Ysgol Gyfun Aberaeron ddaeth yn fuddugol yn ail Dalwrn y Beirdd Ifanc Ceredigion eleni.

Cafodd y Talwrn Ifanc ei gynnal am y tro cyntaf rhwng ysgolion Ceredigion yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tregaron y llynedd.

Yn sgil y llwyddiant yn 2022, cafodd y Talwrn Ifanc ei gynnal eto yn ystod mis Mehefin.

Bu beirdd preswyl yn ymweld â saith ysgol uwchradd y sir i annog ac ysbrydoli criw o ddisgyblion i gystadlu mewn Talwrn y Beirdd Ifanc.

Penllanw hynny oedd cystadleuaeth Talwrn y Beirdd Ifanc a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi nos Wener  (Mehefin 30) ar drothwy Gŵyl Fawr Aberteifi, a hynny o dan ofal y Meuryn, y Prifardd Ceri Wyn Jones.

Aneirin Karadog oedd y bardd preswyl fu’n cydweithio â disgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron, ac mae Pennaeth Adran Gymraeg yr ysgol yn gobeithio y bydd y gystadleuaeth yn parhau gan ei fod yn “brofiad mor werthfawr” i bobol ifanc y sir.

“Mae’n gyfle gwych i bobol ifanc Ceredigion gael y cyfle yma,” meddai Elin Efans wrth golwg360.

“Mae’n gyfle gwerthfawr gyda phrifardd i ddechrau gyda, heb sôn am wedyn cael y cyfle i berfformio eu gwaith yn gyhoeddus.

“Balchder gan y disgyblion” 

Yn ôl Elin Efans roedd y disgyblion yn ymfalchïo mewn dod yn gyntaf eleni, ar ôl dod yn drydydd y llynedd.

“Mae fe’n fraint i gael ennill eleni ar draws Ceredigion.

“Cawson ddiwrnod cyfan yn yr ysgol yn gweithio gyda’r prifardd Aneirin Karadog yn paratoi’r tasgau a chael ei hyfforddi o ran sut mae mynd ati i farddoni a chyfansoddi caneuon.

“Wedyn wrth gwrs yr elfen o berfformio ei gwaith yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa.

“Mae pob rhan o’r broses wedi bod yn werthfawr iddyn nhw o eistedd lawr i gael yr awen, i greu a chynllunio ei gwaith i berfformio’r gwaith terfynol ar y diwedd.

“Wrth gwrs, cael y Prifardd Ceri Wyn Jones yn beirniadu eu gwaith nhw [hefyd].

“Roedd y feirniadaeth yn cael ei wneud yn eithaf hwyl, doedd dim darn o waith yn cael ei feirniadu’n ddarnau’n negyddol.

“Fi’n credu ei fod wedi rhoi hwb i bobol ifanc i barhau gyda barddoni yn y dyfodol.” 

“Profiadau gwerthfawr”

Bu Gwennan Evans yn fardd preswyl yn Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr; Endaf Griffiths yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul; Gwenallt Llwyd Ifan yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron; Arwel Rocet Jones yn Ysgol Penglais yn Aberystwyth; Megan Lewis yn Ysgol Penweddig yn Aberystwyth; Hywel Griffiths yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Trefnwyd y digwyddiad gan Anwen Eleri Bowen, Swyddog Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Ceredigion, a oedd yn teimlo bod y bobol ifanc wedi elwa’n fawr.

“Ymfalchïwn fod ein saith ysgol uwchradd mor awyddus i fod yn rhan o’r Talwrn a diolch yn fawr i’r beirdd am fodloni i fentora a chydweithio gyda’r criw,” meddai Anwen Eleri Bowen.

“Mae’r Talwrn yn cynnig profiadau gwerthfawr a chyfoethog iawn i’n disgyblion.

“Mae’n gyfle euraidd i griw bach o ddisgyblion gael cwmni bardd am ddiwrnod i weithio a chreu gwaith creadigol ar gyfer cystadleuaeth.

“Mae’n gyfle i ysgrifennu’n greadigol yn unigol ac ar y cyd, trafod a rhannu barn am waith ei gilydd, mireinio’r gwaith ar y cyd, a’r penllanw oedd gweld y gwaith wedi ei ddatblygu i weithiau gorffenedig a glywsom nos Wener.”

“Mae profiad o’r fath yn datblygu hyder y disgyblion i rannu eu gwaith yn gyhoeddus a bod yn barod am feirniadaeth a gobeithio yn eu hannog i gynnig eu gwaith i gystadlaethau llenyddol yn ein heisteddfodau lleol. Diolch yn fawr i’r ysgolion a’r beirdd am eu cydweithrediad.”