Ar ôl ugain mlynedd o ymchwil, mae astudiaeth fanwl ar foddi Tryweryn wedi cael ei chyhoeddi sy’n cwestiynu sawl barn gyffredin.
Mae Tryweryn: A New Dawn yn dod i gasgliadau fydd ddim yn plesio pawb, medd yr awdur Dr Wyn Thomas.
Ers boddi Capel Celyn yn y 1960au, mae dwy agwedd ar y stori wedi denu sylw pobol Cymru ac ennyn eu hymateb.
Yn gyntaf, yr hyn a ystyrir yn gyfiawnhad amheus ar ran Lerpwl dros foddi Cwm Tryweryn.
A’r ail yw’r gred draddodiadol bod y gymuned Gymraeg yn gytûn yn ei gwrthwynebiad i brosiect adeiladu argae Lerpwl.
‘Unioni sawl barn’
Mae’r gyfrol newydd yn herio’r ddau safbwynt cryf hynny, a gan ddefnyddio tystiolaeth archifol daw Dr Wyn Thomas i’r casgliad mai “angen gwirioneddol yn deillio o broblem cyflenwi dŵr a diweithdra” oedd yn wrth wraidd penderfyniad Lerpwl i adeiladu’r argae.
Cyflwynir tystiolaeth sy’n herio’r chwedl bod barn unfrydol ymhlith y gymuned o siaradwyr Cymraeg hefyd.
“Wedi ugain mlynedd o ymchwil, dwi wedi cyrraedd rhai casgliadau na fydd yn plesio pawb – ond dwi wedi cyfweld nifer fawr o bobl ac wedi ymchwilio’n fanwl i’r pwnc dan sylw,” meddai Dr Wyn Thomas.
“O ganlyniad, credaf fod y gyfrol yn unioni sawl barn sydd eisoes wedi’u sefydlu ynghylch boddi Cwm Tryweryn, ac yn darparu cofnod darllenadwy iawn o’r cyfan a oedd yn gefnlen i’r digwyddiad, ynghyd â gwybodaeth am beth sydd wedi digwydd ers hynny.”
Mae Dr Wyn Thomas yn gweithio’n llawrydd yn y byd academaidd, ym myd y cyfryngau, ac fel cyfansoddwr a cherddor.
Bydd Tryweyn: A New Dawn, Y Lolfa, yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, Gorffennaf 10.