Mae Menter Iaith Abertawe wedi ychwanegu dau act arall at lein-yp llawn Gŵyl Tawe fis nesaf.

Bydd yn cael ei chynnal ar Fehefin 10.

Yn ymuno â’r rhaglen gerddoriaeth fyw yn Amgueddfa’r Glannau fydd Rogue Jones a Gillie.

Dyma fydd perfformiad cyntaf Rogue Jones ers cyhoeddi eu hail albwm, Dos Bebés, tra bod Gillie wedi cyhoeddi ei senglau cyntaf yn y Gymraeg yn ddiweddar, sef ‘I Ti’ a ‘Llawn’.

Roedd llu o artistiaid eisoes wedi eu cyhoeddi i chwarae ar ddau lwyfan yn yr amgueddfa.

Mae’r rhain yn cynnwys Ani Glass, Hyll, Lloyd x Dom + Don, Los Blancos, MR, Sage Todz, She’s Got Spies, Sybs, a The Gentle Good, gydag Adwaith yn cloi’r noson.

Mae’r amserlen lawn ar gael yma.

Theatr, siopau a gweithdai iaith

I ddechrau’r digwyddiad yn y bore, bydd sioe theatr ryngweithiol i deuluoedd gan Familia de la Noche.

“Ymunwch â Brogs y Bogs, archarwyr y llyffantod, a helpwch nhw i ffrwydro drwy’r ffosydd a difetha’r Cwac Tŷ Bach yn y sioe newydd hon,” meddai Menter Iaith Abertawe.

“Dewch i neidio, dawnsio a chwerthin llond eich bol gyda’r amffibiaid anhygoel, fydd yn siŵr o ddiddanu’r teulu cyfan.

“Yn dilyn hyn, bydd amrywiaeth o berfformiadau gan ysgolion lleol gan gynnwys corau, grwpiau dawns, ac offerynwyr.”

Yng nghyntedd yr amgueddfa, fe fydd arlwy o stondinau a gweithgareddau gan bartneriaid fel Coleg Gŵyr Abertawe, Siop Tŷ Tawe, Canolfan Celfyddydau’r Taliesin, Oriel Mission a Mudiad Meithrin.

Bydd gweithgareddau gwyddonol gan Technocamps, a bydd yr artist Rhys Padarn Jones yn cynnig gweithdy fydd yn galluogi mynychwyr i greu ychydig o waith yn ei arddull Orielodl unigryw.

Bydd cyfle hefyd i fwynhau sesiynau stori a chân gan Cymraeg i Blant, a sesiynau blasu gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn ystafelloedd dysgu’r amgueddfa.

Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng 10yb ac 8yh.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe, a Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

Adwaith, Los Blancos, Ani Glass, Sage Todz a mwy mewn gŵyl ar lan y môr

Bydd Gŵyl Tawe yn cael ei chynnal yn Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe ar Fehefin 10