Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio yng Ngŵyl Tawe eleni mae Adwaith, Los Blancos, Ani Glass a Sage Todz.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe ar Fehefin 10, ar ôl symud o dafarn y Railway yng Nghilâ ar gyrion y ddinas.

Bydd yr ŵyl eleni eto yn gweld perfformiadau gan lu o artistiaid cyfoes sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous.

Yn hanu o Gaerfyrddin, roedd Adwaith wedi rhyddhau eu hail albwm “Bato Mato” ar Recordiau Libertino yn ystod 2022.

Wrth wneud hynny, nhw oedd yr act cyntaf i ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith, ac erbyn hyn maen nhw wedi mwynhau cyfres o deithiau, set yn Glastonbury, a slotiau yn cefnogi’r Manic Street Preachers ac IDLES.

Mae Adwaith yn fand sydd â gwreiddiau clir yng Nghymru – ond wrth edrych tua’r dyfodol, maen nhw’n canolbwyntio’n frwd ar fynd â’r iaith yn fyd-eang.

Hefyd yn perfformio ar draws prif lwyfan awyr agored yr ŵyl a’r ail lwyfan yng nghanol yr amgueddfa fydd Hyll, Lloyd x Dom + Don, MR, She’s Got Spies, SYBS a The Gentle Good, gyda mwy o enwau eto i’w cyhoeddi.

Mae’r digwyddiad yn hollol rad ac am ddim, gyda’r amgueddfa yn agor am 10yb a’r prif lwyfannau cerddoriaeth yn rhedeg rhwng 12yp ac 8yh.

Yn ystod bore’r digwyddiad, bydd sioe theatr ryngweithiol i deuluoedd gan Familia de la Noche, yn ogystal ag amryw o berfformiadau gan ysgolion lleol.

Dros gyfnod y diwrnod, bydd hefyd cyfleoedd i fwynhau sesiynau stori a chân gan Cymraeg i Blant, yn ogystal â derbyn gwersi blasu gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, a gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe.