Mae’r deuddeg llyfr sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni wedi cael eu henwi.

Y beirniaid – Megan Angharad Hunter, Ceri Wyn Jones, Sioned Wiliam a Savanna Jones – fydd yn penderfynu ar enillwyr y pedwar categori a’r brif wobr.

Fodd bynnag, mae cyfle i’r darllenwyr gael dweud eu dweud a phleidleisio dros eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â golwg360.

Bydd y bleidlais ar agor tan Fehefin 23, a’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y Tramshed yng Nghaerdydd ar Orffennaf 13.


Plant a Phobol Ifanc

Byd Bach Dy Hun – Sioned Medi Evans  

Llyfr llun a stori gan awdur a darlunydd sy’n codi cwestiynau pwysig ym myd plant, gan eu tywys i weld byd gyda blodau, coed, môr, anifeiliaid o bob math, a phobol sy’n barod i estyn llaw a chydweithio i gynnal a chadw’r byd.

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mae Sioned Medi Evans bellach yn byw ac yn gweithio fel dylunydd llawrydd yng Nghaerdydd.

Mae hi’n teimlo’n angerddol am ddarlunio, adrodd stori a phortreadu bywyd bob dydd yn ei gwaith, gan geisio ychwanegu ychydig o liw a phositifrwydd i’r byd.

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor – Huw a Luned Aaron

Cyfrol chwareus, lawn dychymyg am dderbyn pwy wyt ti go iawn.

Mae Luned Aaron yn awdur ac artist gweledol, sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd deirgwaith. Bu’n canolbwyntio ar sgrifennu ar gyfer y llwyfan, radio a’r sgrin, a bellach mae hi wedi camu i faes cyhoeddi ac yn cyd-redeg gwasg Llyfrau Broga gyda’i gŵr, Huw. Yn 2017, enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol gyntaf, ABC Byd Natur.

Cartwnydd ac awdur nifer o lyfrau poblogaidd i blant, fel Ble Mae Boc? a Seren a Sbarc, yw Huw Aaron. Ef yw sylfaenydd comic Mellten, ac mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu.

Powell – Manon Steffan Ros

Mae bod yn Powell yn fraint yn Nhrefair, ac mae Elis Powell yn falch o’i gyndaid a adeiladodd gymaint o’r dref. Ond ar drip gyda’i daid i’r Unol Daleithiau i hel achau, mae’n dod i wybod mwy am hanes y teulu ac mae bod yn Powell yn dechrau teimlo fel baich.

Nofel am deulu, cyfeillgarwch a phwysigrwydd cydnabod yr holl ffeithiau.

Mae Manon Steffan Ros yn awdur a dramodydd sydd wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 gyda Llyfr Glas Nebo. Mae hi hefyd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og bum gwaith, gyda Trwy’r Tonnau, Prism, Pluen, Fi a Joe Allen a Pobol Drws Nesaf.

Ffeithiol Greadigol

Cerdded y Caeau – Rhian Parry

Mae’r awdur yn mynd â darllenwyr am dro drwy’r caeau i ddatgelu’r hanes sy’n celu tu ôl i’w henwau. Mae’r gyfrol yn llawn lluniau lliw a mapiau sy’n rhan o ymchwil doethuriaeth yr awdur. Dadansoddir enwau ffermydd a chaeau hen gwmwd Ardudwy, ynghyd â rhai enghreifftiau tu hwnt i’r ardal honno.

Magwyd Rhian Parry yng Nghaer ac yna ym Mhenmon, Ynys Môn. Bu’n gweithio mewn addysg a’r gwasanaeth sifil hŷn, cyn cychwyn ar ei hymchwil dan gyfarwyddyd yr Athro Gwyn Thomas ym Mangor. Bu’n gyfrifol am yr ymchwil i ddwy gyfres o Caeau Cymru ar S4C, ac roedd hi’n un o’r cyd-gyflwynwyr.

Cylchu Cymru – Gareth Evans-Jones

Cyfrol sy’n mapio Cymru drwy lên a llun. Ceir straeon telynegol a thrawiadol a gafodd eu hysbrydoli gan olygfeydd penodol wrth i’r awdur deithio ar hyd arfordir Cymru a Chlawdd Offa.

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018, ac enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 a 2021. Mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor.

Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens – Gwenllian Ellis

Llyfr sy’n archwilio ffrindiau, teulu, teimlo fel dy fod yn cael dy adael ar ôl, helyntion ieuenctid, bod yn ormod a ddim yn ddigon yr un pryd, y gwersi ti’n eu dysgu ar y ffordd a’r bobol sy’n dy gario. Gan dynnu ar brofiadau personol a dweud gwirioneddau am gymdeithas, mae Sgen i’m Syniad yn llyfr gonest am ffeindio sens pan nad oes gen ti syniad.

Daw Gwenllian Ellis yn wreiddiol o Bwllheli, a bellach mae hi’n byw a gweithio yn Llundain.

Ffuglen

Pridd – Llŷr Titus

Ceir darlun cignoeth o fywyd Hen Ŵr yng nghefn gwlad Llŷn, a thrwy bedwar tymor y flwyddyn mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd, a holl flerwch byw yn llifo drwy’r gilydd.

Daw Llŷr Titus o Fryn Mawr ger Sarn yn Llŷn, a bellach mae’n byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama yn 2012. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd, yn un o sylfaenwyr cwmni Tebot a chylchgrawn Y Stamp a Chyhoeddiadau’r Stamp.

Pumed Gainc y Mabinogi – Peredur Glyn

Golwg newydd, tywyll ac arswydus ar rai o hen straeon a chymeriadau chwedlonol Cymru.

Un o Ynys Môn ydy Peredur Glyn, a datblygodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth ganoloesol wrth astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Bellach mae’n ddarlithydd mewn llenyddiaeth ym Mangor, a dyma ei gyfrol ffuglen gyntaf.

Rhyngom – Sioned Erin Hughes

Cyfrol fuddugol y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron y llynedd, sy’n cynnwys wyth stori fer sy’n dangos gwerth rhyddid. Mae rhai clymau’n rhy dynn i geisio eu datod – perthynas rhwng mam a merch, rhwng dyn â’i famwlad, dynes â’i salwch – ac yn amlach na pheidio mae hi’n amhosib torri’n rhydd.

Mae Sioned Erin Hughes yn 25 oed ac yn byw ym Moduan ger Pwllheli. Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg o Fangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol yno. Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018, a hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020.

Barddoniaeth

Anwyddoldeb – Elinor Wyn Reynolds

Cyfrol gyntaf o farddoniaeth Elinor Wyn Reynolds, sy’n gasgliad o’r dwys a’r digrif. Mae nifer o’r cerddi’n seiliedig ar brofiadau personol, cymeriadau a chymdeithas, a heriau’r byd mawr o’n cwmpas. Cerddi rhydd yw’r casgliad, rhai ohonynt yn gerddi byr, eraill yn hirach, a rhai’n gadwyni o gerddi.

Bardd, golygydd ac awdur yw Elinor Wyn Reynolds, ac mae hi wedi bod yn gyfrifol am roi sawl casgliad o gerddi at ei gilydd, gan gynnwys Llyfr Bach Priodas a Llyfr Bach Nadolig. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Gwirionedd, yn 2019.

Tosturi – Menna Elfyn

Dyma gyfrol farddoniaeth Gymraeg gyntaf Menna Elfyn ers deng mlynedd, a’r thema fawr sy’n clymu’r gwaith yw menywod – boed hynny’n ferched sy’n flaenllaw heddiw neu ffigurau hanesyddol fel y Dywysoges Gwenllian.

Mae’r gyfrol hefyc yn cynnwys cerddi am fyd natur, am effaith y Clo yn 2020, a cheir darluniau trawiadol gan yr artist o Landysul, Meinir Mathias.

Mae Menna Elfyn yn fardd, awdur a dramodydd sydd wedi cyhoeddi 14 o gyfrolau o farddoniaeth yn Gymraeg. Enillodd Lyfr y Flwyddyn yn 1990, ac mae ei gwaith wedi’i gyfieithu i Tsieinëeg, Sbaeneg, Eidaleg, Lithiwaneg a Chatalaneg, i enwi rhai ieithoedd.

Y Lôn Hir Iawn – Osian Wyn Owen

Casgliad ffres ac egniol o gerddi sy’n mynd ati i gyfuno’r dwys a’r digrif gan ddefnyddio amrywiaeth o fesurau. Ceir cerddi caeth, cerddi rhydd a cherddi ar fydr ac odl ar bynciau megis gwleidyddiaeth, yr amgylchedd, a diddordebau a chynefin y bardd rhwng cloriau’r gyfrol, ynghyd â chanu cymdeithasol.

Yn dod yn wreiddiol o’r Felinheli ond bellach yn byw yng Nghaernarfon, mae Osian Wyn Owen yn fardd sy’n prysur wneud enw i’w hun. Yn 2018, ef oedd Prifardd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, a daeth i’r brig yn y brif wobr farddoniaeth yn Eisteddfod-T yn 2020. Mae bellach yn rhedeg ei gwmni cysylltiadau cyhoeddus ei hun, Ar Goedd.