Mi fysa hi wedi canu arna fi heb galendr, o bysa.

A diolch byth, mae fy mam yng nghyfraith yn anrhegu un i mi bob Dolig.

Un siâp handi hefyd. Mae o’n dal ac yn denau ac yn ffitio’n berffaith ar y wal, yn hongian rhyw dair modfedd o sgrîn y cyfrifiadur.

Ac ar hwn fydda i’n marcio dedlains Golwg.

‘Heb ddedlain, heb ddim’ ydy hi yn y busnes newyddiadura yma.

Felly mae cael calendr gweladwy ar y wal, yn dangos y ffordd i wlad yr addewid, yn hanfodol.