Bydd Dafydd Iwan yn derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor eleni.

Yn ôl y cerddor, roedd clywed y newyddion “ychydig bach yn annisgwyl” ond yn un na all ei gwrthod.

Mae’r ymgyrchydd ymysg 11 o unigolion o faes gwyddoniaeth, y gyfraith, chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant poblogaidd fydd yn derbyn gradd er anrhydedd dros yr haf am eu cyfraniad at fywyd cyhoeddus.

Ymhlith yr enwau eraill, mae’r cyflwynydd a’r naturiaethwr Steve Backshall sy’n darlithio ym Mangor; Gwyn Evans, cyn-arweinydd Seindorf Biwmares; Caradog ‘Crag’ Jones, y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest ym mis Mai 1995, a’r Athro Gareth Ffowc Roberts, cyn-Ddirprwy Ganghellor y Brifysgol.

‘Anrhydedd’

Wrth ymateb, dywedodd Dafydd Iwan wrth golwg360 ei fod yn gwerthfawrogi’r radd “yn fawr”.

“Roedd ychydig bach yn annisgwyl,” meddai.

“Mae pob anrhydedd fel yna yn rhywbeth na allwch wrthod.

“Rwy’n gwerthfawrogi yn fawr.

“Mae’n anrhydedd ac rwy’n gwerthfawrogi ac yn falch iawn, ac yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Bangor am feddwl amdana i.”

‘Cyfraniadau gwerthfawr’

Bydd y seremonïau graddio’n cael eu cynnal yn y brifysgol rhwng Gorffennaf 10 ac 14, ac mae’r graddedigion er anrhydedd eraill yn cynnwys y genetegydd planhigion Dr Tina Barsby; y dyn busnes Richard Broyd; y cyn-lawfeddyg mewn rhyfeloedd, Dr Pauline Cutting.

Bydd cyn is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Iwan Davies, y gwyddonydd cadwraeth Dr Salamatu Jidda-Fada, a Dr Dafydd Owen, a fu’n arwain y tîm ddaeth o hyd i’r driniaeth eneuol (genetic) gyntaf i Covid-19, yn cael gradd er anrhydedd hefyd.

Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke: “Seremonïau graddio yw uchafbwynt y flwyddyn academaidd, i ddathlu llwyddiannau a gwaith caled ein myfyrwyr.

“Rydym yn hynod o falch o gael cyfle i wobrwyo unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr iawn at fywyd cyhoeddus ac sy’n ysbrydoli graddedigion ifanc heddiw wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd.”