Mae’r rhaglen Saturday Live ar BBC Radio 4 wedi cael cartref newydd yng Nghaerdydd.

Bydd Nikki Bedi a’r tîm yn darlledu’n fyw o’r brifddinas o heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 1), gyda Peter Curran yn ymuno fel cyd-gyflwynydd gwadd.

Ymhlith y gwesteion fydd y gwyddonydd a darlledwr Alice Roberts, a’r awdur a darlledwr Elizabeth Day yn cyflwyno’i ‘Inheritance Tracks’.

Mae Nikki Bedi yn ddarlledwr teledu a radio rhyngwladol sydd wedi bod yn rhoi sylw i’r celfyddydau ledled y byd ers dros ddau ddegawd.

Yn ogystal â chyd-gyflwyno Saturday Live, mae ganddi ddwy sioe sydd wedi eu hen sefydlu ar BBC World Service.

Mae hi’n curadu, ysgrifennu a chyflwyno The Arts Hour, yn ogystal â’r rhaglen fisol Arts Hour on Tour.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld yr haul yn gwawrio dros Gaerdydd bob bore Sadwrn ac at ddarlledu o’r Sgwâr Canolog,” meddai.

“Does gan radio ddim ffiniau na therfynau a bydd Saturday Live, gyda’n cyfuniad o ddyfnder a direidi, yn parhau i gael pobol ar y rhaglen i rannu eu straeon bob wythnos, gan ein cysylltu ni i gyd, a phrofi nad oes gan neb fywyd cyffredin.”

Rhaglenni’n dod i’r brifddinas

Saturday Live yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o raglenni i ymgartrefu yng Nghaerdydd, yn unol ag uchelgais y BBC i weld mwy o raglenni’n cael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain fel rhan o strategaeth o’r enw Across the UK, gafodd ei chyhoeddi gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn 2021.

Mae Caerdydd eisoes yn gartref i Owain Wyn Evans a’i raglen gynnar ar BBC Radio 2, ac mae llawer o allbwn gwyddoniaeth hefyd yn cael ei gynhyrchu yno.

Ar Ebrill 15, bydd Any Answers? a’i chyflwynydd Anita Anand yn ymuno â’i chwaer-raglen Any Questions? ac Alex Forsyth, i gael ei chynhyrchu ym Mryste a Chaerdydd, ynghyd â Last Word gyda Matthew Bannister, ddechreuodd yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r dull newydd hwn wedi arwain at greu dros 25 o swyddi yn y Sgwâr Canolog, yn cynhyrchu amrywiaeth o gynnwys ym meysydd y celfyddydau, cerddoriaeth glasurol, drama, ffeithiol, gwyddoniaeth, a materion cyfoes.

‘Lleoliad newydd perffaith’

“Fel y bydd gwrandawyr Saturday Live eisoes yn gwybod, mae’r rhaglen ardderchog hon yn plethu straeon gwych a phobol ddiddorol mewn awr hyfryd o hiwmor a sgyrsiau braf,” meddai Mohit Bakaya, Cyfarwyddwr Speech Audio a Rheolydd BBC Radio 4 a 4Extra.

“Mae Caerdydd – prifddinas ifanc sy’n adnabyddus am fod yn gyfeillgar, yn hwyliog ac yn fywiog – yn lleoliad newydd perffaith ar gyfer y rhaglen ac yn gyfle gwych i ehangu’r amrywiaeth o leisiau a glywir bob wythnos.”

Croeso i Gymru

“Mae’n wych gweld tîm Saturday Live yn gwneud Cymru’n gartref iddynt, fel rhan o ymrwymiad Across the UK y BBC i adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cynulleidfaoedd yn well yn lle maen nhw’n byw,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Mae’r cyfleusterau cynhyrchu yng nghanolfan ddarlledu BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog yn rhai heb eu hail, ac mae’n wych gweld cynifer o gydweithwyr o’n timau rhwydwaith yn gwneud defnydd ohonynt.

“Hoffwn ddymuno croeso cynnes iawn i Nikki a’r tîm.

“Croeso i Gymru!”