Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, yw enillydd Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli eleni.

Caiff y medalau eu rhoi bob blwyddyn ers 2012, blwyddyn Gemau Olympaidd Llundain, a’r ysbrydoliaeth tu ôl iddyn nhw yw’r fedal Olympaidd wreiddiol am farddoniaeth.

Athena yw eu hawen, ac maen nhw wedi’u saernïo gan y gof arian lleol Christopher Hamilton.

Yn ymuno â’r Athro Hopwood am Fedalau Gŵyl y Gelli fydd yr awdur, darlunydd a sgriptiwr Alice Oseman (Medal am Ffuglen), y bardd roc o Wcráin Serhiy Zhadan (Medal am Ysgrifennu Caneuon), a’r nofelydd arobryn Salman Rushdie (Medal am Ryddiaith).

Bydd hi’n derbyn y fedal ar lwyfan yr ŵyl.

‘Dal ati i chwilio am y geiriau all ein tynnu ynghyd’

“Wrth dderbyn y Fedal hon ac edrych yn ôl, mae llawer yr hoffwn i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth o’r dyddiau cynnar,” meddai.

“Yn eu plith mae’r cyfeillion yn Ysgol Farddol Caerfyrddin am y dysgu, cymdeithas y Talwrn am y gwrando, y myfyrwyr am eu brwdfrydedd, a Peter Florence a Gŵyl y Gelli am eu hanogaeth.

“Gan edrych ymlaen, hoffwn fynegi fy ngobaith y bydd pawb ohonom sy’n llenydda’n dal ati i chwilio am y geiriau a all ein tynnu ynghyd mewn heddwch, yn hytrach na’r rhai sy’n ein gwthio ar wahân mewn rhyfel.”

Gyrfa

Treuliodd Mererid Hopwood ei gyrfa yn gweu cysylltiadau rhwng iaith, llenyddiaeth, addysg, a’r celfyddydau.

Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fis Ionawr 2021, a hi yw ysgrifennydd yr Academi Heddwch.

Am ei barddoniaeth, mae hi wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gwobr Tir na n’Og, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru.

Mae hi’n gyfrannwr rheolaidd yng Ngŵyl y Gelli, ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America.

Bydd Gŵyl y Gelli 2023 yn cael ei chynnal rhwng Mai 25 a Mehefin 4 eleni yn y Gelli Gandryll.

‘Pegwn o oleuni’

“Cyflwynir Medalau Gŵyl y Gelli eleni i anrhydeddu gwaith eithriadol mewn barddoniaeth, ffuglen, ysgrifennu caneuon, a rhyddiaith wrth i ni ddathlu pedwar storïwr arloesol yng Ngŵyl y Gelli 2023,” meddai Julie Finch, Prif Weithredwr Gŵyl y Gelli.

“Mae rhifyn y gwanwyn hwn yn begwn o oleuni, yn symbol rhyngwladol o obaith i’r dychymyg cyfun, creadigol ac i ddyfodol gwell.

“Ymunwch â ni.”