Mae gan Gymru Archif Ddarlledu Genedlaethol – yr un gyntaf o’i math ym Mhrydain…

Am y tro cyntaf erioed, gall y cyhoedd gael mynediad at dros ganrif o hanes darlledu yng Nghymru a channoedd ar filoedd o raglenni radio a theledu.

Agorodd Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar, a dyma’r archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yn Ynysoedd Prydain.