Gallai hawl un ym mhob pump o weithwyr yng Nghymru i streicio fod yn y fantol o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil newydd.

Daw hyn o ganlyniad i’r Bil Streiciau (Isafswm Lefelau Gwasanaeth), wrth i Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) rybuddio y gallai effeithio ar 245,000 o weithwyr yng Nghymru, a 5.5m ledled y Deyrnas Unedig.

Pe bai’r ddeddfwriaeth yn cael ei phasio heb welliannau, gallai gweithwyr ym meysydd iechyd, addysg, y gwasanaeth tân, trafnidiaeth, diogelwch ffiniau a datgomisiynu niwclear gael eu gorfodi i fynd i’r gwaith pe baen nhw’n pleidleisio dros streicio, a chael eu diswyddo pe baen nhw’n gwrthod gwneud hynny.

Collodd y ddeddfwriaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi’n ddiweddar, wrth i holl welliannau’r gwrthbleidiau gael eu derbyn, gan gynnwys un gwelliant i atal gweithwyr rheng flaen rhag cael eu diswyddo am streicio, ac un arall sy’n eithrio Cymru o’r ddeddfwriaeth yn sgil pwerau sydd wedi’u datganoli.

Rhybuddion a gwrthwynebiad

Dywed TUC Cymru fod rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r ddeddfwriaeth gyfan o’r neilltu er mwyn gwarchod hawl gweithwyr i streicio, ac y dylai’r ddeddfwriaeth gael ei “gwrthwynebu’n chwyrn” gan wleidyddion.

Maen nhw’n cyhuddo’r llywodraeth o gelu’r gwir am natur ddraconaidd y ddeddfwriaeth, ac yn cyhuddo gwleidyddion o osgoi’r broses graffu arferol drwy ruthro i gyflwyno’r ddeddfwriaeth yn San Steffan.

Rhybuddiodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn ddiweddar hefyd y gallai’r ddeddfwriaeth weld gweithwyr sy’n streicio yn colli eu gwarchodaeth rhag cael eu diswyddo’n annheg, gan y gallai streiciau cyfan fod yn anghyfreithlon.

Byddai’r ddeddfwriaeth yn rhoi’r hawl i wleidyddion gyflwyno isafswm lefelau gwasanaeth drwy reoleiddio, ond dydy aelodau seneddol ddim yn gwybod yn iawn sut y bydd yr isafswm lefelau gwasanaeth yn gweithio.

Fe wnaeth un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi feirniadu’r ddeddfwriaeth yn ddiweddar am roi pwerau cyffredinol i weinidogion y Deyrnas Unedig heb fanylion.

Mae sefydliadau hawliau, pwyllgorau hawliau dynol, pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi, grwpiau cydraddoldeb hil a rhywedd, cyfreithwyr cyflogaeth a gwleidyddion ym mhob cwr o’r byd wedi beirniadu’r ddeddfwriaeth hefyd.

‘Sbeitlyd, draconaidd, annemocrataidd’

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bygwth hawl cynifer ag un ym mhob pump o weithwyr yn y wlad i streicio,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Bil sbeitlyd yw hwn.

“Ddylai neb gael eu diswyddo am geisio ennill cytundeb gwell yn y gwaith.

“Ond byddai’r ddeddfwriaeth ddraconaidd hon yn golygu, pan fyddai gweithwyr yn pleidleisio’n ddemocrataidd tros streicio, y gallen nhw gael eu gorfodi i weithio a’u diswyddo pe na baen nhw’n cydymffurfio.

“Mae’n annemocrataidd, yn anymarferol ac mae’n debygol iawn o fod yn anghyfreithlon.

“Mae gweinidogion y Deyrnas Unedig wedi ceisio cadw’r cyhoedd yn y tywyllwch ynghylch gwir natur y Bil hwn.

“Maen nhw’n ei wthio drwodd, gan osgoi gweithdrefnau seneddol arferol a chraffu.

“Ac maen nhw’n rhoi’r pwerau iddyn nhw eu hunain i gipio hawl un ym mhob pump, a hanner miliwn o weithwyr, i streicio.

“Gyda chwyddiant yn dal i redeg dros 10%, y peth diwethaf sydd ei angen ar weithwyr yw gweinidogion y Deyrnas Unedig yn ei gwneud hi’n fwy anodd i sicrhau gwell cyflogau ac amodau.

“Mae’n bryd i weinidogion y Deyrnas Unedig warchod yr hawl i streicio, a chefnu ar y Bil hwn am byth.”

TUC Cymru’n 50 oed

Daw sylwadau Shavannah Taj wrth i TUC Cymru ddathlu’r 50 heddiw (dydd Llun, Mai 22).

Yn bresennol mewn cyfarfod arbennig yng Nghasnewydd fydd George Wright, un o aelodau cychwynnol y sefydliad; y Prif Weinidog Mark Drakeford; a Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

Cyfrannodd George Wright yn fwy na neb arall at sefydlu TUC Cymru, ac yntau ar y pryd yn gweithio yn y diwydiant ceir yng nghanolbarth Lloegr, ac un o’i dasgau oedd gwrthsefyll y gwrthwynebiad yn Lloegr i sefydlu TUC Cymru.

Bydd yn annerch y Cyngor Cyffredinol ynghylch ei atgofion a’i brofiadau’n brwydro tros yr hawl i sefydlu TUC Cymru, a’i rôl fel Ysgrifennydd Cyffredinol cynta’r mudiad.

Wedi’i sefydlu yn 1973, mae TUC Cymru’n cynrychioli 48 o undebau llafur a 400,000 o weithwyr ac yn cefnogi gwaith undebau cysylltiedig, yn cydlynu ymgyrchoedd ar y cyd, ac yn ffurfio barn ar bolisïau ar ran y mudiad.

Mae hefyd yn gyfrifol am gyflwyno Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, sy’n cynnig cyfleoedd addysg a sgiliau i weithwyr ledled y wlad.

Yn fwyaf diweddar, fe fu TUC Cymru’n brwydro i warchod gweithwyr yng Nghymru rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n ceisio gwanhau undebau, ac maen nhw hefyd yn brwydro yn erbyn eu polisïau llymder.

Maen nhw wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i greu agenda polisi Gwaith Teg, sy’n ceisio codi safonau cyflogaeth ac sydd wedi lobïo am gyflwyno’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol, fydd yn rhoi rôl ganolog i undebau llafur wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau.

‘Pum degawd o frwydro ar ran gweithwyr’

“Rydyn ni’n eithriadol o falch o fod wedi cyrraedd ein 50fed pen-blwydd ac o allu edrych yn ôl dros bum degawd o frwydro ar ran gweithwyr,” meddai Shavanah Taj.

“Rydyn ni’n arbennig o falch o allu rhannu’r achlysur hwn gyda George Wright, ein Hysgrifennydd Cyffredinol cyntaf.

“Heb George, fyddai TUC Cymru fel ag y mae heddiw ddim yn bodoli. Mae arnon ni ddyled enfawr o ddiolchgarwch iddo fe.

“Does ond rhaid i ni edrych o’n cwmpas i weld perthnasedd a rheidrwydd TUC Cymru heddiw.

“Mae gennym ni Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n ceisio cwtogi ar hawliau gweithwyr drwy’r Bil Isafswm Lefelau Gwasanaeth.

“Ac eto, yma yng Nghymru yr wythnos hon, byddwn ni’n gweld y Bil Partneriaeth Gymdeithasol yn cael ei basio a fydd yn grymuso gweithwyr ac yn eu rhoi nhw wrth galon gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

“Mae hyn yn dyst i’r gwahaniaeth y gall TUC Cymru ei wneud, a dyma’r math o waddol rydyn ni’n ceisio’i adeiladu.”