gan Achub y Plant, mewn partneriaeth â’r elusen In Kind Direct, wedi datgelu.
O ganlyniad i’r argyfwng costau byw, dywed dros draean (39%) eu bod yn gorfod dewis rhwng bwydo eu hunain neu ddarparu ar gyfer eu plant.
Mae’r ymchwil hefyd yn datgelu bod:
- Bron i hanner y rhieni (48%) ar incwm isel yng Nghymru yn poeni na fydd eu plant yn bwyta digon o brydau maethlon yr haf hwn.
- Mae chwech o bob deg rhiant (59%) yng Nghymru yn poeni y bydd eu plant yn colli allan ar yr un profiadau a’u ffrindiau.
- Mae dros hanner y rhieni mewn cartrefi incwm isel (52%) yn poeni am eu plant yn teimlo’n unig.
- Dywed bron i hanner (47%) y rhieni nad ydyn nhw’n ymwybodol o weithgareddau hamdden am ddim (fel sgyrsiau, arddangosfeydd, digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth) yn eu hardal a sut y bydden nhw yn dod o hyd i wybodaeth amdanyn nhw.
- Mae dros draean o rieni mewn cartrefi incwm isel (36%) yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o deganau ac offer awyr agored i ddiddanu eu plentyn.
‘Haf llawn pryder’
Wrth i’r argyfwng costau byw barhau, mae’r ymchwil yn dangos bod llawer o rieni yn edrych ar haf llawn pryder wrth iddyn nhw geisio jyglo’r costau cynyddol.
Mae Achub y Plant ac In Kind Direct yn credu y dylai pob plentyn gael y cyfle i chwarae yn ystod misoedd yr haf a mynd yn ôl i’r ysgol neu ddechrau meithrinfa yn barod i ddysgu. Ni ddylai rhieni deimlo’n unig wrth jyglo gofal plant, gweithgareddau a chyllid, meddai nhw.
Meddai Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru: “Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae plant a’u teuluoedd yn wynebu cyfnod cynyddol anodd. Gall unrhyw gost ychwanegol annisgwyl, neu ddigwyddiad heb ei gynllunio, eu llorio. Ac i’r teuluoedd hynny sydd eisoes yn profi tlodi, mae pethau hyd yn oed yn anoddach.
“Mae ein hymchwil yn dangos bod teuluoedd yn ei chael hi’n anodd rhoi’r haf y bydden nhw’n ei hoffi i’w plant, gyda chostau diwrnodau allan, bwyd a chludiant i gyd yn rhwystrau enfawr i greu eiliadau plentyndod pwysig.”
Mae’r ddwy elusen wedi dod at ei gilydd ar gyfer ymgyrch Haf o Chwarae ynghyd â channoedd o fusnesau, elusennau, grwpiau cymunedol a chynghorau ledled y DU, i roi cymorth i rieni ac elusennau lleol gyda chyfraniadau celf a chrefft, gemau a gweithgareddau awyr agored. Mae adnoddau rhad ac am ddim i rieni chwarae gyda’u plant ifanc hefyd ar gael gan gynnwys awgrymiadau hwyliog ar gyfer chwarae dan do ac awyr agored a syniadau am ddiwrnodau allan yn lleol am ddim.
Bydd Achub y Plant Cymru yn cefnogi partneriaid ar draws ardaloedd o Gymru i ddarparu gweithgareddau haf i blant. Mewn rhai lleoliadau bydd yr elusen yn parhau i ddarparu Grantiau Blynyddoedd Cynnar i deuluoedd, gan gynnwys talebau ar gyfer bwyd, nwyddau sylfaenol, yn ogystal â theganau a phecynnau gweithgareddau. Yr haf hwn mae’r elusen hefyd yn lansio ei Wonderpacks newydd, mewn partneriaeth â Boromi, a gynlluniwyd i ysbrydoli teuluoedd i adeiladu chwarae i mewn i’w bywyd bob dydd – gan helpu babanod a phlant ifanc i ddysgu, tyfu a chyrraedd eu llawn botensial.
I lawrlwytho adnoddau rhad ac am ddim Haf o Chwarae yn y Gymraeg a’r Saesneg, ewch i www.summerofplay.co.uk