Mae archif digidol o glipiau fideo o’r 1960au hyd y degawd diwethaf ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim yn llyfrgelloedd Gwynedd.

Ar gyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yw’r unig ffordd o wylio’r clipiau hyn gan gynllun Replay y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI).

Mae’r archif yn cynnwys hen fideos wedi eu digideiddio o gasgliadau nifer o bartneriaid, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr wneud gwaith ymchwil a mwynhau casgliad o filoedd o fideos yn deillio o’r 1960au hyd y 2010au, yn ôl Cyngor Gwynedd.

Mae’n bosib gwylio cynnwys sy’n berthnasol i’r sir, megis animeiddiad o ‘Lwmp o Jaman’ gan ddisgyblion Ysgol Maesincla, Caernarfon neu wylio taith y trên stêm olaf o’r Bala i Flaenau Ffestiniog.

Mae’r cam wedi sicrhau y bydd y casgliad ar gael i ddefnyddwyr am flynyddoedd i ddod, a gydag amser bydd yr archif ddigidol fyw yn tyfu wrth i glipiau newydd barhau i gael eu hychwanegu ati.

Edrych ar y gorffennol

Yn ôl Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd, mae’n gyfle gwych i weld bywydau pobol yn y gorffennol a deall ein presennol.

“Mae’r fideos yn cynnig cyfle i ail-fyw’r gorffennol ac i ddefnyddwyr iau [weld] be oedd yn mynd â bryd pobol yn y blynyddoedd a fu,” meddai Nia Gruffydd wrth golwg360.

“Maen nhw’n rhoi cipolwg ar y pethau hynny oedd yn bwysig i bobol yn y blynyddoedd sydd wedi pasio, beth oedd y pynciau llosg, beth oedd pobol yn feddwl, sut oedden nhw’n ymddwyn, byw a gwisgo hyd yn oed!

“Mae’r fideos yn ddifyr i hel atgofion, ond hefyd fel cofnod o’r hen oes.

“Efallai bod o’n dangos bod yr hyn oedd yn poeni pobol ers talwm yn debyg iawn i’r hyn sy’n poeni pobol rŵan.

“Gall ddangos pa newidiadau sydd wedi bod – er da, ac er drwg.”

Ynghyd â hel atgofion, gall y clipiau fod yn ffordd o ddeall y presennol, eglura Nia Gruffydd.

“Mae cadw cofnod neu gof yn allweddol bwysig o ran ein hanes,” meddai.

“Mae ein hatgofion byw ni yn rhan o’r hanes hwnnw.

“Mae o’n gallu bod yn nostalgia am gyfnod aeth heibio, ond mae o hefyd yn gallu bod yn ffordd i ni ddeall y presennol, yn enwedig o ran ein diwylliant, ein treftadaeth, ein hiaith ac yn y blaen, yn ogystal â’n hagweddau cymdeithasol.

“Gall hefyd gynnig ysbrydoliaeth o ran syniadau, a ffynhonnell ddifyr i gloddio ynddi.”

Pontio’r cenedlaethau

Dwedodd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet Datblygu’r Economi a Chymuned sydd â chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, ei fod yn ardderchog i bobol weld y gorffennol a gwneud ymchwil.

“Mae’n wych gweld fod Llyfrgelloedd Gwynedd ar y blaen yn cymryd rhan yn y cynllun hwn, a dwi’n siŵr y bydd defnyddwyr Llyfrgelloedd Gwynedd yn elwa’n fawr ohono,” meddai’r Cynghorydd.

“Bydd yn gyfle gwych i drigolion i ail-fyw digwyddiadau gan bontio’r cenedlaethau.

“Bydd hefyd yn galluogi pobl i wneud gwaith ymchwil ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ymddiddori yn eu harchifau lleol a darganfod sut mae gwleidyddiaeth, ideoleg a theledu wedi siapio ein bywydau.”

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan BFI Replay.

Canrif o raglenni radio a theledu dan yr un to

Cadi Dafydd

“Mae’r archif yn gasgliad mor gyfoethog o gynnwys, boed yn rhaglenni dogfen neu’n newyddion neu’n ddramâu neu’n chwaraeon neu beth bynnag”