Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Gwenllian Ellis, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffeithiol Greadigol gyda Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Hanes fy mywyd ydy o mewn ffordd, ac mae o’n hunangofiannol – ond dw i ddim wir yn licio’r term hunangofiant achos mae o’n gwneud i fi deimlo fel fy mod i tua 80 oed neu’n B-list celebrity sy’n trio bod yn berthnasol. Ond mae o’n dilyn hanes fy mywyd i, yn llyfr am lot o bethau – ffrindiau, teulu, tyfu fyny yng ngogledd Cymru, snogio, secs, y gwersi ti’n dysgu ar y ffordd, dylanwad cylchgronnau. Mae o’n llyfr am greulondeb plant, mewn ffordd, a sut wyt ti’n dysgu. Mae o’n llyfr am fy mherthynas i efo fi fy hun a sut mae hynna wedi newid dros y blynyddoedd, a sut mae fy hunanwerth wedi datblygu dros y blynyddoedd.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Roeddwn i’n teimlo fel bod yna ddim llawer o lyfrau yn siarad am secs mewn ffordd normal, mewn ffordd realistig drwy’r Gymraeg. Hefyd, roeddwn i wir eisiau sgrifennu am hanes merched a sut dydy o ddim be’ ti’n weld ar teledu, a’u bod nhw’n ffaeledig ac yn flêr ac yn wirion. Roeddwn i eisiau sgrifennu llyfr fyswn i wedi licio darllen pan oeddwn i’n fengach. Dw i eisiau i bobol feddwl bod o fel ryw guidebook mewn ffordd, be’ i beidio gwneud! Roeddwn i eisiau trio cael gwared ar y stigma o siarad am secs a’r cywilydd sydd gan ferched yn enwedig pan mae hi’n dod at siarad am y pethau yma – dim jyst secs ond bob dim sydd ynghlwm â’r peth, cysyniad ac ati, a dal drych ar be’ sy’n mynd ymlaen. Mae gennym ni fel Cymry ryw dueddiad i feddwl, ‘Dydy hynna ddim yn digwydd i ni’, ond mae o yn digwydd.

Oes yna neges y gyfrol?

Mae yna ddwy neges, mewn ffordd. Pan mae hi’n dod i’r pynciau yma, fel trafod secs a ballu, y dylen ni ddim teimlo cywilydd siarad amdanyn nhw. Mae yna gymaint o bobol wedi dod ata i ers i’r llyfr gael ei gyhoeddi a dweud: ‘Dw i wedi bod yn teimlo ffasiwn gywilydd am hyn ac erioed wedi siarad am y peth efo fy ffrindiau. Ond unwaith rydyn ni wedi cychwyn siarad am y pethau yma, mae pawb efo’r un math o stori’.

Mae o hefyd yn ddathliad o gyfeillgarwch, fyswn i’n licio meddwl mai un o’r negeseuon eraill ydy – daliwch yn eich ffrindiau a gwerthfawrogwch nhw a rhowch gymaint o ymdrech mewn i’ch cyfeillgarwch ac i’ch ffrindiau ag y bysech chi i berthynas ramantus.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel bardd?

Y ddau amlwg fysa Dolly Alderton – Everything I Know About Love, a llyfrau Caitlin Moran. Mae’r llyfr, mae’n debyg, yn gyfuniad o’r ddau o ran dylanwad.

Gallwch ddarllen mwy am Sgen i’m Syniad a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 23!