Bydd Gŵyl Car Gwyllt yn dychwelyd i Flaenau Ffestiniog y penwythnos hwn (Gorffennaf 7 a 8) gydag artistiaid fel Alffa, Gwilym, Dafydd Iwan a Mr yn chwarae yno.

Mae’r ŵyl “llawn hwyl, agos-atoch-chi, gymunedol, Gymreig, gonest a hollol boncyrs” yn ddathliad o gymuned Bro Ffestiniog, yn ôl y trefnwyr.

Nos Wener a dydd Sadwrn, bydd tua 15 o fandiau yn perfformio yng Nghlwb Rygbi Bro Ffestiniog, gan gynnwys Chroma – sydd newydd gael gwahoddiad i fynd ar daith gyda’r Foo Fighters.

Wedi’i henwi ar ôl y car gwyllt, math o gerbyd oedd yn cael ei ddefnyddio gan y chwarelwyr i wibio lawr o’r chwarel ers talwm, cafodd yr ŵyl ei hadfer yn 2018 ar ôl egwyl hir.

Mae gwyliau cerddorol yn llenwi’r calendr Cymraeg yr adeg hon o’r flwyddyn, felly be sy’n gwahaniaethu Gŵyl Car Gwyllt rhag y gweddill?

“Fyswn i’n dweud ei fod yn ddathliad o gymuned Bro Ffestiniog ac ein bod ni’n croesawu pobol i’r gymuned,” eglura Ceri Cunnington, un o’r trefnwyr a phrif leisydd Anweledig, wrth golwg360.

“Maen nhw’n rhannu efo ni ac rydyn ni’n rhannu efo nhw.

“Dyda ni ddim yn trio smalio bod yn rhywbeth dyda ni ddim. Fydd yna ddim fairylights yn agos i’r lle, na gourmet byrgyrs na falafels.”

Clwb Rygbi Bro Ffestiniog

‘Gŵyl agos-atoch’

Pan ailddechreuodd Gŵyl Car Gwyllt cyn y pandemig, rhoddwyd llwyfan i aduniad Anweledig, a dros y blynyddoedd diwethaf mae’r ŵyl wedi croesawu bandiau lleol eraill fel Estella a Gwibdaith Hen Fran, ynghyd ag enwau eraill fel Candelas, Y Cledrau a Gwilym Bowen Rhys.

“Dw i wironeddol yn edrych ymlaen i weld bob un o’r bandiau bron… Kim Hon, Tri Hŵr Doeth, Hap a Damwain.

“Mae’r trefnwyr ychydig bach yn hunanol. Rydyn ni’n trefnu bandiau rydyn ni’n licio, Chroma er enghraifft.

“Dw i’n wirioneddol edrych ymlaen i’r bandiau gymysgu efo pobol leol. Mae’n ŵyl agos-atoch. Yr adborth rydyn ni’n ei gael gan y bandiau fel arfer ydy: ‘Waw dwi heb gael croeso fel hyn yn yr unlle o’r blaen.’ Dwi’n wirioneddol edrych ymlaen i rannu’r profiad yna efo nhw eto.”

Chroma: Zac Mather, Katie Hall a Liam Bevan

Dim ond lle i gant o bobol fydd i wylio Chroma nos Sadwrn, ac mae Ceri Cunnington yn annog pobol i fynd i’w gweld nhw’n fuan cyn iddyn nhw fynd yn enw mawr.

“Rydyn ni wedi cael hyn dros y blynyddoedd… rydyn ni wedi cael Breichiau Hir, roedd Adwaith yn chwarae yn yr ŵyl gyntaf wnaethon ni drefnu yn 2018. Mae gan Car Gwyllt hanes o roi cyfle i rai bandiau sydd wedi mynd yn fawr.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld Chroma, dw i erioed wedi gweld nhw. Wedyn mae gen ti fandiau fel Kim Hon yn rhyddhau stwff wythnos yma.

“Mae Crinc yn mynd i fod yn fand mawr dwi’n meddwl, maen nhw efo albwm arall ym mis Medi.

“Mae yna ychydig bach o dicedi ar ôl… Mae’n mynd i fod yn ddathliad a hanner.”

‘Mwy cartref yn Blaenau na mewn seremoni raddio’

Wrth siarad â golwg360 wedi iddo dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor, dywedodd Dafydd Iwan y bydd yn teimlo’n “fwy cartrefol yn Blaenau na mewn seremoni raddio mewn gown”.

“Dw i’n meddwl fy mod wedi chware yng Ngŵyl Car Gwyllt [yn y gorffennol], dydw i ddim yn siŵr os oedd wedi dechrau cael ei galw yn Gŵyl Car Gwyllt oherwydd roeddent yn cynnal gwyliau cyn hynny.”

“Dw i’n edrych ymlaen, dw i’n hoff iawn o berfformio yna oherwydd bod y bobol yn gynnes, mae’r bobol yn ymateb ac mae’r bobol yn onest.

“Os ydyn nhw’n hoffi be maen nhw’n ei glywed maen nhw’n ymateb yn dda.”

Dafydd Iwan yn derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor

Lowri Larsen

“Roedd ychydig bach yn annisgwyl,” meddai’r ymgyrchydd a’r cerddor wrth golwg360