Bydd y cerddor Lleuwen Steffan yn dychwelyd i’r llwyfan am y tro cyntaf ers 2020 yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.
Bydd hi’n cynnal sgwrs am ei chywaith nesaf, gan drafod ei chynlluniau, ac yn perfformio dau ddarn ym mhabell Encore yn yr Eisteddfod, sy’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth glasurol ac amgen.
Bydd Lleuwen Steffan, sy’n canu yn Gymraeg a Llydaweg, yn trafod ei chywaith newydd – emynau llafar gwlad – wrth ddychwelyd i berfformio ar Awst 11.
Mae’r gantores wedi bod yn egluro ar Facebook ac Instagram pam nad yw hi wedi gigio ers mis Mawrth 2020.
“Dim mynadd canu fy hen ganeuon; wedi bod yn creu cerddoriaeth i ddramâu llwyfan, radio a ffilm; ac wedi sobri (mae’n cymryd blynyddoedd i ymgynefino a pherfformio yn y stad newydd hyfryd hwn),” meddai.
Emynau llafar gwlad a phregethau
“Yn fras, emynau gwerin yw emynau llafar gwlad. Nid yr emynau yn y llyfrau enwadau swyddogol yw’r rhain. Maen nhw’n wahanol,” meddai Lleuwen Steffan wrth golwg360.
Maen nhw’n “sôn am win o seler Duw a delweddau fel curo drws uffern”, meddai.
“Emynau gafodd eu gwrthod gan gyhoeddwyr y llyfrau emynau swyddogol oedd llawer o’r rhain ac mae eu naws yn wahanol, yn fwy llafar a thafodieithol.
“Mae yna bobol sydd wedi hen adael y byd hwn wedi gwneud gwaith arbennig o gasglu a hel yr emynau hyn, pobol fel y diweddar William Morris o Gaernarfon oedd wedi eu hel o bentref i bentref wrth bregethu ar hyd ei oes.
“A David Griffiths o Gapel Isaac (1910-1995), oedd wedi cofnodi casgliad helaeth o’r emynau yn ei lawysgrifen ei hun.
“Trwy ei waith gyda Sain Ffagan, mae Robin Gwyndaf wedi recordio degau o bobol yn adrodd yr emynau hyn, a dw i wedi cael llawer o help ganddo wrth imi barhau â’r gwaith hwn.
“Ynglŷn â’r pregethau rhyfeddol… dyna gelfyddyd arbennig ac unigryw.
“Dw i ddim am inni anghofio’r Hwyl Gymreig, y pregethu oedd yn fath o lafarganu oedd mor boblogaidd yng Nghymru, tan y 1960au mewn ambell i le.
“Ac mae yna bregethu mor farddonol nes bod y pregethau yn canu – pregethau’r Parch Robin Williams, er enghraifft.
“Dw ddim am ymhelaethu gormod am hyn ond os dewch chi i Encore ar ddydd Gwener 11 Awst am 3.45yp mi gewch chi’r atebion i gyd!,” meddai Lleuwen.
‘Anrhegion newydd’
Er bod Lleuwen Steffan yn hoff o’i hen ganeuon ac am eu perfformio nhw eto, mae hi eisiau rhoi blas ar rywbeth newydd i’r gynulleidfa Gymraeg, meddai.
“Dw i’n hoff iawn o fy hen ganeuon, a byddaf yn perfformio’r rheiny yng Ngŵyl Werin Caergrawnt ddiwedd y mis.
“Ond gyda chynulleidfa Gymraeg sydd efallai’n fwy cyfarwydd â fy nghaneuon, dw eisiau rhoi anrhegion newydd iddyn nhw.”
Cyfansoddi i ddramâu llwyfan, radio a ffilm
Mae gan Lleuwen Steffan stiwdio ers y cyfnod clo, ac mae hi wedi bod yn gweithio ar gerddoriaeth ar gyfer dramâu llwyfan, radio a ffilm.
“Dwi wirioneddol wrth fy modd yn gweithio ar gerddoriaeth sydd tu hwnt i ffiniau caneuon,” meddai.
“Wnes i ddefnyddio’r cyfnodau clo i ddatblygu fy stiwdio a fy sgiliau er mwyn imi allu bod yn gwbl annibynnol gyda’r ochr yna o greu.
“Dwi’n deall mwy am dechnoleg a chynhyrchu cerddoriaeth erbyn hyn wrth chwarae a recordio sŵn a sylweddoli bod popeth yn gerddoriaeth.
“Dwi wedi cael cyfleodd arbennig i weithio ar draciau sain i ddramâu fel cynhyrchiad llwyfan Theatr Bara Caws o ddrama lwyfan olaf Siôn Eirian, Byd Dan Eira.
“Yma yn Llydaw, dw i wedi creu sgôr i ffilm o’r enw Ki Ma Mamm gan Mai Lincoln, fydd allan cyn hir ar FR3, a cherddoriaeth ffantasïol llawn hwyl i gyfres ddrama i bobol ifanc sef Louise/Les Ours i Radio Kerne.
“Dwi’n dysgu rhywbeth newydd am gerddoriaeth bob dydd.”
- Bydd Lleuwen Steffan ym Mhabell Encore yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener, Awst 11 am 3.45yp.