Mae disgwyl i filoedd o bobol heidio i Abertawe ddydd Sadwrn (Mai 20) ar gyfer gorymdaith a rali annibyniaeth Pawb Dan Un Faner a YesCymru.

Dyma orymdaith ddiweddara’r mudiad annibyniaeth yn dilyn digwyddiadau tebyg yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Wrecsam a Chaerdydd yn 2019 a 2022.

Roedd dros 10,000 o bobol yn yr orymdaith ddiweddaraf yn y brifddinas.

Bydd gorymdaith Abertawe’n dechrau ar Wind Street cyn mynd trwy ganol y ddinas a gorffen ger Amgueddfa’r Glannau, gyda llwybr yr orymdaith ychydig dros filltir.

Mae gofyn i unrhyw un sy’n bwriadu gorymdeithio ymgynnull am 12 o’r gloch fel bod modd gadael yn brydlon am 1 o’r gloch.

Ar ôl yr orymdaith, bydd rali am 2 o’r gloch ac ymhlith y siaradwyr fydd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan; yr awdur Mike Parker; Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru; a’r ymgyrchydd o’r Alban, Robin McAlpine, sylfaenydd Common Weal.

Bydd marchnad Yes Cymru ar agor rhwng 10 o’r gloch a 4 o’r gloch ar lawnt Amgueddfa’r Glannau.

Yn dechrau’r penwythnos heno (nos Wener, Mai 19) fydd noson o farddoniaeth, cerddoriaeth fyw a hwyl, sgwrs gan Melin Drafod am ba mor fforddiadwy yw annibyniaeth, comedi gyda Noel James ac eraill, sgwrs gan Gymdeithas yr Iaith am Greu Cymru Rydd, noson o farddoniaeth Gymraeg gyda’r Beirdd Cochion a sesiwn werin.

Mae holl fanylion y digwyddiadau ar wefan YesCymru.

‘Yr orymdaith fwyaf uchelgeisiol eto’

Yn ôl Elfed Williams, cadeirydd YesCymru, hon fydd yr orymdaith fwyaf uchelgeisiol eto.

“Mae rhywbeth arbennig am ddod ynghyd i orymdeithio dros Gymru annibynnol, ac mae’n wych gweld bod y gorymdeithiau wedi tyfu bob tro, gyda gorymdaith Abertawe yr un fwyaf uchelgeisiol eto!” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â phobol Abertawe i groesawu pobol o bob cwr o Gymru ar Fai 20.

“Mae’r gri am annibyniaeth yn cynyddu bob wythnos wrth i bobol Cymru sylweddoli mai’r unig ffordd y gall ein cenedl ffynnu yw drwy dorri’n rhydd oddi wrth yr undeb yma sy’n chwalu.”

‘Gorymdeithio yn erbyn anghyfiawnderau’

“Fe fyddwn ni’n gorymdeithio yn erbyn yr anghyfiawnderau rydyn ni’n eu hwynebu fel cenedl – ar ariannu rheilffyrdd, dŵr, a’r ymosodiadau ar brotestiadau heddychlon,” meddai Liz Saville Roberts.

“Ond yn fwy na hynny, fe fyddwn ni’n amlinellu ein gweledigaeth o wlad well, gyfoethocach a thecach.

“Byddwn yn gorymdeithio ac yn protestio yn uchel – yn groes i ymosodiadau San Steffan ar yr hawl i brotestio – gan gynnal traddodiad balch Cymreig; nid yn unig o sefyll yn erbyn anghyfiawnder, ond codi ben ac ysgwydd uwch ei ben i greu rhywbeth gwell.

“Mae arolwg barn yr wythnos hon yn adlewyrchu hyder cynyddol rydyn ni i gyd yn ei deimlo yng Nghymru. Mae’n amser i San Steffan wrando.”

Yn ôl Mike Parker, “mae’r ymgyrch dros annibyniaeth yn ymwneud â sylwedd go iawn”.

“Ac mae brys…” meddai.

“Mae angen gwerthoedd Cymreig ar y byd – cymuned gref, caredigrwydd, cynaladwyedd – ac mae eu hangen ar y llwyfan ehangaf posib. Mae mor syml â hynny.

“Ni fydd unrhyw tincian o amgylch ymylon y setliad presennol yn rhoi llais go iawn i Gymru.

“Mae’r Deyrnas Unedig wedi dangos dro ar ôl tro na all ac na fydd yn diwygio ei hun.”

‘Gadael yn llawn gobaith’

“Bob tro dwi’n dod lawr i Gymru ac yn treulio amser yn y mudiad annibyniaeth dwi’n gadael yn llawn gobaith,” meddai Robin McAlpine.

“Mae egni gwirioneddol o gwmpas y mudiad annibyniaeth ac mae’n gyffrous gwylio o’r Alban.

“Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â chi i gyd yn Abertawe ac i rannu ein holl obeithion o’r Alban y gallwch chi gynnal y momentwm ac adeiladu hyd yn oed ymhellach ar hynny.”

Mae modd dilyn llwybr yr orymdaith a darllen rhagor am ddigwyddiadau’r diwrnod drwy fynd i wefan Pawb Dan Un Faner (AUOB).