Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo’r blaid Lafur o osgoi cynnal ymchwiliad Covid annibynnol i Gymru.

Daw hyn ar drothwy ymddangosiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a’r cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn ymchwiliad y DU yfory (dydd Mawrth, Gorffennaf 4).

Fe gafodd cyn-brif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ei holi fel rhan o’r ymchwiliad yr wythnos ddiwethaf, gan gyfaddef nad oedd gan yr Alban gynllun ar gyfer pandemig, ar wahan i’r ffliw.

Mae honiadau hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwaith papur hanfodol cyn gynted ag y dylai fod.

‘Parhau i osgoi atebolrwydd’

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS: “Yfory, bydd gan Mark Drakeford a Vaughan Gething y cyfle i ddarparu eglurder a wynebu cwestiynau am eu hymdriniaeth o bandemig Covid yng Nghymru, yr wyf yn gobeithio y bydden nhw’n ateb yn llawn.

“Mae eu methiant i gyflwyno dogfennau yn amserol yn siomedig.

“Trwy gydol y pandemig, fe wnaeth Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Llafur, ddargyfeirio o weddill y DU, gan olygu bod gan Gymru y nifer uchaf o farwolaethau Covid yn y DU gyfan.

“Eto, mae gweinidogion Llafur yn y Senedd yn parhau i osgoi atebolrwydd, gyda Mark Drakeford yn gwrthod ateb cwestiynau yn y Siambr.

“Rydym angen ymchwiliad Covid annibynnol yng Nghymru i sicrhau craffu priodol o’r modd yr oedd Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael a’r pandemig.

“Mae Llafur wedi rhedeg y GIG i’r llawr ers 25 mlynedd ac wedi bod yn gyfrifol am ein paratoi at y pandemig, ac mae’n hen bryd i’r teuluoedd mewn profedigaeth dderbyn yr atebion maen nhw’n eu haeddu.”

Ychwanegodd Gweinidog Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AS: “Mae gweinidogion Llafur yn y Senedd wedi rhedeg i ffwrdd o gael eu craffu yma yng Nghymru, gan ddatgan fod Ymchwiliad Covid y DU am fod yn ddigon, er gwaethaf cyfaeddefiad y Farwnes Hallett nad oes digon o amser i edrych ar ‘bob mater’ a gwerthuso’r sefyllfa yng Nghymru yn llawn.

“Diolch i alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig, rydym wedi sicrhau Pwyllgor Covid yma, ond rydym yn dal i alw am ymchwiliad Covid cyhoeddus annibynnol fel yr unig ffordd y gall teuluoedd mewn profedigaeth a phobol Cymru gael yr atebion maen nhw’n eu haeddu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cymryd rhan lawn yn ymchwiliad Covid-19 y DU, sydd bellach wedi dechrau ac rydym yn falch y bydd Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19 hefyd.”