Mae canwr opera cwiar oedd yn teimlo’n rhwystredig yn sgil diffyg cynrychiolaeth i gantorion LHDTC+ wedi mynd ati i greu albwm i daflu goleuni ar y cantorion cwiar sy’n perfformio yn y maes.
Mae Elgan Llŷr Thomas, sy’n gerddor a chyfansoddwr hoyw, wedi gosod ei stamp ar y byd opera eisoes, ac fel un sy’n cynrychioli cantorion cwiar ifainc, gan berfformio ar lwyfannau’r Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.
Yn ystod Mis Pride, bydd yn lansio’i albwm ‘Unveiled’, sy’n adrodd hanes diwylliant cwiar gwledydd Prydain o’r ugeinfed ganrif hyd heddiw.
Roedd wedi dadrithio â thraddodiad y byd opera o ganolbwyntio ar berthnasau heterorywiol, ac fe aeth ati i geisio canfod mwy o leisiau o’r gymuned LHDTC+, gan greu albwm sy’n taflu goleuni newydd ar weithiau rhai o gyfansoddwyr a beirdd hoyw y Deyrnas Unedig, ynghyd â cherddoriaeth gan artistiaid sydd ar y cyrion.
Yr albwm
Mae’r albwm yn agor gyda ‘Seven Sonnets of Michelangelo’ (1940), gan Benjamin Britten, sy’n cael ei ystyried yn gyfansoddwr cwiar mwyaf eiconig gwledydd Prydain, ac oedd wedi ysgrifennu caneuon i’w bartner Peter Pears ar adeg pan oedd gwrywgydiaeth yn drosedd.
Fe ddefnyddiodd yr iaith Eidaleg er mwyn celu gwir ystyron ei ganeuon.
Yn dilyn marwolaeth Benjamin Britten, dechreuodd Peter Pears siarad yn fwy agored am eu perthynas.
Cafodd y cyfieithydd, cyfarwyddwr a chyfansoddwr geiriau Jeremy Sams ei gomisiynu’n arbennig ar gyfer y prosiect yma, i lunio cyfieithiad Saesneg o’r caneuon i gyfleu eu hystyron ac amlygu natur ramantaidd perthynas Benjamin Britten a Peter Pears.
Mae’r albwm hefyd yn cynnwys ‘4 Songs of Youth For Tenor and Piano’ (1940) gan Ruth Gipps, sydd wedi’u gosod i destunau gan y bardd rhyfel cyfunrywiol Ruper Brooke.
Mae gwaith Ruth Gipps yn dal i fod yn eithaf anhysbys o ganlyniad i’r gwahaniaethu wynebodd hi fel cyfansoddwraig ar ddechrau ei gyrfa – dim ond un perfformiad o’i gwaith sy’n hysbys, a hwnnw 70 mlynedd yn ôl.
Dyma’r tro cyntaf i’w chaneuon gael eu recordio’n fasnachol.
Mae ‘Songs for Achilles’ (1961) gan Michael Tippett yn gylch o ganeuon gan gyfansoddwr arall wynebodd frwydr fewnol yn sgil y ffaith ei fod yn hoyw.
‘Swan’, sef darn gan Elgan Llŷr Thomas sy’n cau’r casgliad, a hwnnw wedi’i osod i gasgliad o gerddi gan Andrew McMillan, bardd a darlithydd hoyw gafodd ei ysbrydoli gan gynhyrchiad dynion-yn-unig Syr Matthew Bourne o ‘Swan Lake’.
Tchaikovsky oedd cyfansoddwr ‘Swan Lake’, a hwnnw’n wrywgydiwr oedd wedi penderfynu peidio bod yn agored ynghylch ei rywioldeb.
Dehongliad o’r gweithiau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw’r albwm newydd yma, yn ôl Elgan Llŷr Thomas.
“Dw i’n ceisio darganfod cynulleidfa newydd ar gyfer caneuon celf clasurol, i ddangos nad yw’n elitaidd, yn ffroenuchel nac yn ddiflas,” meddai.
“Mae’n berthnasol dros ben ac yn hollol hyfryd.”
Bydd yr albwm yn cael ei lansio ar y cyd â’r pianydd Iain Burnside a’r gitarydd Craig Ogden yn Neuadd Wigmore yn Llundain ar Fehefin 29 fel rhan o ddigwyddiadau Pride y neuadd eleni.
Bydd yr albwm yn cael ei gyhoeddi ar Fehefin 23.