Y gyntaf o gyfres o erthyglau ar ystadegau Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg gan golofnydd gwleidyddol golwg360…
Ai newid iaith neu newid yn natur y boblogaeth yw prif achos y lleihad a welwyd yn y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn llawer o’i chadarnleoedd dros y blynyddoedd?Un peth y gallwn fod yn sicr ohono wrth geisio ymateb i gwestiwn o’r fath ydi bod y sefyllfa’n amrywio’n anferthol o le i le.
Er mor gymhleth ydi’r tueddiadau sydd ar waith, gall ffigurau a gafodd eu rhyddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos yma helpu taflu rhywfaint o oleuni pellach ar y sefyllfa.
Yn wahanol i’r ffigurau cychwynnol a gafodd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr, mae ystadegau diweddaraf y Cyfrifiad yn croesgyfeirio’r gallu i siarad Cymraeg â mannau geni’r siaradwyr hynny.
Ar lefel genedlaethol, gwelwn fod 22.3 y cant o’r boblogaeth dros 3 oed a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â 7.3 y cant o blith pobl a aned y tu allan i Gymru. Mae hyn yn gymharu â’r ganran o 17.8 y cant o’r boblogaeth gyffredinol sy’n gallu siarad Cymraeg, fel a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.
Gwahaniaethau dramatig
Yn y gorllewin y mae’r gwahaniaethau mwyaf dramatig i’w gweld yn y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl mannau geni. Mae’r ffigurau hefyd yn dangos gwahaniaethau cynyddol rhwng sefyllfa ieithyddol Sir Gâr a siroedd eraill y gorllewin.
Yng Ngwynedd, Môn a Cheredigion, mae mwyafrifoedd sylweddol o’r boblogaeth a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Yng Ngwynedd, mae’r ganran yn 87 y cant, a hynny’n codi i dros 90 y cant drwy holl gadarnleoedd cryfaf y Gymraeg yn y sir, yn ogystal ag ambell i ardal fel Llanengan, Abersoch a Llanbedrog lle mae bron i hanner y boblogaeth wedi eu geni y tu allan i Gymru.
Ym Môn, y gyfran gyfatebol yw 75.7 y cant, sy’n codi i dros 80 y cant yn y rhan fwyaf o’r sir, ond lle mae cyfran lawer is yn nhref Caergybi yn gostwng y ganran sirol. Yng Ngheredigion hefyd, mae cyfran uchel debyg o 72 y cant, gyda chanrannau uwch mewn llawer o ardaloedd gwledig y sir ond eto cyfran is yn Aberystwyth yn dod â chyfartaledd y sir i lawr.
Yn Sir Gâr, ar y llaw arall, hyd yn oed o blith y boblogaeth a aned yng Nghymru, prin eu hanner – 50.4 y cant – sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r ardaloedd sydd â mwyafrifoedd o’r boblogaeth a aned yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg i gyd naill ai yng ngogledd gwledig y sir neu yng nghymoedd Aman a Gwendraeth.
O ran siroedd eraill Cymru, mae 41.4 y cant o’r boblogaeth a aned yng Nghymru sy’n byw yn Sir Conwy yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â 25.9 y cant o’r boblogaeth gyffredinol. Mae’r canrannau’n codi i rhwng 87 ac 88 y cant yn wardiau Uwch Conwy ac Uwchaled yn ardal wledig y sir.
Darlun anghyflawn
Rhaid cydnabod, wrth gwrs, nad ydi’r ffigurau hyn sy’n cyplysu mannau geni ac iaith yn rhoi darlun cyflawn inni.
Dydi mannau geni ddim bob amser yn dynodi cenedligrwydd, diwylliant na hunaniaeth o angenrheidrwydd. Gwyddom yn dda am gyd-Gymry sydd wedi eu magu ar aelwydydd Cymraeg yn Lloegr, neu o leiaf wedi cael eu geni yno. Er hynny, gallwn fod yn weddol sicr nad oes nifer digonol o’r bobl hyn iddynt fod yn ystadegol arwyddocaol – a ph’run bynnag mae eu gallu i siarad Cymraeg yn cael ei nodi ymhlith y rhai a aned y tu allan i Gymru.Anhawster mwy yw nad yw’r wybodaeth yn manylu ar fannau geni o fewn Cymru. Mae hyn yn golygu nad ydi’r ffigurau’n gwahaniaethu rhwng trigolion cynhenid ardal benodol a phobl sydd wedi symud yno o rannau eraill, mwy Seisnig o bosibl, o Gymru.
Gall hyn fod yn ffactor arwyddocaol mewn rhannau o Sir Gâr, er enghraifft, lle gallai’r canrannau uchel o’r boblogaeth a aned yng Nghymru gynnwys pobl sydd wedi symud yno o Abertawe neu ardaloedd eraill Morgannwg.
Mae’n bosibl felly y byddai’r ffigurau am y canrannau o frodorion rhai o’r ardaloedd hyn sy’n gallu siarad Cymraeg yn debygol o fod yn uwch. Go brin fod hynny ynddo’i hun chwaith yn ddigon o esboniad o’r gwahaniaeth mawr rhwng Sir Gâr a siroedd eraill y gorllewin. O ddefnyddio’r un rhesymeg am leoedd eraill, gallwn fod yn sicr y byddai ffigurau am y gallu i siarad Cymraeg ymhlith trigolion cynhenid rhannau helaeth o Wynedd, er enghraifft, fwy neu lai yn 100 y cant.
Poblogaeth o’r tu allan i Gymru
Yr hyn sydd gwbl ddiamwys, fodd bynnag, ydi’r wybodaeth gyffredinol am faint o’r boblogaeth sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru.
Yng Nghymru gyfan ar gyfartaledd, mymryn dros 70 y cant o’r boblogaeth a gafodd eu geni yma, gyda bron i dri chwarter y gweddill yn hanu o Loegr.
Yn eironig, y sir sydd â’r gyfran isaf o’i phoblogaeth yn gallu siarad Cymraeg sydd hefyd â’r ganran uchaf o’i phoblogaeth wedi eu geni yng Nghymru. Er bod 87.7 y cant o boblogaeth Blaenau Gwent wedi eu geni yng Nghymru, dim ond 6.2 y cant sy’n gallu siarad Cymraeg yn y sir. Sefyllfa ddigon tebyg sydd ym Merthyr gerllaw, gydag 87.0 y cant wedi eu geni yng Nghymru a 8.9 y cant yn gallu siarad Cymraeg.
Yng Ngheredigion ar y llaw arall, y drydedd sir uchaf o ran ei chanran o siaradwyr Cymraeg, dim ond 53.5 y cant o’i phoblogaeth a aned yng Nghymru. Dim ond Powys a Sir y Fflint, lle mae’r gyfran gyfateb yn llai na’r hanner, sydd â chanran is.
Mae’n wir y byddai cyfran uchel o boblogaeth a aned y tu allan i Gymru yn rhywbeth i’w ddisgwyl mewn tref prifysgol fel Aberystwyth ac ardaloedd cyfagos iddi fel y Borth a Faenor.Mwy dadlennol yw mai lleiafrif o’r boblogaeth sydd wedi eu geni yng Nghymru yn wardiau gwledig Lledrod, Llangeitho a Llangybi, er bod y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg ymhlith y boblogaeth frodorol yn dal yn uchel. Dim ond ychydig dros hanner yw’r ganran o’r boblogaeth a aned yng Nghymru yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig eraill y sir hefyd. Hyd yn oed yng Ngwynedd a Môn, yr unig ddwy sir lle mae mwy na hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, mae cyfran uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o’r trigolion yn hanu o’r tu allan i Gymru, sy’n cyfrif am fymryn dros fwy na thraean o’r boblogaeth yn y naill sir a’r llall.
Unwaith eto, mae canrannau uchel o’r tu allan i Gymru yn ward canol Bangor, lle mae poblogaeth uchel o fyfyrwyr. Ar arfordir Meirionnydd hefyd, lleiafrif o boblogaeth Dyffryn Ardudwy, Abermaw, Arthog a Llangelynnin, Morfa Tywyn ac Aberdyfi hefyd sydd wedi eu geni yng Nghymru.
Dyma rai o’r ardaloedd hefyd sydd â’r canrannau isaf yng Ngwynedd o’r bobl sy’n gallu siarad Cymraeg o blith y rhai sydd wedi eu geni yng Nghymru.
Yn Sir Gâr ar y llaw arall, mae cyfran uwch na’r cyfartaledd wedi eu geni yng Nghymru, sy’n cyfrif am bron i dri chwarter y boblogaeth – 73.5 y cant.
Er bod rhai wardiau gwledig fel Cilycwm, Manordeilo a Salem, a Cenarth â chanrannau uchel (dros 40 y cant) o boblogaeth a aned y tu allan i Gymru, nid yw hyn yn wir am ardaloedd ôl-ddiwydiannol dwyrain y sir. Mae lleoedd fel Rhydaman, Llandybïe, Tŷ Croes, Betws a’r Cwarter Bach, sydd ymhlith y lleoedd sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf yn y Gymraeg dros yr 20 mlynedd diwethaf, â rhwng 75 ac 80 y cant o’u poblogaeth yn hanu o Gymru.
Y gallu i siarad Cymraeg ymysg mewnfudwyr
Beth am y gallu i siarad Cymraeg ymysg y rhai sydd wedi symud i Gymru?
Yn ôl y Cyfrifiad, roedd 65,000 ledled Cymru o bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg er iddynt gael eu geni’r tu allan i Gymru.
Nid yw’n syndod mai yn y tair sir fwyaf Cymraeg y mae’r canrannau uchaf o’r mewnfudwyr hyn yn gallu siarad Cymraeg, gyda chanrannau o 20.7 y cant yng Ngwynedd, 17.4 y cant ym Môn a 14.6 y cant yng Ngheredigion. Yn y tair sir hyn mae bron y cyfan o’r wardiau sydd â’r canrannau uchaf, gyda’r gyfran yn codi i tua thraean a mwy yn llawer o gadarnleoedd cryfaf Gwynedd.
Mae’r gyfran yn is yn Sir Gâr ar 11.1 y cant, heb fod amrywiaeth mawr rhwng gwahanol ardaloedd o’r sir a’i gilydd. Powys yw’r un sir arall lle mae’n gymharol uchel ar 9.1 y cant, sy’n codi i bron i chwarter yn ward Banwy, Llanfihangel a Llanwddyn. Gellir dyfalu y gall fod nifer sylweddol o Gymry’r sir wedi eu geni dros y ffin yn Lloegr yn rhannol gyfrifol am hyn.
Chwilio am atebion
Mae’n amlwg mai’r cam cyntaf at geisio gwrthdroi’r dirywiad yn y Gymraeg yn y gorllewin fydd sicrhau gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sydd ar waith.
Gallwn weld yn glir fod rhai ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar drai ymysg y boblogaeth frodorol ac ardaloedd eraill lle mai newid yn natur y boblogaeth yw’r ffactor pwysicaf. Yr hyn mae’r ffigurau diweddaraf yn ei wneud mewn gwirionedd ydi tanlinellu cymhlethdod y sefyllfa a’r graddau mae’n amrywio o le i le.
Maen nhw hefyd yn dangos yn gliriach nag erioed na fydd parhau i drin Cymru gyfan fel un uned ieithyddol yn gweithio ar ar lawr gwlad. Yn wyneb yr amrywiaethau a’r gwahaniaethau cynyddol sydd o fewn y Gymru Gymraeg, heb sôn am Gymru’n gyffredinol, gwelwn fwy o angen nag erioed am weithredu ar sail fwy daearyddol a phenodol.