Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi i £10.42 o heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 1), ac fe fydd yn effeithio ar 140,000 o weithwyr yng Nghymru.

Mae’n gynnydd o 9.7%.

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud bod y cynnydd yn un “sylweddol”.

“Efallai ei bod hi’n Ebrill 1, ond dydy’r cynnydd sylweddol hwn yn y Cyflog Byw Cenedlaethol ddim yn jôc,” meddai.

“Bydd miloedd o bobol sy’n gweithio’n galed yng Nghymru’n gweld cynnydd o bron i bunt yr awr, gan arwain at £150 ychwanegol bob mis, gan sicrhau bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed.

“Daw’r newyddion da yma ar ben y taliadau costau byw gwerth £300 fydd yn dechrau cyrraedd ym mis Ebrill i bobol ar Gredyd Cynhwysol, gyda rhagor o gefnogaeth yn dod i bensiynwyr a’r rheiny sydd ag anabledd. 

“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn gweithredu er lles pobol Cymru, gan sicrhau ein bod ni’n gwarchod y rhai mwyaf bregus ar yr adeg hon, wrth i’r economi barhau i dyfu er gwaethaf rhyfel anghyfreithlon Putin ac effaith chwyddiant yn dilyn y pandemig Covid.”