Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid ar gyfer Llais 2023, yr ŵyl gelfyddydau ryngwladol a fydd yn dychwelyd i Gaerdydd ym mis Hydref.

Bydd llwyth o artistiaid lleol a rhyngwladol yn perfformio yn y bumed ŵyl flynyddol rhwng Hydref 11 a 15.

Mae uchafbwyntiau’r rhaglen eleni yn cynnwys teyrnged arbennig i albymau Both Sides Now a Travelogue Joni Mitchell sy’n cynnwys Charlotte Church, ESKA, Gwenno, Laura Mvula a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Y cerddor Gwenno sydd hefyd wedi cyd-guradu’r ŵyl.

Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am ei halbwm o 2014 Y Dydd Olaf, ac fe gyrhaeddodd ei halbwm diweddaraf Tresor (2022) y rhestr fer ar gyfer y wobr Mercury.

“Mae wedi bod yn bleser mawr curadu Llais eleni,” meddai Gwenno.

“Dwi’n falch o fod o Gaerdydd ac roedd hynny bob amser yng nghefn fy meddwl i wrth feddwl am berfformwyr ac artistiaid i ymuno â ni.

“Mae Caerdydd yn llawn tapestri cyfoethog o ddiwylliannau ac ieithoedd sy’n gwneud y ddinas yn unigryw ac yn rhan o’r byd, ac, yn enwedig y Dociau lle mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i lleoli, sy’n diffinio cymaint o’n hunaniaeth fel pobl o’r ddinas yma, ac roeddwn i’n anelu at ddathlu hyn.

“Fy nehongliad personol i o’r “llais” yw fy mod i’n ei ddiffinio fel cyfrannu at y sgwrs yn y ffordd fwyaf radical â phosibl, ym mha bynnag ffordd sydd orau i’r person sydd â rhywbeth i’w ddweud.

“Pan dwi’n meddwl am artistiaid sydd wedi fy ysbrydoli i, maen nhw wedi bod yn feddylwyr radical sy’n troi pob carreg i ddatgelu rhywbeth newydd i ni am ein hunain.

“Dwi’n gobeithio y bydd Llais eleni yn ysbrydoli sgyrsiau parhaus ac yn fwy na dim, yn bleser llwyr i bawb sy’n dod.”

“Pwerus, eclectig ac amrywiol”

Mae Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru yn dweud bod y lein-yp “yn bwerus, eclectig ac amrywiol.”

“Mae wedi bod yn wefr gweithio gyda Gwenno i greu’r rhaglen, artist â theimlad dwfn o ba mor gyfoethog gall gŵyl sy’n dathlu’r llais fod yn y rhan yma o ddinas ei geni.

“Mae gennym lawer mwy i’w ychwanegu at y lein-yp yn fuan a gallwn ni ddim aros i ddatgelu mwy.”

Yn newydd eleni, bydd Llais yn lansio tocynnau ‘Talwch Beth y Gallwch’ lle y gall pobl wneud cais am ddau ddigwyddiad o’u dewis a thalu beth y gallan nhw ar sail y cyntaf i’r felin, gan atgyfnerthu’r ffaith y dylai’r celfyddydau fod yn hygyrch i bawb.

Bat for Lashes

Bydd Bat for Lashes yn ymddangos yn Llais, gan berfformio caneuon eiconig o’i phum albwm a arweiniodd at ei thri enwebiad am y wobr Mercury.

Bydd James Yorkston a Nina Persson, prif gantores The Cardigans hefyd yn ymddangos yn Neuadd Hoddinott i berfformio caneuon o’u halbwm The Great White Sea Eagle, a gafodd ei gynhyrchu ochr yn ochr â The Second Hand Orchestra.

Yn ymddangos Ddydd Sadwrn 14 Hydref bydd y gantores fado o Bortiwgal Mariza, sydd wedi hudo cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i chymysgedd o ganeuon traddodiadol a chyfoes.

Bydd y trwmpedwr o Gymru Tomos Williams hefyd yn perfformio ei ail ddangosiad o Riot! yn Llais.

Gyda’r cerddorion adnabyddus Soweto Kinch ac Orphy Robinson, ochr yn ochr â’r gantores o Gymru Eädyth Crawford ac adran rhythm sy’n cynnwys Aidan Thorne a Mark O’Connor, bydd y perfformiad o Riot! yn cynnwys elfennau o jazz, hip-hop, cerddoriaeth werin o Gymru a’r avant-garde, gydag effeithiau gweledol gan Simon Proffitt.

Mae actau eraill ar y dydd Sadwrn yn cynnwys Qawwali Flamenco a fydd yn uno flamenco a lleisiau qawwali o Bacistan i Andalucia gyda Faiz Ali Faiz a Chicuelo.

Bydd yr aml-offerynnwr a’r cyfansoddwr caneuon Angeline Morrison hefyd yn perfformio caneuon gwerin traddodiadol gan archwilio profiad pobl Ddu Brydeinig y mae’r byd gwerin wedi’i esgeuluso yn aml.

Perfformiadau a dangosiadau

Mae lein-yp gŵyl 2023 hefyd yn cynnwys perfformiad gan The Staves, triawd gwerin indie o Loegr a dangosiad byw o ffilm arswydus Mark Jenkin, Enys Men.

Rhwng Medi 25 a Thachwedd 5 bydd dangosiadau rheolaidd o Battlescar: Punk Was Invented By Girls yn rhedeg yn Bocs yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd y ffilm realiti rhithwir (VR) am dyfu i fyny sydd wedi’i hadrodd gan Rosario Dawson yn cludo’r gwylwyr i Efrog Newydd yn y 1970au i fyd pync dau berson yn eu harddegau sydd ar ffo.

Bydd arddangosfa gysylltiedig yn dathlu’r byd pync yng Nghymru yn rhedeg ochr yn ochr â’r dangosiadau.

Bydd hefyd amserlen lawn o weithdai a digwyddiadau rhad ac am ddim ym mhob cornel o Ganolfan Mileniwm Cymru, gyda manylion pellach i’w cyhoeddi yn y misoedd sydd i ddod.

Bydd The Unthanks hefyd yn cynnal digwyddiad drwy’r dydd gan gynnwys cyngherddau, digwyddiadau cyfranogol a pherfformiadau o’u halbymau The Bairns, Here’s The Tender Coming, a Last.

Mae tocynnau Llais nawr ar werth yn www.wmc.org.uk/cy/llais.