Rhaid i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig atal pwll glo Aberpergwm rhag cael ei ehangu, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Daw’r alwad gan arweinydd y blaid ar ôl i Coal Action Network golli adolygiad barnwrol i atal y cynlluniau i ehangu’r pwll glo yng Nghwm Nedd.
Yn ôl Jane Dodds, mae’n “newyddion hynod siomedig ac yn ergyd i’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd”.
“Os ydyn ni am herio’r argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid i lo aros dan ddaear,” meddai.
“Yr wythnos hon, rhybuddiodd Sefydliad Meteorolegol y Byd ein bod ni bellach yn debygol o dorri cynnydd o 1.5 gradd selsiws erbyn 2027.
“Allwn ni ddim fforddio echdynnu deugain miliwn tunnell yn rhagor o lo.
“Y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yw’r unig blaid sydd wedi brwydro yn erbyn yr estyniad hwn, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
“Byddaf yn parhau i ddefnyddio fy llais i alw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i gamu i mewn i atal yr estyniad hwn.
“Mae cenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar hynny.”