Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am gamau llymach gan Lywodraeth Lafur Cymru i atal agor pyllau glo newydd yng Nghymru.
Daw’r alwad ar ôl i’r blaid ennill pleidlais o 197 i 194 yn Nhŷ’r Arglwyddi er mwyn atal agor pyllau glo newydd yn Lloegr.
Mae gan Gymru yr hawl i benderfynu ar ddyfodol pyllau glo yn dilyn pasio Deddf Cymru 2017, ac fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru derfyn dan reolaeth ar echdynnu a defnyddio glo yn 2021, gan nodi na fyddai unrhyw drwyddedau newydd yn cael eu rhoi.
Ond dros y misoedd diwethaf, fe fu rhai pyllau – gan gynnwys Aberpergwm yng Nghastell-nedd Port Talbot, Ffos-y-frân ym Merthyr Tudful a Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin – yn ceisio ymestyn eu trwyddedau.
Y Democratiaid Rhyddfrydol yw’r unig blaid hyd yn hyn i ddatgan eu gwrthwynebiad i ehangu’r pyllau.
Mae arolwg barnwrol ar y gweill mewn perthynas ag Aberpergwm.
Nid yn unig mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am atal trwyddedau newydd, ond trwyddedau cyfredol hefyd.
Y gred yw y gallai ehangu trwydded Aberpergwm arwain at 42m tunnell yn rhagor o lo yn cael ei echdynnu, gan allyrru hyd at 100m tunnell o garbon deuocsid ac 1.17m tunnell o fethân hyd at 2039.
‘Mae’r amser ar gyfer glo wedi hen fynd heibio’
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn glir, mae’r amser ar gyfer glo wedi hen fynd heibio,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.
“Nid yn unig mae parhau i gloddio a llosgi glo yn cyfrannu at redeg i ffwrdd â newid hinsawdd, ond hefyd at lygredd aer ac iechyd gwael.
“Mae dyfodol Cymru mewn ynni adnewyddadwy glân, ond ni yw’r unig blaid yn y Senedd sy’n gwrthwynebu ehangu’r pyllau glo hyn.”
“Rydyn ni eisiau gweld buddsoddiad go iawn mewn hen gymunedau glo, buddsoddiad mewn swyddi newydd megis hydrogen gwyrdd fydd yn darparu cyflogaeth a chyfleoedd hirdymor, nid buddsoddiad mewn diwydiannau sy’n marw a llygru.”