Dw i’n ymwybodol iawn fy mod i’n sgwennu dipyn am bêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol yn y golofn hon. Ac yn wir, dw i’n trio peidio. Ond, i fenthyg dywediad o’r maes hwnnw, allwch chi ond chwarae’r tîm sydd o’ch blaen chi!

Heb os, mae yna dipyn o chwaraeon ar S4C. Dydw i ddim yn cwyno achos dyna fy niléit i. Ond dw i’n cofio adegau pan mai pethau eraill oedd y ffasiwn felly dw i’n cydymdeimlo â’r rhai sydd wedi diflasu.