Mae awdur buddugol gwobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2023 yn dweud bod ei nofel Pridd yn dathlu cymuned ac yn cofio pobol bwysig iddo ym Mhen Llŷn.
Llŷr Titus ddaeth i’r brig yn ystod seremoni arbennig yn y Tramshed yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 13), gyda’i nofel sy’n creu darlun cignoeth ond cyfareddol o fywyd hen ŵr yng nghefn gwlad Llŷn.
Fe enillodd y wobr yn y categori Ffuglen hefyd.
Drwy bedwar tymor y flwyddyn, mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd, a holl flerwch byw yn llifo i’w gilydd.
Draw yn y caeau, mae’r hen gerrig mawr yn llefaru eu doethineb ac mae’r llwynog yn llercian.
Llŷr Titus
Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhen Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon.
Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn ganlynol.
Enillodd ei gyfrol gyntaf, Gwalia, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobol ifanc, Wobr Tir na n-Og yn 2016.
Mae hefyd yn ddramodydd, a chafodd ei ddrama Drych ei llwyfannu gan Frân Wen yn 2015.
Mae’n un o sylfaenwyr cwmni drama’r Tebot, a’r cylchgrawn a gwasg gyhoeddi Y Stamp.
“Dw i ddim yn gwybod be’ i’w ddeud,” meddai ar y llwyfan wrth dderbyn y wobr.
“Diolch o galon i chi gyd am hyn, a diolch i’r beirniaid.
“Dw i wirioneddol yn falch fod nofel sydd mor agos at fy nghalon wedi dod i’r brig fel hyn.
“Mae yna gymaint o bobol wedi bod mor glên amdani hi, yn dod ata’i mewn siopau ac yn gyrru negeseuon ac yn y blaen, a dw i’n ddiolchgar iawn i bob un ohonyn nhw am wneud hynny.”
@golwg360 Llongyfarchiadau enfawr i Llŷ Titus, awdur buddugol gwobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2023 + gwobr Ffuglen! 📚 #tiktokcymraeg
Nofel er cof
Yn ôl Llŷr Titus, cafodd Pridd ei llunio er cof am ei Nain yr oedd yn byw gyda hi, ac mae’n dweud bod ennill y wobr yn “deimlad anhygoel” a’i fod yn “falch ofnadwy”.
“Dw i wedi sôn o’r blaen ei bod hi’n nofel bersonol iawn, yn agos iawn at fy nghalon i, ac mae cael ennill efo rhywbeth felly hyd yn oed yn fwy arbennig, dw i’n meddwl,” meddai wrth golwg360 ar ôl y seremoni.
“Mi o’n i’n ffrindiau mawr efo Nain ac mae’r nofel wedi’i gosod, i bob pwrpas, yn y cartref acw.
“Roeddwn i’n byw efo Nain, felly mae’r nofel wedi’i chyflwyno er cof amdani hi a phobol eraill.
“Yn ddiweddar, mi fuodd farw rywun arall oedd yn rhan o’r ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel; Yncl Ellis oedd ei enw fo, Ellis Jones oedd yn byw ar ffarm Llain yn Llaniestyn, ac mi oedd o’n ffarmwr ac yn ddyn ro’n i’n mwynhau ei gwmni fo’n ofnadwy.
“Mi gollon ni o llynedd, yn anffodus, ac roedd o’n ddyn arbennig iawn.”
Dathlu cymuned heb fod yn “blwyfol”
Mae pwysigrwydd cymuned hefyd “yn ganolog iawn” i’r nofel, yn ôl yr awdur y mae ei gyfrol yn tynnu sylw arbennig at “berthynas pobol efo lle penodol”.
“Dw i’n gobeithio’i bod hi ddim yn nofel blwyfol, er ei bod hi wedi’i gosod mewn ardal reit benodol,” meddai.
“Dw i’n gobeithio bod yna ddigon ynddi hi sy’n sôn am berthynas pobol efo tir, ac efo’r lle ac efo’i hanes sydd yn apelio at bobol yn ehangach hefyd.”
Dywed fod Pen Llŷn, fydd yn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol ymhen ychydig wythnosau, yn “lle arbennig iawn”.
“Bydd pobol yn cael gweld hynny, gobeithio, pan fydd yr Eisteddfod ym Moduan,” meddai.
“Mae o’n le eithriadol o agos at fy nghalon i, a dw i’n teimlo mor lwcus ’mod i wedi cael fy magu yno.
“Roedd fy rhieni yma heno, a dw i’n lwcus iawn ohonyn hwythau a’r bobol sy’n dal o’n cwmpas ni yno.
“Mae o’n le bach sbesial a gwerthchweil, a dw i’n falch iawn ’mod i’n dod o Ben Llŷn.”
“Eithriadol o anodd” dewis enillydd
Yn ôl Megan Angharad Hunter, un o’r panel fu’n beirniadu’r gystadleuaeth eleni ac enillydd y brif wobr yn 2021, roedd hi’n “eithriadol o anodd” dewis enillydd eleni.
“Fel oeddan ni i gyd yn dweud ar y llwyfan, mae’n ofnadwy o anodd a’r safon yn eithriadol o uchel,” meddai wrth golwg360.
“Yn y categori Ffuglen, er enghraifft, roedd yna tua 25 o gyfrolau wedi ‘nghyrraedd i, ac roedd o’n ryfeddol gorfod dewis y cyfrolau ar y rhestr fer.
“Roedd y safon mor uchel a gymaint o amrywiaeth, yn enwedig categori Savannah [Jones], yn eithriadol o anodd achos roedd gen ti nofelau wedi’u hanelu at blant ifanc iawn ac wedyn y nofelau ar gyfer arddegwyr.
“Felly roedd y broses o ddewis yn y categori hwnnw… roeddan ni i gyd yn edmygu Savannah yn fawr iawn, iawn am fod yn gyfrifol am y categori hwnnw.
“Roedd o’n eithriadol o anodd, y safon mor uchel, sydd jyst yn dangos y dylen ni gyd fod yn falch iawn o’r safon uchel a’r ffaith fod y dewis wedi bod yn anodd.”
Dywed fod y gwaith buddugol wedi ei “llorio” a’i “swyno” hi a’i chyd-feirniaid.
“Roedd y pedwar ohonon ni’n gwbl, gwbl hyderus ein bod ni wedi dewis enillydd sydd yn cynrychioli’r safon eithriadol sydd gyda ni yma yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.
“Rydan ni i gyd yn falch iawn o’r enillydd.
“Roedd hi’n anrhydedd anferthol ac yn brofiad anhygoel beirniadu, a darllen y llyfrau yma i gyd.
“Roedd y llyfrau i gyd mor safonol, ac roedd rhywbeth arbennig ym mhob un o’r nofelau.
“Roeddan nhw i gyd mor wahanol hefyd.”
Camp “anhygoel, eithriadol” Caryl Lewis
A hithau’n enillydd y brif wobr Saesneg eleni, torrodd Caryl Lewis dir newydd fel y person cyntaf i ennill y brif wobr yn Saesneg a Chymraeg.
Daeth yr awdur o Ddihewyd yng Ngheredigion i’r brig gyda Martha, Jac a Sianco yn 2005, ac eto gydag Y Bwthyn yn 2016.
Yn ôl Megan Angharad Hunter, mae Caryl Lewis wedi cyflawni camp “anhygoel ac ofnadwy o arbennig”.
“Dw i’n teimlo mor falch fel Cymraes sy’n siarad Cymraeg ac yn sgwennu trwy gyfrwng y Gymraeg i’w gweld hi’n ennill gwobr yn Gymraeg ac yn Saesneg,” meddai.
“Mae’n gamp eithriadol, a dw i’n falch iawn ohoni hi hefyd.”
Beth nesaf i Llŷr Titus?
Wedi’r llwyddiant, bydd yr holl awduron buddugol yn mwynhau’r cyfle i ddathlu eu camp.
Ond mae Llŷr Titus eisoes wedi troi ei sylw at ei brosiect nesaf.
“Dw i’n lansio nofel wythnos nesaf, felly dw i ddim yn cael llawer o frêc!” meddai.
“Nofel hollol wahanol sydd nesaf, Anfadwaith, nofel ffantasi sydd allan yn y siopau’n barod, â dweud y gwir.
“Bydd hi’n ddifyr gweld beth wneith pobol o honno o’i chymharu efo Pridd, oedd yn nofel ddistewach o ran ei themâu.
“Ar ôl hynny, traed i fyny am bach, gobeithio!”
“Hwb aruthrol” mewn “joban reit unig”
Wrth drafod ei phwysigrwydd, dywed Llŷr Titus y bydd ennill gwobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn yn “hwb aruthrol” iddo yn y dyfodol.
“Mae rhywun yn tueddu i sgwennu mewn gwacter, dw i’n teimlo, a sgynnon ni ddim syniad… hynny ydy, mae rhywun yn gwybod os ydy o’n hapus neu beidio efo’r darn o waith, ond dydy o ddim yn gwybod os ydy o’n mynd i gael ymateb, a ddim yn gwybod beth mae pobol yn mynd i’w wneud ohono fo,” meddai.
“Felly mae cael gwobr fel yma’n gadarnhad bod rhywun ar y trywydd iawn, dw i’n teimlo, ac mae o’n beth arbennig bod y math hyn o wobrau’n bodoli a bod yna wobrau eraill hefyd ar draws Cymru, mewn Eisteddfodau lleol, mewn ysgolion…
“A’u bod nhw hefyd yn rhoi hwb i awduron sgwennu, achos mae angen i bobol gael hwb bob hyn a hyn, dw i’n meddwl, yn enwedig os ydy rhywun yn sgwennu, sy’n gallu bod yn joban reit unig, dw i’n teimlo.”