Colofnydd golwg360 sy’n gofyn pryd gawn ni ddilyniant i Y Sŵn sy’n trafod hanes sefydlu S4C…


“Mae’r pyllau ‘di cau,

y Coets yn wag,

lle mae’r Cymry o flaen y gad?”

Gadael Rhos, Daniel Lloyd, 2009

Magwyd Daniel ‘Mr Pinc’ Lloyd yn Rhosllannerchrugog, pentref o fewn Dinas-Sir Wrecsam, le mae teulu fy nhad yn hanu. Mi wnaethon ni’n dau fyw trwy streiciau’r glowyr yn yr 80au a’r dinistr achoswyd pan fu i’r pyllau gau yn yr ardal.

Aeth Rhos o fod yn ardal lewyrchus i fod yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Wrecsam o fewn ein heinioes ni. Symudwyd pobol o’r fro i chwilio am bywydau gwell, ac mi roedd y tafarnau, megis y Coach and Horses (Coets), yn wag ac yna’n cau.

Teimlaf bob air o’r gân, a weithiau wna’i wrando arni er mwyn cael fy sbarduno i weithredu; mae hi fatha Call to arms… ond efallai ein bod ni wedi troi cornel o’r diwedd, a bydd angen caneuon hapusach bellach, er mwyn gwerthfawrogi a dathlu’r oes aur rydym ar ei throthwy.

Y Stiwt

Agorwyd Y Stiwt yn 1926, wedi ei gyllido gan gyfraniadau’r glowyr (Miner’s InSTItuTe). Mae gan fy nhad atgofion melys o fynd ene fel plentyn yn y 50au i wylio sioeau cerdd ac i gymdeithasu yn gyffredinol.

Synnais, wrth baratoi’r erthygl yma, ddarllen fod y Stiwt wedi cael cyfnod o ddirywiad yn ystod y 70au, ac wedi cau yn 1977, felly cyn cau’r pyllau; eto i gyd, mi roedd y diwydiant glo yn dirywio yn ystod y 70au, a chau oedd yr unig dynged, mewn gwirionedd.

Ond mae’r gymuned leol yn Rhos yn ddyfeisgar ac yn browd, ac aethon nhw ati i ddenu sylw i botensial y Stiwt. Cafodd ei ailadeiladu a’i ailagor yn 1999 ac mae wedi parhau hyd heddiw, a diolch am hynny i griw o wirfoddolwyr. Gyda llaw, mae’n bosib cyfrannu at Y Stiwt fel ‘Ffrind’.

Wrth gwrs, mae menter o’r fath yn ddibynnol ar gwsmeriaid yn mynychu digwyddiadau, ac mae’n dipyn o her ers dyfodiad y teledu i gynnig rhywbeth wneith ein denu ni gyd o’n cartrefi.

Braf, felly, oedd gweld fod y ffilm Gymraeg newydd Y Sŵn am gael ei sgrinio yn y Stiwt. Felly, er gwaethaf cyfnod o brysurdeb, bwciais docyn ar-lein ac ymroi i swopio PJs am glad rags am noson arall, a dwi’n hynod falch i mi wneud.

Y Sŵn

Mae Y Sŵn yn “gynhyrchiad swnllyd ar gyfer S4C mewn cydweithrediad â Joio”. Sefydlwyd Joio i gynhyrchu ffilm a theledu gwreiddiol.” Ac, ew, mae hi wir at fy nant yn bersonol!

Mae’r ffilm yn dechrau yn 1979, sef y flwyddyn ddaeth Thatcher i rym… a hefyd y flwyddyn ges i fy ngeni! Mae’n dilyn hynt a helynt tro pedol y Llywodraeth Geidwadol ar sefydlu sianel cyfrwng Cymraeg… ac yna’r 180 arall bu raid iddynt eu gwneud yn sgil protestio ac, yn fwy na dim, safiad anhygoel Gwynfor Evans.

Mae yna eironi fa’ma fy mod o’r genhedlaeth freintiedig, felly, oedd â mynediad at S4C, ac eto, fel sgwennais yn fy ngholofn ddiweddar yng nghylchgrawn Barddas, nid oeddwn yn gwylio’r sianel, gan taw rhaglenni megis Dallas a Dynasty oedd yn ein diddori ac yn cael eu troi’n ganeuon y buarth.

Fel oedolyn, des yn ymwybodol o’r hanes, ac hyd yn oed o’r ffaith fod Gwynfor wedi bygwth ymprydio hyd at farwolaeth, ond rywsut nid oeddwn cweit wedi gwerthfawrogi pa mor chwyldroadol oedd y cyfan; yn wir, nid oeddwn hyd yn oed wedi gwneud y cysylltiad hefo hanes Mahatma Gandhi a’r weithred o ymwrthedd sifil. Caiff hyn ei gyfleu’n effeithiol iawn ar y sgrin (spoiler!).

Fyswn yn dadlau taw’r cymeriad pwysicaf yn y ffilm yw Ceri Samuel (Lily Beau), dynes ifanc sy’n gweithio yn y Swyddfa Gymreig, sy’n rhannu hefo ni’r purdan mae hi’n byw ynddi o ganlyniad. Rywle rhwng bradwr ac arwr, mae hi’n gwneud ei gorau i weithredu o fewn y sefydliad, gan adlewyrchu profiadau beunyddiol y rhan helaeth ohonom.

I mi, mae modd cyferbynnu pob cymeriad ar y sgrin hefo Ceri, sy’n ei gwneud hi’n big ask i unrhyw actor yn y rhan. Ond mae Lily yn pefrio ac hefo digon o bresenoldeb naturiol ar y sgrin i ddal ei thir.

Wythnos yng Nghymru Fydd 1

Pan gyrhaeddais y Stiwt, mi roedd hi’n llawn dop, mewn modd na welais erioed o’r blaen; roedd y prif lawr yn llawn, ac roedd mwy o bobol yn cyrraedd bob eiliad, gyda’r balconi hefyd yn edrych yn reit llawn. Braf!

Roedd Daniel Lloyd ar y sgrin, ynghyd â Mark Lewis Jones, sydd hefyd yn foi lleol. Roedd Mark ene ar y noson ac yn cynnal trafodaeth; mi roedd wir ymdeimlad o fwrlwm yn yr awyr, fel y dychmygaf yr oedd hi ene yn y dyddiau cynt.

Wrth synfyfyrio, roedd hi braidd fel taswn wedi mynychu noson yn rhan un o Wythnos yng Nghymru Fydd. Yr unig gwestiwn sydd gen i bellach, felly, yw pryd mae’r ffilm nesaf yn cael ei rhyddhau?

 

Y Sŵn

Y Sŵn yn torri tir newydd

Dafydd Wigley

“Teimlad digon od ydi gwylio ffilm o ddigwyddiadau yr oeddech yn rhan ohonynt,” meddai Dafydd Wigley yn ei adolygiad o’r ffilm