Felly dyma fi wedi piciad adra i Ddyffryn Ogwen am bythefnos bach cyflym, er y tro hwn, mae pethau ychydig yn wahanol. Os na fydd pethau’n chwalu, hwn fydd y tro olaf i mi ‘biciad’ i’r gogledd. Y tro nesaf fydda i’n dod fyny, bydda i’n byw yma.