Mae enwau’r rhai sydd i’w derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd yn Llŷn ac Eifionydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mai 22).

Daw’r cyhoeddiad 75 diwrnod cyn yr Eisteddfod, wrth i sêr o amrywiol feysydd dderbyn clod am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg a’u cymunedau ym mhob cwr o’r wlad.

Bydd y rhai sydd i’w derbyn i’r Orsedd yn cael eu hurddo’n ffurfiol ar Faes y Brifwyl fore Llun, Awst 7 a bore Gwener, Awst 11.

Bydd pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd, a byddan nhw’n derbyn y Wisg Werdd neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar eu maes.

Mae’r Wisg Las wedi’i neilltuo ar gyfer pob Urdd Derwydd ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.

Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol gaiff eu hurddo i’r Wisg Wen.

Ymysg yr enwau cyfarwydd a fydd yn cael eu hurddo eleni mae Anwen Butten, Aled Hughes, y Parchedicaf Andrew John, Geraint Lloyd a Laura McAllister.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd o 5-12 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.


Y Wisg Werdd

Aled Davies

Yn wreiddiol o Sir Gâr, mae cyfraniad Aled Davies, Chwilog i’w gymuned ac i’w grefydd yn enfawr. Yn weinidog bro sy’n gyfrifol am chwe chapel, mae hefyd yn gyfarwyddwr y Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair. Mae’n gyfrifol am drefnu presenoldeb Cytun ar Faes yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol, ac mae ar fwrdd y cylchgrawn Cristion. Ef hefyd sy’n dylunio a gosod y papur bro lleol, Y Ffynnon. Mae’n trefnu llu o weithgareddau’n lleol gyda’r capeli’n cymryd rhan flaenllaw ynddyn nhw, gan gynnwys nifer o gymdeithasau llenyddol.

Heulwen Davies

Caiff Heulwen Davies, Dolanog ei hurddo am ei chyfraniad fel arweinydd Aelwyd Penllys am gyfnod o dri deg mlynedd, a hynny’n gwbl wirfoddol. Mewn ardal ar y ffin lle mae llawer yn byw eu bywydau dyddiol yn Saesneg, mae wedi cynnig cyfleoedd i bobol ifanc ennyn hyder i berfformio yn y Gymraeg yn lleol a chenedlaethol. Bellach, mae wedi rhoi’r gorau i arwain yr Aelwyd, a chaiff ei chroesawu i Orsedd Cymru i ddiolch am ysbrydoli cenedlaethau o ieuenctid a chymunedau canolbarth a dwyrain Maldwyn.

Jeffrey Howard

Mae’r cerddor Jeffrey Howard, Caerdydd yn un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl er ugain mlynedd a mwy. Yn organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd, yn ogystal â hyfforddwr lleisiol profiadol, mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddorol blaenaf Cymru, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.

Edwin Humphreys

Mae Edwin Humphreys, Pentreuchaf yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol y sîn roc, ac mae wedi bod yn hanfodol bwysig ym mrwydr y Gymraeg er hanner can mlynedd. Mae wedi chwarae gyda mwy o fandiau Cymraeg na’r un cerddor arall, ac i’w glywed ar gant o albymau! Bu’n dilyn gyrfa fel nyrs seiciatryddol gyda cherddoriaeth yn gyfeiliant i’w waith, a daeth yn arbenigwr ar therapi meddylgarwch drwy gerddoriaeth. Erbyn hyn, mae’n helpu to newydd o gerddorion, gan ymweld ag ysgolion i roi gwersi ac i arwain bandiau pres. Mae’n athro cwbl ysbrydoledig.

Marion Loeffler

Cafodd Marion Loeffler, Caerdydd ei magu yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Ar ôl graddio, symudodd i Gymru, a bu’n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am flynyddoedd. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth gan arbenigo ar hanes diwylliant, gwleidyddiaeth a chrefydd y Cymry yn y 18fed ganrif a’r 19eg. Bellach, mae’n Ddarllenydd ym maes Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. A hithau wedi ymchwilio i etifeddiaeth lenyddol a hanesyddol Iolo Morganwg, ynghyd â chyfrannu’n helaeth at hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, priodol iawn yw ei derbyn yn aelod o’r Orsedd.

Ywain Myfyr

Bu adfywiad yn y byd cerddoriaeth werin Gymraeg yn y 1970au, gydag Ywain Myfyr, Dolgellau ar flaen y gad fel un o sylfaenwyr Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau, ac fel aelod o Cilmeri a Gwerinos. Yn y 1990au, cyd-sefydlodd Sesiwn Fawr Dolgellau, gŵyl ddylanwadol sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig, Gymraeg a Cheltaidd, yn ogystal â’r iaith ei hun. Bu ei frwdfrydedd a’i egni diflino yn gweithio dros Ddolgellau, cerddoriaeth a’r Gymraeg yn rhyfeddol. Esgorodd y Sesiwn Fawr ar ambell ŵyl ymylol a hefyd ar sefydlu Canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau, ac mae Ywain Myfyr yng nghanol y trefnu bob amser.

Richard Owen

Brodor o Fynydd Mechell, Ynys Môn yw Richard Owen, Penrhyn-coch, Aberystwyth. Rhoddodd oes o wasanaeth i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy’i waith gyda Chyngor Llyfrau Cymru am dros dri deg mlynedd. Cyfrannodd yn helaeth i’r Eisteddfod fel Cadeirydd y Panel Llên Canolog am wyth mlynedd, ac fel aelod cyn hynny, a bu hefyd yn aelod o Bwyllgor Llên lleol Eisteddfod Ceredigion 2022. Bu’n weithgar yn ei gymuned leol dros y blynyddoedd, gyda Chymdeithas y Penrhyn, Cyngor Cymuned Trefeurig, papur bro Y Tincer a Phlaid Cymru.

Mari Lloyd Pritchard

Yn enedigol o Ros-meirch, cafodd Mari Lloyd Pritchard, Biwmares ei magu ar aelwyd gerddorol, a chafodd ei thrwytho yn y byd corawl. Bu’n gyfrifol am ailsefydlu Theatr Ieuenctid Môn, sydd wedi ysgogi diddordeb cannoedd o blant a phobol ifanc ym myd y theatr. Yn 2006, sefydlodd Gôr Ieuenctid Môn, ac mae’n rhoi o’i hamser bob wythnos i arwain y Côr Iau a’r Côr Hŷn. Erbyn hyn, mae hi hefyd yn arwain Encôr, côr ar gyfer aelodau dros 60 oed. Gwnaeth gyfraniad enfawr i fyd cerddoriaeth a gwaith ieuenctid yng Nghymru, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Carlo Rizzi

Yn wreiddiol o Milan, mae Carlo Rizzi, Penarth yn arweinydd adnabyddus, sydd wedi bod yn Arweinydd Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws y byd. Mae’n fwyaf enwog am ei waith athrylithgar yn dehongli ac arwain operâu Verdi. Mae ganddo egni deinamig, dealltwriaeth naturiol o gerddoriaeth a’r gallu i ymgysylltu â’r gerddorfa a’r gynulleidfa mewn ffordd hynod enigmatig ac emosiynol.

Esyllt Nest Roberts de Lewis

Yn wreiddiol o Bencaenewydd, aeth Esyllt Nest Roberts de Lewis i Batagonia fel athrawes dan y Cynllun Dysgu Cymraeg bron i ugain mlynedd yn ôl. Yno cyfarfu â’i gŵr, Cristian ac mae ganddyn nhw ddau fab, Idris a Mabon, sydd wedi eu magu yn siarad Cymraeg. Mae’n hynod weithgar yn y gymuned Gymraeg yn y Wladfa, bu’n olygydd Y Drafod ac yn ysgrifennydd Gorsedd y Wladfa, a hi yw Arweinydd Cymru a’r Byd yn yr Eisteddfod eleni. Mae’n gyn-enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod y Wladfa, ac mae’n gweithio fel athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd.

Gareth Roberts

Dyn pobol a dyn ei fro yw Gareth Roberts, Deiniolen. Bu’n gweithio’n ddygn dros les pobol ifanc Menter Fachwen, disgyblion ysgol a phobol ei ardal i greu cyfleoedd iddyn nhw ddod i adnabod eu bro a chyfranogi yn ei hanes a’i diwylliant. Creodd archif leol o enwau ponciau Chwarel Dinorwig, hanesion am gymeriadau a diwylliant bro. Mae ei egni a’i frwdfrydedd yn ddiarhebol, ac mae’n ysbrydoli pawb â’i sgyrsiau, teithiau a’i arddangosfeydd. Argraffodd gyfres o fapiau cerdded sy’n olrhain hanes a hyrwyddo enwau lleoedd, a bu’n arwain teithiau cerdded i’r rheini sy’n awyddus i wella’u hiechyd corfforol a meddyliol.

Glyn Tomos

Dwy ffactor sy’n gyrru Glyn Tomos, Caernarfon, sef y Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol, a thrwy gydol ei oes, yn wirfoddol neu’n gyflogedig, mae wedi cadw at y ddwy egwyddor yma. Tra’n fyfyriwr prifysgol ym Mangor, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sefydlu UMCB i warchod hawliau myfyrwyr Cymraeg. Ar ddiwedd y 1970au, sefydlodd y cylchgrawn Sgrech er mwyn adlewyrchu’r sîn roc Gymraeg, gan roi hyder i Gymry ifanc siarad yr iaith a chanu yn Gymraeg. Pan symudodd i Gaernarfon, aeth ati i sefydlu Papur Dre, papur bro a ddathlodd ei 200fed rhifyn eleni.

Gareth ‘Neigwl’ Williams

Bob mis mae Gareth ‘Neigwl’ Williams, Botwnnog yn cyfrannu colofn i’w bapur bro, Llanw Llŷn, o dan y teitl ‘Llên y Llanw’ – cybolfa ddifyr dros ben o sgwrs, dyddiadur, atgofion ac athroniaeth gadarn yr awdur. Llŷn, yn hanesion a chymeriadau a dywediadau llafar gwlad, yw’r deunydd, a dyma yw ei brif ddiddordeb. Mae ei gerddi coffa yn y papur i gymeriadau Llŷn yn gofnod unigryw hefyd. Yn fardd gwych ond gwylaidd iawn a Chymreigydd praff, byddai’n ei alw ei hun yn ‘fardd gwlad’ – bardd Gwlad Llŷn – ond mae ei grefft yn ei godi i safon bardd cenedlaethol.

Sioned Wyn

Mae Sioned Wyn, Cricieth yn un o’r cynhyrchwyr teledu mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Trwy gyfrwng ei gwaith gyda Chwmni Teledu Chwarel, profodd fod modd rhedeg cwmni llwyddiannus mewn unrhyw ardal yn y byd, ac roedd gwneud hyn yn ardal Eifionydd yn bwysig iawn iddi hi ei hun. Mae naws a natur Gymraeg a Chymreig i’w rhaglenni, boed rheini’n gyfrwng-Gymraeg neu Saesneg. Enillodd wobrau BAFTA, RTS a Broadcast am ei gwaith, ac mae’n mwynhau hyfforddi pobol ifanc i weithio yn y diwydiant darlledu yma yng Nghymru.


Y Wisg Las

Mabon ap Gwynfor

Mae’r gwleidydd Mabon ap Gwynfor, Cynwyd yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd er 2021. Yn ymgyrchydd egwyddorol, mae’n adnabyddus ledled Cymru am ei ddaliadau gwrth-ryfel ac fel eiriolydd angerddol dros heddwch. Mae hefyd yn credu yn yr angen i rymuso cymunedau, ac felly’n weithredwr cymunedol. Cyd-sefydlodd Fenter Gymunedol Cynwyd er mwyn i’r gymuned gymryd perchnogaeth o siop y pentref, a Phwyllgor Menter Ysgol Llandrillo er mwyn i’r gymuned gymryd perchnogaeth o’r ysgol leol ar ôl ei chau.

Pedr ap Llwyd

Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, Pedr ap Llwyd, Aberystwyth yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Mae’n gymwynaswr adnabyddus, ac fel rhan o’i weledigaeth i hyrwyddo hygyrchedd, llwyddodd yn ystod y cyfnod clo i ysgogi gweithlu’r Llyfrgell i gyflymu prosesau trawsnewid digidol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddogfennol yn fwy hygyrch i bawb. Mae’n gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau dylanwadol yng Nghymru, ac yn Ynad Llywyddol er bron i ugain mlynedd.

Anwen Butten

Bowls sy’n mynd â bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac mae’r Orsedd yn falch o’r cyfle i’w hanrhydeddu am ei chyfraniad arbennig i’r gamp honno dros gyfnod o 30 mlynedd. Hi oedd capten Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022. Mae hefyd yn nyrs arbenigol canser y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Meryl Davies

Mae Meryl Davies, Dinas, Pwllheli wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dros y blynyddoedd, ac yn 2016, cyrhaeddodd restr fer gwobr genedlaethol i ferched sy’n cyflawni. Bu’n Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, ac fe gododd £40,000 at Sefydliad y Galon yn ystod ei chyfnod wrth y llyw. Yn gyn-reolwr ward yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli, bu’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfathrebu â chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n weithgar yn ei chymuned, yn organydd yn ei chapel ac yn aelod blaenllaw o’r gangen leol o Ferched y Wawr.

Owain Idwal Davies

Caiff Owain Idwal Davies, Llanrwst ei urddo am ei fod yn manteisio ar bob cyfle i ysbrydoli pobol ifanc i oresgyn anawsterau, i ymuno â’i gilydd i fwynhau gweithgareddau amrywiol a gwthio’u ffiniau i’r eithaf. Ar ôl wynebu cyfres o lawdriniaethau pan oedd yn ifanc, penderfynodd na fyddai unrhyw rwystr corfforol yn ei ddal yn ôl, gan fynd ati i ragori fel rhedwr, nofiwr a beiciwr. Yn y gwasanaeth hamdden ac yna yn y weinidogaeth, mae wedi bywiogi’i fro drwy egnïo’r iaith a rhannu’i gariad at ddiwylliant a chwaraeon, gan hybu Cristnogaeth ymarferol.

Dyfrig Davies

Caiff Dyfrig Davies, Llandeilo ei urddo am roi blynyddoedd o gefnogaeth, yn wirfoddol a phroffesiynol, er mwyn sicrhau bod diwylliant Cymru a’r Gymraeg yn ffynnu. Mae’n gadeirydd yr Urdd, ac arweiniodd y mudiad yn gadarn a theg drwy bandemig Covid-19 a dathliadau’r canmlwyddiant yn 2022. Yn gadeirydd TAC, mae’n rhan allweddol o’r diwydiant creadigol yng Nghymru, gan gefnogi cwmnïau cynhyrchu bach a mawr i sicrhau fod y berthynas ag S4C yn ffynnu. Mae bob amser yn anelu’n uchel, yn cefnogi’n daer ac yn dangos angerdd mawr dros Gymru a’r Gymraeg.

Hywel a Marian Edwards

Mae Hywel a Marian Edwards, Padog, Betws-y-coed yn rhan o’r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy’n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd. Nid ar chwarae bach mae sicrhau bod pob gwisg wedi’i pharatoi ac yn ei lle ar gyfer pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â gofalu bod popeth yn cael ei gadw’n daclus ar ddiwedd pob seremoni, yn barod ar gyfer y tro nesaf. Dyma gyfle eleni i ddathlu cyfraniad arbennig y tri sy’n gymaint o gefn i Arolygydd y Gwisgoedd.

Hywel Jones

Mae Hywel Jones, Ysbyty Ifan yn un o’r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy’n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd.

Siân Eirian

Bu’r Urdd yn ddylanwad mawr ar fywyd Siân Eirian, Llangernyw, a hithau yn ddylanwad anferth ar yr Urdd, gan iddi weithio’n ddiwyd dros y mudiad am ran helaeth o’i gyrfa, o’i chyfnod fel aelod o Aelwyd Bro Cernyw i’w gwaith fel Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau. Hi hefyd fu’n gyfrifol am greu gwasanaeth Cyw a Stwnsh yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth Rhaglenni Plant a Phobol Ifanc S4C, gan lwyddo i gyflwyno i blant raglenni addysgiadol ac adloniadol enillodd wobrau cenedlaethol a rhyngwladol.

Kenneth Fitzpatrick

Yn gyn-swyddog morwrol harbwr a harbwr-feistr ym Mhwllheli, Porthmadog a’r Bermo, bu Kenneth Fitzpatrick, Morfa Nefyn yn weithgar fel gwirfoddolwr arweiniol gyda Chlwb Hwylio Pwllheli yn yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Digwyddiadau Plas Heli, a chyda Bad Achub Porthdin-llaen. Bu’n gweithredu fel gwirfoddolwr, is-gapten a mecanic ac fel rheolwr gweithgareddau’r bad achub am dros ddeugain mlynedd i gyd. A chanddo oes o wasanaeth ffyddlon i gadw’r traddodiad morwrol yn fyw a diogel i bobol ifanc yr ardal, mae’n llawn haeddu cydnabyddiaeth gan Orsedd Cymru eleni.

Mared Gwyn Jones

A’i gwreiddiau yn Nefyn a Llanbedrog, Mared Gwyn, Brwsel yw llais Cymru yn Ewrop. Mewn cyfnod o helynt a thor-perthynas ag Ewrop, mae’n ymateb i ddigwyddiadau’n braff a graenus ar y cyfryngau gan gadw’r trafod a’r dadansoddi o safon ryngwladol, yn y Gymraeg. Yn hyderus mewn pum iaith, mae hi, â’i hagwedd agos-atoch, yn llysgennad medrus i Gymru a’r Gymraeg, ac yn ysbrydoliaeth i ferched ifanc trwy osod y Gymraeg a Chymru’n rhan o’r sgwrs fawr wleidyddol gyfoes.

Aled Hughes

Er ei fod yn byw ar Ynys Môn erbyn hyn, mae Aled Hughes, Llanfairpwll yn un o Hogia’ Llŷn, a’i wreiddiau’n ddwfn yn nalgylch y Brifwyl eleni. Mae’n cyflwyno rhaglen gylchgrawn ddyddiol ar Radio Cymru sy’n llwyfan hygyrch i drafod ein hiaith, hanes Cymru, gwyddoniaeth a sawl pwnc arall a oedd, cyn hyn, yn cael sylw ar raglenni arbenigol yn unig. Mae hefyd wedi teithio Cymru gan ei herio’i hun yn gorfforol, a thrwy hynny llwyddodd i godi miloedd o bunnoedd at elusen Plant mewn Angen.

Kristoffer Hughes

Yn wreiddiol o Lanberis, bu Kristoffer Hughes, Bodorgan yn gweithio fel technegydd patholegol, yn cynnal archwiliadau post-mortem ar gyfer y Crwner yng ngogledd orllewin Cymru. Daeth ei waith fel swyddog galar a phrofedigaeth â chysur i nifer fawr o deuluoedd, gan iddo gynnig gwasanaeth Cymraeg. Mae hefyd yn adnabyddus fel y comedïwr drag, Magi Nogi, ac mae’n bennaeth Urdd Derwyddon Môn, sy’n dathlu ein treftadaeth a’n traddodiadau hynafol.

Terry Jones Hughes

Yn ddi-os, mae Terry Jones Hughes, Tudweiliog yn un o hoelion wyth ei filltir sgwâr a’i gymuned leol. Yn amaethwr tan iddo ymddeol, mae’r capel a’r diwylliant Cymraeg yn Llŷn yn agos at ei galon, a bu’n gweithio’n ddistaw a diflino i ddiogelu’r gwerthoedd hynny a’u trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Mae’n aelod gweithgar o nifer o sefydliadau a grwpiau lleol, gan gynnwys y Cyngor Plwyf a Phwyllgor Llên yr Eisteddfod eleni, ac mae ei gyfraniad i’r cyfan oll yn gyson ddoeth a gwerthfawr.

Andrew John

Mae’r Parchedicaf Andrew John yn Esgob Bangor er 2009 ac yn Archesgob Cymru er 2021. Erys ei brosiect cenedlaethol, ‘Bwyd a Thanwydd’, lle ymgysylltai ag archfarchnadoedd a Llywodraeth Cymru i gefnogi pobol yn ystod yr argyfwng costau byw, yn agos at ei galon. Cefnogodd y defnydd o Gadeirlan Bangor fel canolfan frechu gymunedol yn ystod y pandemig, ac mae wedi cydweithio ar Brosiect Llan, sy’n hyrwyddo diwylliant, iaith a’r ffydd Gristnogol Gymreig mewn modd cyfoes, wrth gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn Esgobaeth Bangor. Fel aelod o Fainc yr Esgobion, mae’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg a Christnogaeth Gymreig, ac mae’n cefnogi ‘Cwrs Croeso’ yr Eglwys yng Nghymru, sy’n annog clerigwyr newydd i ddysgu Cymraeg.

Christine Jones

Caiff Christine Jones, Pwllheli ei hurddo am ei chyfraniad diflino i gymuned ei milltir sgwâr dros flynyddoedd lawer. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o athroniaeth Christine, ac mae hi bob amser yn barod ei chymwynas, gan wirfoddoli gyda nifer o grwpiau a sefydliadau lleol. Yn gefnogwr brwd yr Ŵyl Cerdd Dant a’r Eisteddfod, chwaraeodd ran flaenllaw yn codi arian yn lleol eleni. Hi fu’n gyfrifol am greu’r sesiynau ‘Pnawn Difyr’ ar gyfer yr Ŵyl Cerdd Dant, ac mae’r rhain wedi parhau ers hynny, yn waddol pendant i’w gwaith ardderchog yn ei bro.

Dewi Bryn Jones

Dewi Bryn Jones, Garndolbenmaen yw prif arloeswr technolegau’r iaith Gymraeg. Gwnaeth fwy nag unrhyw un i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg. Ef yw arweinydd tîm yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, sydd wedi datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg, a hefyd technoleg cyfieithu peirianyddol Cymraeg<>Saesneg. Gan rannu’i amser rhwng Cymru a Helsinki yn y Ffindir, mae wedi arloesi ym maes technoleg y Gymraeg at anghenion pobol anabl a’r cyhoedd yn gyffredinol, gan osod esiampl i gymunedau ieithyddol bach eraill.

John Llyfnwy Jones

Fyddai John Llyfnwy Jones, Llithfaen ddim yn John heb Lithfaen, a fyddai Llithfaen ddim yn Llithfaen heb John Llyfnwy – mae’n rhan mor annatod o’r pentref. Roedd yn un o brif sylfaenwyr Tafarn y Fic, tafarn gymunedol gyntaf Ewrop, a’i gryfder mawr yw ei barodrwydd a’i amynedd i feithrin a chynnig arweiniad i bobol ifanc lleol. Pan gafodd Menter yr Eifl ei sefydlu yn sgil cau’r siop a’r swyddfa bost – a bygythiad gweld y pentref yn mynd â’i ben iddo yn sgîl hynny – daeth i’r adwy gan ysgogi’r pentrefwyr i gydweithio a chyfrannu er mwyn achub y siop a’r pentref fel ei gilydd.

Linda Jones

Bu Linda Jones, Ffestiniog yn weithgar yn ardal Blaenau Ffestiniog ers blynyddoedd, ac yn un o sylfaenwyr cwmni Seren, un o fentrau cymdeithasol blaenllaw Cymru. Y prif nod yw cynnig cymorth proffesiynol i bobol ag anableddau dysgu. Sefydlodd westy tair seren yn Llan Ffestiniog – Gwesty Seren – i ddarparu llety ar gyfer pobol ag anableddau corfforol a dysgu, prosiect arloesol a’r unig gyfleuster o’i fath yng Nghymru. Mae hi hefyd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog sy’n hwyluso cydweithrediad rhwng busnesau a mentrau cymunedol, ac sy’n cyflogi tua 150 o bobol leol.

Mair Jones

Mae Mair Jones, Llaniestyn wedi codi miloedd o bunnoedd i wahanol elusennau, ac am flynyddoedd bu’n agor ei chartref i godi arian. Pan ddaeth y pandemig, penderfynodd osod cwt pren i werthu pethau ail-law wrth giât Iôn ei chartref. Bellach, mae Cwt Gobaith yn agored bob dydd gyda blwch gonestrwydd yn codi arian i Dŷ Gobaith. Mae’n cymryd rhan flaenllaw yn ymgyrch Operation Christmas Child bob blwyddyn ac yn creu cannoedd o dorchau Nadolig i godi arian. Dyma un o arwyr tawel Pen Llŷn sy’n haeddu cael ei hurddo i Orsedd Cymru am ei gwaith elusennol rhagorol.

Malcolm Jones

Mae Malcolm Jones, Tremadog wedi cymryd rhan yn Ras yr Wyddfa bob blwyddyn er ei chychwyn ddeugain a chwech o flynyddoedd yn ôl. Cynrychiolodd Gymru mewn sawl cystadleuaeth rhedeg mynydd rhyngwladol gyda chryn lwyddiant, a phan oedd yn drigain oed, cynrychiolodd ein gwlad mewn cystadlaethau triathlon. Cludodd fflamau’r Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad ar eu taith drwy Eifionydd, ac mae wedi rhedeg sawl marathon. Bu hefyd yn rhan o sefydlu clybiau rhedeg mynydd lleol llwyddiannus dros y blynyddoedd, gan ennyn diddordeb yn y gamp fu’n gymaint rhan o’i fywyd ef ei hun.

Geraint Lloyd

Roedd Geraint Lloyd, Lledrod yn un o leisiau mwyaf adnabyddus Radio Cymru am flynyddoedd lawer. Dechreuodd ei yrfa gyda Radio Ceredigion, ac eleni ymunodd â gorsaf radio Môn FM. Pan oedd yn ifanc, ralio a rasio oedd yn mynd â’i fryd; bu’n cynrychioli Cymru mewn rasys 4×4, ac mae’n aelod brwd o Glwb Glasrasio Teifi. Mae’n un o gefnogwyr mwyaf selog y Ffermwyr Ifanc, ac yn 2017 cafodd ei ethol yn Llywydd Cenedlaethol y mudiad, anrhydedd a dderbyniodd gyda balchder. Mae hefyd yn cefnogi Theatr Felin-fach, ac wedi perfformio droeon yn eu pantomeimiau enwog.

John Mahoney

Ymhell cyn dyddiau’r Wal Goch a Chwpan y Byd 2022, ni fu’r un Cymro a chwaraeodd dros ein gwlad yn fwy balch o’i dras na John Mahoney, Caerfyrddin. Wedi i’w yrfa fel chwaraewr ddod i ben yn 1983, aeth ati i ddysgu Cymraeg, gan fynychu sesiynau lefel uwch ‘Siawns am Sgwrs’ yng ngorllewin Cymru. Nid ef yw’r unig aelod o’r teulu i gynrychioli Cymru, gan fod un o’i ferched hefyd wedi cynrychioli ei gwlad wrth chwarae pêl-droed. Mae’n ŵr diymhongar sy’n caru Cymru, ein hiaith a’n diwylliant.

Laura McAllister

Mae Laura McAllister, Caerdydd yn Athro Llywodraethiant a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Yn gyn-bêldroedwraig ryngwladol, mae’n lladmerydd diflino dros gydraddoldeb ym maes chwaraeon, ac wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy wrth amlygu gêm y merched a’r menywod, hawliau LHDTC+, a chwaraeon paralympaidd. Eleni, cafodd ei hethol i Bwyllgor Gweithredol UEFA: mae hi bellach yn is-lywydd y corff hwnnw, y cynrychiolydd cyntaf o Gymru a’r bêldroedwraig gyntaf i gyflawni’r gamp. Mae’n sylwebydd cyson ar y cyfryngau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd gwleidyddiaeth a chwaraeon.

Gwyn Mowll

Mae Gwyn Mowll, Llanrug wedi treulio dros ddeugain mlynedd yn dysgu, cefnogi a hwyluso karate traddodiadol ‘Shotokan’ yng Nghymru yn wirfoddol, gan gyffwrdd – a thrawsnewid – bywydau miloedd o drigolion gogledd Cymru. Ar ddechrau’r 1990au, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o greu Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru, gan sicrhau cynnal safonau mewn clybiau. Yn aml, caiff gwersi eu cynnal yn dairieithog – Cymraeg, Saesneg a Siapanaeg. Bu’r cyfnod clo yn anodd i’r gamp, ond mae dyfodol pendant iddi yng Nghymru gyda chefnogaeth unigolion brwdfrydig fel Gwyn Mowll.

Enid Owen

Heb bobol fel Enid Owen, Botwnnog, fu’n fodlon ymgymryd â swyddi mewn cymdeithasau bach a gwirfoddoli i roi profiadau i blant a phobol ifanc, ni fyddai dyfodol i’n hiaith a’n diwylliant yng nghefn gwlad Cymru. Dechreuodd yr arferiad o gystadlu yng nghystadlaethau canu’r Urdd gyda phlant Adran Botwnnog. Doedd dim traddodiad yn y maes hwnnw yn yr Adran, a chymerodd yr awenau gan dynnu sawl parti ac unigolyn o dan ei hadain. Dyma wraig wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i fywyd diwylliannol ei milltir sgwâr dros gyfnod hir.

Llinos Angharad Owen

Ar ôl gyrfa ym myd addysg, mae Llinos Angharad Owen, Beddgelert bellach yn gweithio i elusen Tir Dewi, sy’n cynorthwyo ffermwyr a’u teuluoedd gyda phryderon a phroblemau. Chwaraeodd ran amlwg mewn prosiect arloesol gyda Heddlu’r Gogledd gan sicrhau bod lle amlwg i’r Gymraeg ynddo. Mae hefyd yn un o sylfaenwyr a threfnwyr Grŵp Cneifio Gelert sydd wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dros y blynyddoedd, gan ddenu sylw ar draws y byd, yn arbennig yn ystod y cyfnod clo.

Rhiannon Parry

Yn sylfaenydd a golygydd papur bro Y Gadlas am flynyddoedd, ers symud i Ddyffryn Nantlle mae Rhiannon Parry, Pen-y-groes wedi cyfrannu colofn fisol i’r papur lleol, Lleu. Bu’n olygydd Y Wawr ac mae’n ysgrifennu am gelf yn rheolaidd i Barn. Ar ôl dilyn cyrsiau celf wrth ddioddef o ganser, cydlynodd grŵp o wniadwragedd ar draws y gogledd er mwyn creu paneli mawr i addurno waliau Llys Llywelyn yn Amgueddfa Werin Cymru, gan gydweithio â’r artist Cefin Burgess. Mae’n ddarlithydd difyr ar amrywiol bynciau, yn ymddiddori ym myd y ddrama ac yn arbenigo ar hen feddyginiaethau.

Alun Roberts

Er deng mlynedd ar hugain a mwy, mae Alun Roberts, Caernarfon yn ymgorfforiad o’r ysbryd cymunedol Cymreig ar ei orau, yn hyrwyddo a chefnogi pob gweithgaredd dyngarol, elusennol a diwylliannol yn y gymdeithas leol yn ei ffordd dawel ac ymarferol ei hun. Mae ei ymrwymiad i’w gymuned yn ddiarhebol: o gefnogi gweithwyr ffatri Friction Dynamics i’w waith gyda Banc Bwyd Caernarfon, ac o brosiectau fel Porthi Pawb i’r fenter O Law i Law, mae ei gymorth a’i gefnogaeth yn allweddol i lwyddiant pob ymgyrch a phrosiect yn lleol.

Alwyn Roberts

Yn gymwynaswr wrth reddf ac yn un sydd â chariad mawr tuag at y Gymraeg, mae Alwyn Roberts, Llanuwchllyn yn eofn ei farn ac yn ddoeth ei gynghorion. Mae’n gynghorydd cymuned poblogaidd ar gyngor plwyf Llanuwchllyn ac yn gyn-gadeirydd y Cyngor. Mae’n aelod o Gôr Godre’r Aran a hefyd o barti Tri Gog a Hwntw, sy’n cynnal nosweithiau llawen, ac mae’n Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol y pentref er 2001. Mae’n adnabyddus iawn i Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt am ei wasanaeth hir a ffyddlon fel aelod o staff y Brifwyl tan 2021.

John Roberts

Mae John Roberts, Aberystwyth wedi bod yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer yn cyflwyno rhaglen Bwrw Golwg ar foreau Sul, rhaglen sy’n rhoi lle i faterion crefyddol a moesol. Oherwydd ei natur a’i safbwyntiau, mae’n rhaglen agored, ryddfrydol ei naws, a dwfn-dreiddgar ei chynnwys. Mae ei gyfraniad i fyd darlledu ac i fyd trafod drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, ac yn dal i fod, yn sylweddol a phwysig. Mae hefyd yn llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel o safon. Nid llenor ‘toreithiog’ mohono, ond un gofalus sy’n araf-saernïo ei waith.

Nicola Saffman

Yn wreiddiol o Fanceinion, cafodd Nicola Saffman, Caernarfon ei magu heb gysylltiad â’r Gymraeg. Pan symudodd i Gymru, dysgodd y Gymraeg a dod yn siaradwraig hyderus ymhen ychydig. Bu’n ddirprwy-grwner gogledd orllewin Cymru am ugain mlynedd – y ferch gyntaf yn y swydd – a chynhaliodd gwestau lawer yn Gymraeg. Cafodd ei phenodi’n Farnwr Llys y Goron yn 2019, ac mae’n gweithio yng Nghaernarfon – yr unig ferch sy’n Farnwr Llys y Goron llawn-amser yng ngogledd Cymru. Mae’n deall yr angen i gefnogi’r Gymraeg yn ein llysoedd, ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch a chynhwysol.

Catrin Elis Williams

Meddyg teulu yw Catrin Elis Williams, Bangor, a’i gwreiddiau’n ddwfn ym Mhen Llŷn. Bu’n ysgrifennydd y Gymdeithas Feddygol am sawl blwyddyn ac yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, yn hyrwyddo addysg feddygol yng ngogledd Cymru a chyfrannu at osod sail yr Ysgol Feddygol yn y gogledd. Mae’n weithgar yn ei hardal ar sawl pwyllgor a bwrdd, gan gynnwys Antur Waunfawr a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn. O 2019 tan eleni, bu’n un o gyfarwyddwyr Cartrefi Cymru, sy’n cefnogi rhai ag anableddau dysgu i fyw bywyd llawn yn eu cymuned.

Ruth Wyn Williams

Yn wreiddiol o Abersoch, mae Ruth Wyn Williams, Bangor wedi cyfrannu’n sylweddol at wella ansawdd gwasanaethau nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru, gan godi proffil maes sy’n cael ei esgeuluso yn aml. A hithau’n credu’n gryf mewn rhoi llais, urddas a chyfiawnder i aelodau mwyaf bregus cymdeithas, gweithiodd yn ddiflino i newid agweddau ymysg y cyhoedd, gan ddylanwadu’n arwyddocaol ar benderfyniadau polisi ac ysbrydoli llu o fyfyrwyr a staff ar draws y gwasanaeth iechyd. Gyda’r angerdd sy’n ei nodweddu fel unigolyn, mae wedi ymroi i wella profiadau pobol ag anableddau dysgu er mwyn iddyn nhw gael byw bywyd i’r eithaf.

Einir Wyn

Mewn cyfnod o newidiadau mawr yn y pentref, mae ymroddiad pobol fel Einir Wyn, Abersoch yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gymuned Gymraeg yn dal ei thir. Gweithiodd yn ddiflino i gadw’r ysgol leol ar agor, ac er mai ofer fu’r ymdrechion, cyflwynodd lyfrau o’r hen ysgol i elusen sy’n hyrwyddo a datblygu gallu addysgol disgyblion ysgolion cynradd, uwchradd a phrifysgolion gwledydd Affrica. Mae’n ganolog yn y gwaith o geisio datblygu adeilad yr ysgol er budd y gymuned. Mae’n Glerc Cyngor Cymuned Llanengan ers blynyddoedd, ac yn fanwl ei gwaith wrth ymateb i geisiadau i ddatblygu’r ardal, gan roi gwarchodaeth y Gymraeg a’i chymunedau’n gyntaf bob tro.