Nod podlediad newydd yn edrych ar Feibion Glyndŵr yw darganfod straeon a lleisiau cudd o’r cyfnod.
Dan arweiniad y cyflwynydd Ioan Wyn Evans, bydd Gwreichion yn ymchwilio i’r ymgyrch llosgi ail gartrefi, gan archwilio effaith y digwyddiadau ar y gymdeithas Gymraeg.
Ym 1979 dechreuodd ymgyrch o danau bwriadol yng Nghymru a barhaodd dros ddegawd, gydag ymhell dros 200 o ymosodiadau bomiau tân ar dai haf a busnesau.
Roedd y targedau yn cynnwys gwleidyddion a Senedd y Deyrnas Unedig, gyda’r mudiad cudd, Meibion Glyndŵr, yn cael ei gysylltu â’r ymosodiadau
Mae’r podlediad, fydd yn cael eu rhyddhau ar BBC Sounds, yn cynnwys pobol oedd yn dyst i’r tanau, gan gynnwys diffoddwyr tân, newyddiadurwyr, ac unigolion gafodd eu targedu.
‘Atgofion byw’
Bydd y Gwreichion cyfuno dadansoddiad hanesyddol, cyfweliadau manwl a deunydd archif i edrych ar rai o’r cymhellion tu ôl i’r ymgyrch.
“Beth sy’n syndod ac yn ddifyr iawn yw pa mor fyw mae atgofion pobol o’r cyfnod a’r manylion maen nhw’n ei gofio,” meddai Ioan Wyn Evans.
“Roedd yr ymchwil hefyd yn ddiddorol – er enghraifft, roedd gallu dod o hyd i un o’r diffoddwyr wnaeth ymateb i’r tanau yn Sir Benfro ar noson gyntaf yr ymgyrch yn hynod gyffrous.
“Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn i glywed ei sylwadau fel llygad dyst, gan nad oedd e erioed wedi siarad am y peth o’r blaen.”
‘Archwiliad cynhwysfawr’
Yn y cyfamser, bydd cyfres deledu Saesneg yn ail-edrych ar y cyfnod yn cael ei ddangos ar BBC One Wales hefyd.
Cyfres ddogfen dwy ran fydd Firebombers, fydd yn archwiliad “cynhwysfawr” o’r stori, ac yn gyfle i glywed gan yr heddlu fu’n ymchwilio i’r achos, perchnogion eiddo, y rhai gafodd eu harestio, a newyddiadurwyr o’r cyfnod.
Yn y rhaglen mae Kelvin Griffiths, cyn-heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru a weithiodd ar yr achos yn cofio’r “dinistr llwyr”.
“Gan eu bod nhw mor anghysbell, roedd y tai yma’n llosgi heb yn wybod i neb,” meddai.
“Dim ond pan oedd rhywun yn gyrru heibio ac yn sylweddoli, ‘O, mae’r tŷ wedi cael ei losgi’n ulw.’ Doedd neb wedi ei weld.”
Yn ystod y rhaglen, mae’r newyddiadurwr Alun Lenny yn dweud mai’r sgŵp newyddiadurol fwyaf yng Nghymru ar y pryd fyddai darganfod pwy oedd Meibion Glyndŵr.
“Roedd pwy bynnag oedd yn gwneud hyn mor ofalus, mor lwcus, fel ei bod hi’n amhosib dod yn agos at galon y gwir.”
‘Synnu at faint yr ymgyrch’
Bydd sylw hefyd i’r unigolion gafodd eu harestio a’i rhyddhau heb gyhuddiad, neu eu cael yn ddieuog.
Cafwyd Sion Aubrey Roberts yn euog o fod â ffrwydron yn ei feddiant ac o anfon dyfeisiadau tanio drwy’r post, ac ef yw’r unig berson i’w gael yn euog sydd wedi cyfaddef ei fod yn aelod o Feibion Glyndŵr.
Mewn cyfweliad ar gyfer y rhaglen, mae Sion Aubrey Roberts yn datgelu manylion sydd heb eu clywed o’r blaen am ei weithgaredd â Meibion Glyndŵr a’r ymgyrch fomio.
“Dyma’r tro cyntaf i ni allu adrodd y stori hon yn ei chyfanrwydd, o amrywiaeth o safbwyntiau”, meddai’r Comisiynydd, Christina Macaulay.
“Rwy’n meddwl y bydd pobol yn synnu at faint yr ymgyrch – yn enwedig yr ymosodiadau yn Lloegr.
“Rydyn ni’n cynnwys y cyd-destun hanesyddol y tu ôl i’r hyn a ddechreuodd ym 1979, ond mae’r stori hon yn teimlo bod ganddi berthnasedd cyfoes o hyd.
“Nid yw pwy bynnag oedd y tu ôl i’r ymgyrch wedi cael eu darganfod.
“Ac wrth gwrs mae’r cymhelliad y tu nôl i’r ymgyrch – ail gartrefi – yn dal yn fater byw iawn yng Nghymru.”
Bydd pennod gyntaf Firebombers yn cael ei darlledu ar BBC One Wales nos Iau, Gorffennaf 20 am 9yh, a’r ail bennod yr wythnos ganlynol.
Fe fydd penodau un a dau podlediad Gwreichion ar gael i lawrlwytho ar Orffennaf 20 hefyd, a phenodau wythnosol i ddilyn bob dydd Iau.