Mae cyn-enillydd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi codi ei llais dros ddiffyg Cymraeg ar wefannau cymdeithasol yr ŵyl, ac yn datgan nad yw’r Eisteddfod yn gwneud digon i sicrhau cynhwysedd a statws i’r Gymraeg.
Mae Malan Wilkinson hefyd yn deall bod yr e-bost sydd wedi ei gyrru allan at ddarpar-fasnachwyr ac arlwywyr hefyd yn uniaith Saesneg.
Enillodd hi ar yr Unawd Offerynnol yn 15 oed yng Ngŵyl Ryngwladol Llangollen yn 2000.
Daeth i’r amlwg fis yma y bydd arwyddair Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cael ei newid yn 2024, yn sgil pryderon am gamddehongli’r geiriau ‘byd gwyn’.
“Mae’r Eisteddfod wedi sôn yn ddiweddar, yng nghyd-destun cynlluniau i newid yr arwyddair, am ‘barhau ar lwybr pwysig o adnewyddu eu pwrpas mewn byd modern’ yn sgil pryderon y gallai’r arwyddair presennol greu dryswch ymhlith y ’di-gymraeg a chenedlaethau newydd o gynulleidfaoedd,” meddai Malan Wilkinson wrth golwg360, gan fynnu y dylai’r ŵyl ddefnyddio’r Gymraeg.
“Onid yw’r Cymry Cymraeg yn haeddu’r un chwarae teg pan ddaw hi i’r iaith Gymraeg? I fedru darllen negeseuon, newyddion a gohebiaeth yn Gymraeg ar dudalennau rhwydweithiau cymdeithasol yr Ŵyl?
“Does dim Cymraeg ar eu tudalen Facebook na Twitter.
“Sut neges mae hyn yn ei rhoi i weddill y byd?
“Beth mae’n ddweud am sut mae’r Eisteddfod yn gweld y Gymraeg a’i lle yng Nghymru?
“Dylai pob datganiad fod yn ddwyieithog.
“Pam nad yw’r Eisteddfod yn rhoi’r un egni i mewn i fod yn gynhwysol drwy sicrhau hawl a statws i’r Gymraeg?
“Onid dathlu amrywiaeth yw un o brif nodau’r ŵyl gerddorol a diwylliannol hon?
“Ac eto, o edrych ar y rhwydweithiau cymdeithasol – byddai rhywun yn credu eu bod yn ymdrechu i guddio’r Gymraeg.
“Mae’r holl beth yn hurt ac yn dra sarhaus i’r Cymry sydd wedi cefnogi’r ŵyl ar draws y blynyddoedd.
“Mae angen i drefnwyr yr ŵyl ddeffro, deall pwysigrwydd cydraddoldeb a dechrau gweld y Gymraeg fel rhywbeth i’w ddathlu.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.