Y nofel Pridd (Gwasg y Bwthyn) gan Llŷr Titus yw enillydd prif wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni.

Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru enw’r enillydd yn ystod seremoni fawr yn Tramshed, Caerdydd heno (nos Iau, Gorffennaf 13) gafodd ei chyflwyno gan Ffion Dafis, cyn-enillydd y wobr.

Fe wnaeth e hefyd gipio’r wobr yn y categori Ffuglen.

Daeth y cyhoeddiad hefyd mai Drift gan Caryl Lewis sydd wedi cipio’r wobr Saesneg gyfatebol. Hi yw’r gyntaf erioed i gipio’r wobr Gymraeg a Saesneg.

Cafodd llyfrau Cymraeg a Saesneg mewn pedwar categori eu gwobrwyo ar y noson – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phlant a Phobl Ifanc.

Aeth gwobr Barn y Bobl, gafodd ei noddi gan golwg360, i Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens (Y Lolfa) gan Gwenllian Ellis.

Pridd – Llŷr Titus

Yn ei nofel fer Pridd, mae Llŷr Titus yn creu darlun cignoeth ond cyfareddol o fywyd hen ŵr yng nghefn gwlad Llŷn.

Drwy bedwar tymor y flwyddyn, mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd a holl flerwch byw yn llifo i’w gilydd.

Draw yn y caeau, mae’r hen gerrig mawr yn llefaru eu doethineb ac mae’r llwynog yn llercian.

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon.

Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn ganlynol.

Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobol ifainc, Gwalia, Wobr Tir na n-Og yn 2016.

Mae Llŷr Titus hefyd yn ddramodydd, a chafodd ei ddrama Drych ei llwyfannu gan Frân Wen yn 2015.

Mae’n un o sylfaenwyr cwmni drama’r Tebot, a’r cylchgrawn a gwasg gyhoeddi Y Stamp.

‘Swyno’

Yn ôl Megan Hunter ar ran y beirniaid, cawson nhw eu “swyno” gan nofel fer ond “trawiadol”.

“Mae yma symlrwydd a chynildeb cynnes yn y disgrifiadau o’r hyn a wna’r hen ŵr ar ei fferm o ddydd i ddydd, ond rhywsut, ar yr un pryd, mae pob brawddeg yn disgleirio o dlysni,” meddai.

Yn ôl Savanna Jones, un arall o’r beirniaid, cawson nhw eu “diddori”, eu “swyno” a’u “cyflwyno i arddull newydd yn y Gymraeg”.

“O’r cychwyn cyntaf mae’r awdur dawnus wedi cyfleu darn rhyfeddol ac awthentig sydd yn eich dal o fewn ei fyd,” meddai.

“Mae’r cyfeiriad at berthynas pobol gyda lle, newid traddodiad, galar, a tir yn unigryw ac yn eich annog i adlewyrchu ac i gwestiynu fel darllenwr.

“Gwreiddioldeb y darn oedd wedi ein plesio fel panel.

“Mae’n llwyddiannus yn y ffordd mae’n ein hannog i fynd ar antur gyda’r prif gymeriad ac i ymrwymo yn ei fyd wrth iddo garlamu drwy daith bywyd.”

Yr holl enillwyr

Gwobr Plant a Phobl Ifanc: Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron & Huw Aaron (Atebol)

Gwobr Ffuglen: Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cylchu Cymru, Gareth Evans Jones (Y Lolfa)

Y Wobr Farddoniaeth: Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Barn y Bobl golwg360: Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)

Derbyniodd enillydd pob categori wobr o £1,000 a derbyniodd prif enillwyr y wobr £3,000 yn ychwanegol.

Yn ogystal, derbyniodd enillwyr y categorïau a’r prif enillwyr dlws eiconig Llyfr y Flwyddyn, sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof, Angharad Pearce Jones.

Ar y panel Cymraeg eleni roedd y Prifardd Ceri Wyn Jones; awdur ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, Megan Angharad Hunter; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam; ac ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a’r hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant, Savanna Jones.

Mae’r wobr yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ei strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru.

Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.

‘Llongyfarchiadau gwresog’

“Llongyfarchiadau gwresog i Llŷr, Caryl ac i holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023,” meddai Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru.

“Mae’r ddwy nofel sy’n cipio’r prif wobrau eleni yn dra wahanol, ond mae eu geiriau hudolus wedi gwreiddio’n ddwfn mewn lleoliadau penodol yng Nghymru.

“Mae’n ein llonni fod Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn profi, bob blwyddyn, fod Cymru mor gyfoethog ei llên.

“Gobeithiwn yn fawr fod y wobr yn tynnu sylw hyd yn oed rhagor o bobol at y cyfrolau arbennig yma, a bod cynulleidfaoedd ehangach yn cael eu denu i ddarllen Cymru.”

Y Gwobrau Saesneg

Enillydd y Brif Wobr Saesneg eleni yw Drift gan Caryl Lewis, dramodydd a sgriptiwr Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco a Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016 gydag Y Bwthyn.

Dyma’r tro cyntaf erioed i awdur gipio’r brif wobr yn y ddwy iaith.

Dyma’r llyfrau a ddaeth i’r brig:

Gwobr Plant a Phobl Ifanc: When The War Came Home, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies: Drift, Caryl Lewis (Doubleday – Transworld, Penguin Random House)

Gwobr Ffeithiol Greadigol: And… a memoir of my mother, Isabel Adonis (Black Bee Books)

Y Wobr Farddoniaeth: As If To Sing, Paul Henry (Seren Poetry Wales Press Ltd)

Gwobr People’s Choice Wales Arts Review: The Last Firefox, Lee Newbery (Penguin Random House Children’s)

Ar y panel beirniadu Saesneg roedd yr awdur, actores ac enillydd gwobr BAFTA, Emily Burnett; yr awdur a’r athro, Emma Smith-Barton; y bardd a’r golygydd, Kristian Evans; a chyn-enillydd gwobr Ffeithiol-Greadigol Llyfr y Flwyddyn, Mike Parker.

Bydd cyfweliadau gyda rhai o’r enillwyr yn ymddangos ar golwg360 dros y dyddiau nesaf.

Darllenwch ragor

Pleidlais Barn y Bobl: Sgwrs gyda Llŷr Titus

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn sgwrsio gyda’r awduron ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni

Pleidlais Barn y Bobl: Sgwrs gyda Gwenllian Ellis

Cadi Dafydd

Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi bod yn sgwrsio gyda’r awduron ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni