Mae hi wedi bod yn gyfnod melys i berfformwyr roc a phop Cymraeg.

Fis yn ôl roedd Hana Lili yn cynhesu’r dorf yn Stadiwm y Principality cyn i Coldplay ddod arno i rocio’r brifddinas.

Cyn y gig fawr honno roedd y gantores o bentref Sili ym Mro Morgannwg yn egluro wrth golwg360 bod canu yn y steddfod a’r gŵyliau bach o amgylch y wlad wedi ei pharatoi ar gyfer y gig Coldplay.