Os wyf am ddefnyddio dychan a hiwmor wrth feirniadu a gwawdio arweinwyr ein cenedl, fe wnaf.

Megis awgrymu bod Mark Drakeford yn debycach i hen ddyn sy’n gwerthu siwtiau llwyd a sanau Pringle mewn siop ddillad cefn gwlad (tra’n bwyta brechdan gaws) na gwleidydd deinamig â’r gallu i’n harwain a’n hysbrydoli.

Ond, fel y soniais o’r blaen, mae’r hawl i fynegi barn o dan fygythiad.