Ers ei thro cyntaf yn gwylio’r band Brigyn yn perfformio yn ei harddegau, roedd Elin Wiliam wedi gwirioni. Dyma ei chyflwyniad i’r Sîn Roc Gymraeg. A bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach mae hi’n rhyddhau’r sengl ‘Agor y Drysau’ gyda chanwr Brigyn, Ynyr Roberts.

‘Popeth’ ydy prosiect cerddorol diweddaraf Ynyr, meistr y melodïau.

Yn ganwr adnabyddus ei hun, y tro hwn mae Ynyr yn rhoi’r pwyslais ar greu’r gerddoriaeth, gan adael i eraill ganu.