Mae dynes o Gellilydan yng Ngwynedd yn gwneud podlediad yn trafod llyfrau Cymraeg a Saesneg ac yn gobeithio bydd hyn yn datblygu yn rhywbeth mwy “i annog pobol i ddarllen.”
Mae Becci Phasey a’i ffrind yn rhyddhau podlediad Clwb Darllen Gybolfa ar ddiwedd bob mis yn trafod un llyfr Saesneg ac un llyfr Cymraeg.
Yn danbaid dros ddarllen ers yn blentyn mae Becci Phasey yn meddwl bod darllen yn dda i’r meddwl creadigol, a bod clwb o’r fath yn rhwystro darllen rhag bod yn rhywbeth unig.
Pwysigrwydd trafod llyfrau
I rannu safbwyntiau a dysgu mae Becci Phasey yn gweld clybiau darllen yn allweddol bwysig.
“Mae clybiau darllen yn ofod i bobol ddod at ei gilydd i drafod rhywbeth maen nhw’n licio gwneud,” meddai.
“Mae darllen yn gallu bod yn rhywbeth unigol iawn, neu’n unig efallai achos mae’n rhywbeth ti’n gorfod gwneud ar ben dy hun.
“Mae ymuno efo clwb a thrafod efo ffrindiau yn beth grêt i allu gwneud o’n rhywbeth mwy cymdeithasol.
“Mae’n helpu dysgu hefyd achos da chi’n dysgu gweld rhywbeth o safbwynt rhywun arall, barn rhywun arall am rywbeth.
“Mae trafod llyfrau dw i wedi darllen efo rhywun arall wedi gwneud i mi feddwl amdanyn nhw mewn ffordd wahanol.
“Mae wastad yn wers bob mis pan dan ni’n trafod llyfrau a ddim barn fi ydy’r unig farn a dim barn fi ydy’r farn gywir. Mae gan bawb farn neu rywbeth arall i gynnig.
“Mae’n ddiddorol gweld rhywbeth ti wedi darllen o safbwynt rhywun arall.”
‘Agor byd gwahanol’
Yn dianc i fyd hudol yn blentyn wrth ddarllen mae Becci Phasey yn gweld pwysigrwydd darllen ac yn poeni bod hyn yn cael ei golli ymysg pobol ifanc erbyn hyn.
“Fyswn i’n dweud mai darllen oedd y peth pwysicaf oedd genna’i yn tyfu fyny,” meddai Becci Phasey wrth golwg360.
“Roeddwn yn darllen lot, doedd genna’i byth ddigon o lyfrau yn blentyn.
“Pan ti’n ifanc dw i’n meddwl bod o’n agor byd gwahanol dydy.
“Dw i ddim yn meddwl amdano fel rhywbeth academaidd ond rhywbeth angenrheidiol ar gyfer creadigrwydd a gallu dychmygu a hefyd ffeindio lleisiau a phobol eraill ti’n gallu uniaethu efo nhw.
“Dw i’n meddwl efallai bod hynny’n cael ei golli, ddim bod fi eisiau bod yn hen ffasiwn, a dweud bod technoleg yn difetha’ pethau.
“Dw i’n meddwl bod hynny’n cael ei golli rŵan.
“Dw i’n poeni bod plant ddim yn cael yr un math o hud ag oeddwn i’n ffeindio mewn llyfrau pan oeddwn i’n fach.”
‘Ffan fawr o bodlediadau’
Ar ôl ystyried sefydlu grŵp darllen efo ffrindiau datblygodd y syniad yn bodlediad gan fod Becci Phasey yn caru gwrando ar bodlediadau.
“Roeddwn i a grŵp o ffrindiau bach wedi meddwl creu rhywbeth,” meddai. “Yr unig broblem oedd bod ni’n byw mewn gwahanol rannau o Gymru.
“Oeddan ni wedi meddwl gwneud clwb darllen ar-lein.
“Wedyn gwnaeth hynna esblygu i fod yn bodlediad oherwydd gwnaethon ni benderfynu rhyddhau podlediad ddiwedd bob mis yn trafod y llyfrau oedden ni wedi bod yn darllen.
“Dw i’n ffan fawr o bodlediadau beth bynnag ac yn gwrando arnyn nhw’n aml.
“O’n i’n meddwl bysa fo’n neis rhoi rhywbeth allan bob mis i weld os oes unrhyw ddiddordeb.
“Roedd yn ffordd i ni allu trafod llyfrau ar-lein a bod o ddim jest yn rhywbeth unigol i ni yn bersonol, fel bod o’n fwy agored ac efallai yn dechrau sgyrsiau ehangach.”
Podlediadau Cymraeg ar gynnydd
Yn ôl Becci Phasey mae podlediadau Cymraeg ar gynnydd gyda gwefan o bodlediadau Cymraeg yn trafod nifer helaeth o bynciau.
“Fyswn i’n dweud bod podlediad yn dod yn fwy poblogaidd ar y sin Gymraeg rŵan,” meddai.
“Mae pod.cymru. Maen nhw yn blatfform grêt ar gyfer podlediadau Cymraeg.
“Mae podlediadau ar bob math o bynciau – chwaraeon, darllen…
“Mae yna rai podlediadau ar gyfer pobol sy’n darllen Cymraeg a phethau felly. Mae’n grêt.”