Maen nhw’n tynnu pob enfys i lawr yn y dref, ac mae’n teimlo fel petai’r lliwiau mwyaf llachar i gyd yn cael eu haraf blicio o ffenestri’r siopau a’r posteri hysbysebion. Mae Mis Balchder ar ben, a’r strydoedd yn llwyd unwaith eto. Mor llwyd â fi, efallai, y dyn di-liw, di-ddim sy’n anweledig ar stryd brysur ar fore Llun. Y math o ddyn sy’n methu’n lân ag aros yn y gwely heibio wyth y bore ym mlynyddoedd ei ymddeoliad, er ’mod i wedi treulio hanner can mlynedd yn edrych ymlaen at orweddian tan u