Yn ddiweddar bu dathliadau 75 mlynedd ers dyfodiad yr Empire Windrush, y cyntaf o’r llongau wnaeth gychwyn y mudo sylweddol o bobl o’r Caribî/y Gymanwlad i’r Deyrnas Unedig (DU) ar ôl y rhyfel.

Wnes i ddilyn y dathliadau a fuodd yng Nghymru a’r DU i goffau’r digwyddiad efo cryn ddiddordeb gan fod yr hanes yma yn rhan o stori teulu fy hunan, gan i fy nhad-cu fudo o Farbados i Lundain yn 19 oed yn 1956.