Mae enillydd gwobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2023, gafodd ei noddi gan golwg360, yn dweud iddi wirioni’i phen.
Gwenllian Ellis ddaeth i’r brig yn dilyn pleidlais ymhlith darllenwyr y wefan hon, a hynny am ei chyfrol Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens.
Derbyniodd hi’r wobr, gafodd ei dylunio gan y fyfyrwraig Mary Bath o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ystod seremoni arbennig yn y Tramshed yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 13).
Mae’r awdur yn disgrifio’r gyfrol fel un sy’n dilyn hanes ei bywyd ac yn trafod ffrindiau, teulu, magwraeth yn y gogledd, caru, rhyw a dylanwad cylchgronnau ar ferched ifainc, ond hefyd am greulondeb plant a’i pherthynas gyda hi ei hun a sut mae’r berthynas honno wedi newid dros y blynyddoedd ac wedi cael effaith ar ei hunanwerth fel person.
Yn ogystal ag awydd i lunio cyfrol nad oedd ar gael pan oedd hi’n ferch ifanc, roedd Gwenllian Ellis hefyd yn teimlo mai prin yw’r cyfrolau sy’n trafod rhyw mewn ffordd “normal”, meddai, gan bwysleisio na ddylai neb deimlo cywilydd wrth drafod pynciau o’r fath.
“Ro’n i’n sgwennu colofn mewn cylchgrawn, Cara, yn siarad am fy mhrofiadau fi o ddêtio modern, a wnaeth y gyfrol gychwyn o hynna mewn ffordd,” meddai wrth golwg360.
“Ond ro’n i’n teimlo fod dim document o be’ oedd o fel, actually, i ferch ifanc dyfu fyny yng Nghymru yn y Gymraeg, a’r teimladau yna rydan ni i gyd yn eu teimlo.
“Ie, stori fi ydi hi ond mae hi’r un stori â lot fawr o ferched ifainc eraill, so oedd o’n bwysig i fi ddweud hynna ac adrodd yr hanes yna, ond ei ddweud o mewn ffordd ofnadwy o onest.
“Dyna wnaeth sbarduno’r llyfr, yr angen yma i gael cyfrol fel’ma yn yr iaith Gymraeg.”
@golwg360 Llongyfarchiadau Gwenllian Ellis, enillydd gwobr Barn y Pobl Golwg360 2023 !📚 #tiktokcymraeg
Awch am ragor o gyfrolau tebyg
Yn ôl Gwenllian Ellis, mae ei llwyddiant wrth ennill gwobr Barn y Bobl yn profi bod yna awch am y fath gyfrolau, ac awch am ragor ohonyn nhw.
“Dw i’n meddwl bod yr ymateb yn dangos bod yna awch gan y bobol i gael cyfrolau fel’ma am hanesion merched blêr, uchel eu cloch, sy’n gwneud mistêcs a phethau gwirion,” meddai.
“Mae’r llyfr yma wedi profi bod merched ifainc yn gallu dweud eu hanes yn sâff yn y sicrwydd bo nhw ddim am gael eu beirniadu.
“So, amdani i’r gyfrol nesa’ ddyweda i, a gobeithio fydd yna fwy!
“Dw i wrth fy modd fod y bobol wedi pleidleisio am y llyfr, dw i wedi gwirioni ‘mhen braidd!
“Mae gwerthfawrogiad y bobol yn golygu gymaint, mae’r ymateb dw i wedi’i gael i’r llyfr gan y bobol wedi bod yn amazing, a dw i jyst mor falch.
“Mae pob neges dw i wedi’i chael, bob person sydd wedi dod ataf fi i siarad a dweud bod y llyfr wedi golygu rhywbeth iddyn nhw, bo nhw wedi uniaethu efo’r llyfr, wedi gwneud yr holl o broses o’i sgwennu.
“Mae’n llyfr ofnadwy o bersonol, ac mae cael pobol eraill yn dweud pethau mor glên amdano fo’n rili ei wneud o’n werth o.”