Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod yr ymgyrch tros annibyniaeth wedi helpu undod Plaid Cymru ar adeg sydd wedi bod yn gythryblus iddyn nhw, a bod rhaid i Blaid Cymru adlewyrchu’r gymdeithas maen nhw a’r mudiad annibyniaeth eisiau ei chreu.

Roedd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ymhlith y siaradwyr yn rali annibyniaeth Abertawe ar ôl yr orymdaith gafodd ei threfnu gan fudiadau Pawb Dan Un Faner a YesCymru yn Abertawe ddydd Sadwrn (Mai 20).

Yn ôl amcangyfrifon, daeth tua 7,000 i 8,000 o bobol ynghyd ar gyfer yr orymdaith a rali annibyniaeth gyntaf yn 2023.

Ymhlith y dorf roedd Llŷr Gruffydd, arweinydd dros dro Plaid Cymru yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price tros adroddiad damniol Nerys Evans, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ar fwlio, gwreig-gasineb a diwylliant o ofn o fewn y blaid.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod “gormod o achosion o ymddygiad drwg” ymhlith uwch swyddogion y blaid.

Fe wnaeth yr adroddiad Prosiect Pawb gan Nerys Evans ganfod methiannau yn arweinyddiaeth Adam Price wrth fynd i’r afael â honiadau o aflonyddu rhywiol a bwlio.

Ymhlith casgliadau’r adroddiad roedd y ffaith nad oes camau yn eu lle i sicrhau dull dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, a bod menywod wedi cael eu “gadael lawr” gan y blaid.

Roedd hefyd yn cyfeirio at achosion nad oedden nhw’n achosion unigol, a diwylliant o ofn wrth sôn am yr achosion hyn.

Fe wnaeth Adam Price ymddiheuro ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

‘Undod wrth weithio tuag at yr un nod’

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai helbulus i’r ddwy brif blaid yn San Steffan, gyda chyhuddiadau o Islamoffobia a thorri rheolau Covid-19 dan y chwyddwydr o safbwynt y Ceidwadwyr, tra bod gwrth-Semitiaeth wedi bod yn un o’r prif heriau i Lafur.

Ond wrth siarad â golwg360, dywed Liz Saville Roberts fod un gwahaniaeth mawr rhwng sefyllfa Plaid Cymru a sefyllfaoedd pleidiau eraill, sef fod ei phlaid hi wedi bod yn agored am eu problemau.

“Dydy’r sefyllfa ym Mhlaid Cymru ddim yn rhywbeth mae rhywun yn falch ohono fo, rydan ni wedi siarad yn gyhoeddus amdano fo,” meddai.

“Ond un o’r pethau dw i yn esbonio pan ydan ni’n sôn am ein problemau ni ydi, ‘Ylwch, rydan ni wedi siarad yn gyhoeddus amdano fo, rydan ni’n gwybod yn iawn bod yna bleidiau eraill… mae o’n digwydd o fewn Llafur, mae o’n digwydd o fewn y Ceidwadwyr.

“Mae gynnon nhw ddawn o guddio’r hyn sy’n digwydd o fewn eu plaid, lle rydan ni wedi derbyn bod yna rywbeth o’i le a bod rhaid i ni weithredu er mwyn creu plaid sy’n adlewyrchu’r gymdeithas rydan ni hefyd yn ei harddel.”

Dywed fod y sefyllfa ddiweddar “wedi bod yn ail gyfle i ni edrych ar sut rydan ni’n cydweithio, beth ydi rôl Grŵp y Senedd, beth ydy rôl Grŵp San Steffan…”

Rhan fawr o hynny, meddai, yw uno y tu ôl i’r ymgyrch tros annibyniaeth a gweithio tuag at yr un nod.

“Wrth gwrs, mi fydd yr arweinyddiaeth yn dod o Grŵp y Senedd achos mae hwnna yn ein Cyfansoddiad ni,” meddai.

“Ond ar ddiwedd y dydd, mi ydan ni’n gweithio at achos ac mae hyn wedi golygu bod rhaid i ni ffocysu ar bwysigrwydd ein hundod ni er mwyn gwireddu’r achos hynny, sef y camau tuag at annibyniaeth.”

Annibyniaeth yn fwy na gwleidyddiaeth bleidiol

Yn ystod ei haraith ar y llwyfan yn Abertawe, pwysleisiodd Liz Saville Roberts fod annibyniaeth yn rywbeth mwy na gwleidyddiaeth bleidiol, a bod cydweithio ar draws y pleidiau, fel maen nhw’n ei wneud eisoes fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda’r Llywodraeth Lafur yn y Senedd, yn allweddol ar gyfer yr ymgyrch.

“Dw i’n croesawu’r ffaith ein bod ni wedi rhannu llwyfan, achos un o’r rhesymau i fi fynd i Blaid Cymru oedd i arddel annibyniaeth,” meddai.

“Mae o’n rhan o ‘nghredoau i, mae o’n rhan o ‘ngwerthoedd i.

“Nid un plaid biau [annibyniaeth], ond wrth gwrs dw i’n meddwl fy mod i’n gywir i ddweud bod pobol yn cysylltu Plaid Cymru gydag annibyniaeth, ac mae yna ddyletswydd arnon ni i weithio efo eraill, ac i eraill weithio efo ni yn ogystal.”

A hithau’n ymgyrch sy’n digwydd ar lawr gwlad, mae’r mudiad annibyniaeth yn deall pwysigrwydd mentro allan i gymunedau ym mhob cwr o Gymru, ac yn enwedig cymunedau y tu allan i’r ‘Fro Gymraeg’ draddodiadol.

Dydy Liz Saville Roberts ddim yn synnu bod yr ymgyrch tros annibyniaeth wedi dechrau mewn ardaloedd mwy Cymraeg, ond mae hi’n gweld bod cyfle i gyrraedd mwy o bobol y tu allan i’r gynulleidfa arferol wrth fynd i ardaloedd fel Abertawe.

“Y bobol oedd yng nghanol y ddinas ar y strydoedd mawr, y strydoedd siopa, bydden nhw wedi ein gweld ni’n cerdded heibio yn canu, cerddoriaeth, sŵn, lliwiau, hwyl, ac mi fydd pobol fydd erioed wedi meddwl am ddweud y geiriau ‘annibyniaeth’ neu ‘independence’ mewn perthynas â Chymru,” meddai.

“Mi fydd y bobol yna’n ei ddweud o am y tro cyntaf, ac mi fyddan nhw’n ei gysylltu fo efo hwyl a buzz a lliwiau, yr holl sioe yma, a fel yna mae treiddio neges.”

‘Annibyniaeth ydi’r datrysiad’

Y tu hwnt i annibyniaeth fel cysyniad, roedd y digwyddiad yn Abertawe hefyd yn gyfle i dynnu sylw at yr argyfwng costau byw, ac fe benderfynodd y trefnwyr roi lle blaenllaw yn yr orymdaith i bobol ag anableddau fel un o’r grwpiau o bobol sydd wedi’u taro waethaf gan y sefyllfa sydd ohoni.

Un o negeseuon mwyaf poblogaidd y diwrnod oedd nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru bellach ac yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r “twf aruthrol” yn y gefnogaeth i annibyniaeth yn dangos bod “pobol yn deall bod gwleidyddiaeth yn angenrheidiol i newid ein bywydau ni”.

“Dw i wedi gwneud cyfweliadau eraill yn holi am y gefnogaeth i annibyniaeth yn sefyll ar 32-34%, ond llai na deng mlynedd yn ôl roedd o’n llai na 2-4%. Mae hwnna’n dwf aruthrol,” meddai.

“Mae pobol yn deall fod pethau ddim yn iawn fel ag y mae o ar hyn o bryd, ac mae yna fwy a mwy o bobol yn meddwl mai annibyniaeth ydi’r datrysiad.

“Un peth ydi disgrifio’r sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd, y tlodi a’r ffaith mai Cymru ydi’r tlotaf o genhedloedd y Deyrnas Gyfunol, ond mae angen i ni fod yn trafod beth ydi’r alternative.

“Beth fydden ni’n gwneud yn wahanol? Sut fedrwn ni fforddio hyn? Sut fedrwn ni ddefnyddio’n hadnoddau ni? Mae’n rhaid i ni gael y sgyrsiau yna hefyd.

“Mae’n wiredd mewn gwleidyddiaeth fod rhywun efo gwahanol negeseuon at wahanol bwrpasau ac yn cyrraedd gwahanol bobol, ac yng nghanol hynna i gyd, wel, mae’n dda cael hwyl!”

Darllenwch ragor am sefyllfa Plaid Cymru:

Llŷr Gruffydd yn galw am sicrwydd y daw rhagor o bwerau i Gymru

Daw’r alwad am addewid i ddatganoli’r economi, darlledu, ynni, lles, cyfiawnder, a thrafnidiaeth ar drothwy rali annibyniaeth yn Abertawe

Llŷr Gruffydd yn dechrau yn ei rôl fel arweinydd dros dro Plaid Cymru

“Er mai byr fydd fy nghyfnod fel arweinydd dros dro, rwy’n benderfynol o gyflymu’r newid cadarnhaol sydd ei angen”

‘Rhaid i ddiwylliant Plaid Cymru newid’

Mae bwlio a gwreig-gasineb wedi parhau’n rhy hir, medd Cefin Campbell
Adam Price

Plaid Cymru wedi disgwyl gormod gan Adam Price?

Huw Prys Jones

Ar ôl un o’r wythnosau mwyaf cythryblus yn hanes Plaid Cymru, colofnydd gwleidyddol golwg360 sy’n trafod ei rhagolygon

 

Darllenwch ragor am rali a gorymdaith annibyniaeth Abertawe:

Gorymdaith annibyniaeth YesCymru: Beth sydd angen ei wybod?

Hon yw’r “orymdaith fwyaf uchelgeisiol eto”, medd y mudiad annibyniaeth

Stori luniau a fideo: Abertawe a Chymru dros Gymru Rydd

Alun Rhys Chivers

Daeth miloedd ynghyd i orymdeithio drwy ganol y ddinas cyn i siaradwyr, gan gynnwys Mirain Angharad Owen, annerch y dorf ger Amgueddfa’r Glannau

Stori luniau: Marchnad cyn gorymdaith a rali annibyniaeth Abertawe

Alun Rhys Chivers

Ar ddiwrnod gorymdaith a rali annibyniaeth Pawb Dan Un Faner a YesCymru, mae marchnad wedi’i chynnal ger Amgueddfa’r Glannau